Siwan Davies yn ennill Medal Wyddoniaeth yr Eisteddfod

Yn ôl Siwan Davies, bydd derbyn y fedal yn ei hardal enedigol yn brofiad "arbennig"
- Cyhoeddwyd
Bydd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn cael ei chyflwyno i'r Athro Siwan Davies.
Mae'n cael ei chydnabod am ei chyfraniad eithriadol i ymchwil wyddonol, addysg a chyfathrebu gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r fedal yn cael ei rhoi i anrhydeddu unigolion sydd wedi creu argraff ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Am y tro cyntaf eleni mae'r fedal yn cael ei chyflwyno er cof am Dr Glyn O Phillips, enillydd cyntaf y wobr yn 2004.
Penri Williams i dderbyn Medal R. Alun yn Eisteddfod y Garreg Las
- Cyhoeddwyd23 awr yn ôl
Pwy yw'r pedwar ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn eleni?
- Cyhoeddwyd15 Mehefin
Sut mae cyrraedd Maes Eisteddfod y Garreg Las?
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Yn wreiddiol o Drefdraeth yn ardal yr Eisteddfod eleni, mae Siwan Davies yn ysgolhaig sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol ym maes daearyddiaeth ffisegol a newid hinsawdd.
Ar ôl graddio mewn Daearyddiaeth yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, cwblhaodd radd Meistr a PhD yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain. Ymunodd â Phrifysgol Abertawe yn 2004.
Yn ogystal â'i gwaith ymchwil, mae wedi goruchwylio ymchwilwyr newydd, a gwasanaethu ar Fwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae'n cael ei disgrifio fel ymchwilydd blaenllaw sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol yn ei maes, gan hyrwyddo cyfleoedd i fenywod mewn gwyddoniaeth ochr yn ochr â'i gwaith academaidd.
Bu hefyd yn rhan o sefydlu SwanStemWomen, menter sy'n cynnig mentora, hyfforddiant a chyfleoedd rhwydweithio i gefnogi menywod mewn STEM.
'Wedi ysbrydoli cenedlaethau o fyfyrwyr'
Yn ôl Siwan, mae cael ei hychwanegu at restr enillwyr y Fedal Wyddoniaeth yn "fraint enfawr".
"Mae ei derbyn yn Eisteddfod y Garreg Las, yn yr ardal lle cefais fy magu, yn ei gwneud yn fwy arbennig byth."
Dywedodd yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe fod yr anrhydedd hon yn "gwbl haeddiannol".
"Fel arweinydd ymchwil sydd wedi ennill enw da yn rhyngwladol am ei gwaith ar newid hinsawdd, mae hi hefyd wedi sicrhau bod y Gymraeg yn greiddiol i'w haddysgu, ei hymchwil a'i gwaith cyhoeddus.
"Mae wedi llwyddo i gyflwyno gwyddoniaeth gymhleth mewn ffordd ddealladwy, ac wedi ysbrydoli cenedlaethau o fyfyrwyr a gwyddonwyr ifanc."
Bydd yn cael ei hanrhydeddu mewn seremoni arbennig yn y pentref gwyddoniaeth am 10:30 ddydd Iau, 6 Awst, ac yn ddiweddarach yn y Pafiliwn am 14:00.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.