Canolfannau data: Cyfle i ddyfodol Cymru neu faich ar adnoddau a'r amgylchedd?

Mae na ddwy fenyw yn y llun yma yn dal baner sy'n dweud 'ditch the data save the park + ride.' Mae'r fenyw ar y chwith yn gwisgo crys porffor gyda thrwsus patrymog. Mae'r fenyw ar y dde yn sgwisgo siorts hufen gyda chrys coch.
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na wrthwynebiad i gynlluniau am ganolfan ddata newydd yng Nghaerdydd

GanMegan DaviesaBethan BushellBBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr yn galw am oedi wrth ystyried cynlluniau i adeiladu canolfan ddata yng Nghaerdydd.

Mae canolfannau data yn adeiladau sy'n llawn cyfrifiaduron pwerus sy'n cael eu defnyddio i redeg gwasanaethau digidol fel bancio ar-lein a ffrydio ffilmiau.

Mae nifer y canolfannau data ledled y Deyrnas Unedig ar gynnydd wrth i dwf deallusrwydd artiffisial gynyddu'r angen am bŵer prosesu.

Mae Llywodraeth y DU yn ystyried canolfannau data yn seilwaith cenedlaethol hanfodol, yn debyg i'r gwasanaethau brys, cyflenwadau ynni a dŵr.

Mae'r "rhan fwyaf o swyddi yn y DU" bellach yn "ddibynnol ar" ganolfannau data, yn ôl ymchwil diweddar gan y Senedd.

Ond mae pryderon wedi'u codi ynghylch faint o adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw - gan gynnwys trydan, capasiti grid a dŵr - yn ogystal â'r effaith ar y cymunedau lle maen nhw'n cael eu hadeiladu.

Merch ar ffonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rydyn ni'n dibynnu ar ganolfannau data ar gyfer popeth o fancio ar-lein i ffrydio ffilmiau

Yng Nghaerdydd, mae ymgyrchwyr yn pryderu am gynigion i adeiladu canolfan ddata yn Llanrhymni, ar safle Parcio a Theithio Dwyrain Caerdydd, sy'n cludo teithwyr am ddim i Ysbyty Athrofaol Cymru.

"Mae'r parcio a theithio mor bwysig," meddai Sue Elias, sy'n defnyddio'r gwasanaeth ac sydd wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn y cynnig gydag undeb y trigolion Acorn.

Dywedodd Elias ei bod yn deall yr angen i adeiladu canolfannau data, ond dywedodd "y dylai fod oedi" i ystyried y safleoedd mwyaf cyfrifol.

"Ni ddylent gael eu codi ac yna poeni am y canlyniadau wedyn."

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (CVUHB) fod Parcio a Theithio Dwyrain Caerdydd yn "gyswllt trafnidiaeth hanfodol", gan ychwanegu ei fod wedi "ymrwymo i nodi lleoliad amgen addas a chyfleus".

Mae'r ymgyrchwyr hefyd yn pryderu am yr effaith bosibl ar yr amgylchedd yn lleol.

"Byddai'r ganolfan ddata maen nhw bwriadu adeiladu yn hunllef amgylcheddol i'r bywyd gwyllt a'r bobl leol," meddai Lizzie Bailey, sy'n byw yn yr ardal.

"Bydd hyn yn aflonyddwch dros dro gyda'r gwaith adeiladu ond yna aflonyddwch parhaol oherwydd y generaduron diesel, y synau, y ffannau oeri, pethau fel 'na."

Yn ôl Cai Parry Jones, AS Reform dros Gaerdydd Ffynnon Taf, mae'r gwasanaeth parcio a theithio yn hollbwysig i leihau traffig yn y ddinas.

Mae hefyd yn poeni am yr ynni fydd ei angen ar y ganolfan ddata.

"S'gennai'm problem gyda centre data per se ond dwi yn gwybod bod y centre data yma angen llawer iawn o egni," meddai.

Dywedodd Curtis Hall Ltd, y cwmni y tu ôl i'r cynlluniau, na fyddai'r datblygiad "yn rhoi straen ar y grid ynni na'r seilwaith dŵr".

Ychwanegodd y cwmni: "Mae gofynion dŵr a draenio'r ganolfan ddata wedi'u datblygu mewn ymgynghoriad â Dŵr Cymru ac mae angen eu cytundeb ar gyfer unrhyw gysylltiad â'r rhwydwaith cyhoeddus.

"Mae hyn yn sicrhau y gellir darparu ar gyfer ein canolfan ddata heb effeithio ar y cyflenwad dŵr i gartrefi trigolion."

Ychwanegodd y cwmni fod "asesiad manwl o effaith sŵn" wedi dod i'r casgliad na fydd gan y ganolfan ddata "effaith andwyol ar y cartrefi agosaf o ran sŵn, gan gynnwys yn y nos".

Dywedodd Cyngor Caerdydd fod y cynnig yn cael ei ystyried, gan ychwanegu "fel gyda phob cais cynllunio, bydd y cynnig yn cael ei asesu yn erbyn polisïau cynllunio perthnasol ac ystyriaethau cynllunio materol".

Anogodd y cyngor bobl â "sylwadau, pryderon neu safbwyntiau" i'w cyflwyno drwy'r broses ymgynghori.

Pam bod canolfannau data yn hawlio sylw?

Ar hyn o bryd mae 568 o ganolfannau data wedi'u rhestru yn y Deyrnas Unedig, yn ôl map y canolfannau data, dolen allanol.

Mae ymchwil yn awgrymu bod disgwyl i'r nifer gynyddu bron i 20%, gyda naw canolfan wedi'u cynnig yng Nghymru.

Yn ddiweddar, amlinellodd dogfen Ymchwil y Senedd, dolen allanol y cyfleoedd y gallai canolfannau data eu cynnig, gan gynnwys "swyddi, buddsoddiad, datblygu sgiliau a chefnogaeth i arloesedd".

Ond nododd hefyd y "cwestiynau sylweddol am adnoddau a pholisi y maent yn eu codi", gan gynnwys y galw am drydan, capasiti'r grid, defnydd dŵr, gofynion tir, bioamrywiaeth, ac effeithiau ar gymunedau lleol.

Dywedodd Ofgem fod swm o drydan a ofynnwyd amdano gan brosiectau canolfannau data sy'n ceisio cysylltu â'r grid wedi codi o 41GW i 125GW yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan adlewyrchu cynnydd sydyn yn y galw.

Amcangyfrifodd Water UK, y gymdeithas fasnach ar gyfer diwydiant dŵr, fod canolfannau data yn defnyddio tua 6.6 miliwn litr o ddŵr y dydd, dolen allanol - yr hyn sy'n cyfateb i'r hyn a ddefnyddir gan 20,000 o gartrefi cyffredin.

Yn ôl rhai dadansoddiadau, y DU eisoes yw'r drydedd genedl fwyaf ar gyfer canolfannau data y tu ôl i'r Unol Daleithiau a'r Almaen.

Canolfan ddata Google yn Cheshunt, HertfordshireFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r sefydliad amgylcheddol Cyfeillion y Ddaear yn galw am saib ledled y DU ar bob canolfan ddata newydd.

"Rydym yn gofyn am y saib hwnnw nes bod rheolau clir wedi'u nodi ynghylch faint o ynni a dŵr y gall canolfannau data eu defnyddio, er mwyn sicrhau nad ydyn nhw'n sugno ein ynni adnewyddadwy sydd ei angen yn fawr a'n dŵr glân," meddai Kierra Box, o'r grŵp.

"Mae angen syniad arnom o sut mae'r llywodraeth, nawr ac yn y dyfodol, yn mynd i bennu effaith unigol a chyfunol yr holl ganolfannau data hyn ar yr amgylchedd, ar gymunedau, ar natur."

Ydy'r sector yn gyfle i Gymru?

"Fyddwn i'n galw am sgwrs, dyna'r unig beth allwn ni 'neud i 'neud yn siwr bod ni'n symud fatha cenedl hefo llygaid ar agor i'r byd newydd 'ma'," meddai Pryderi ap Rhisiart.

Llynedd mi oedd Rheolwr a Chyfarwyddwr M-SParc wedi cynnal cynhadledd, dolen allanol yn ystyried canolfannau data yng Nghymru.

"Mae'r galw yn mynd trwy'r to am yr AI (deallusrwydd artiffisial) a'r pŵer cyfrifiadurol," meddai, gan ychwanegu ei fod wedi ymweld â chanolfan ddata yn Sweden.

Mae Pryderi ap Rhisiart yn eistedd wrth ddesg ac yn gwenu. Mae ganddo gris gwyn a gwallt brown.Ffynhonnell y llun, M-Sparc
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pryderi ap Rhisiart yn teimlo gallai'r sector fod yn dda i Gymru gyda chynllunio gofalus a strategol

Mi oedd y gynhadledd yn ystyried beth fyddai ymarfer da yn edrych fel yng Nghymru os yw canolfannau data yn cael eu hadeiladau, meddai.

"Sut ydyn ni'n gwneud yn siŵr bod e'n digwydd yn y ffordd iawn i bobl Cymru ac i fusnesau Cymru, ac i bobl ifanc Cymru?

"Mae'r angen am ofod yn sicr wedi bod yn anferthol, gyda'r gofod 'na, mae 'na angen am drydan a mae 'na angen am ddŵr i oeri'r holl beth."

Mae ap Rhisiart yn cofio cwrdd ag unigolyn o Ynys Môn oedd yn gweithio fel ymgynghorydd yn datblygu canolfannau data dros y byd.

"Nath o gysylltu yn dweud 'dwi'n poeni bo' ni'n cwsg-gerdded yng Nghymru i fewn i sector canolfannau data a 'da ni ddim yn ei ddallt o.

"O'dd o'n awyddus i ni fel Cymru i gael y sgwrs 'na ynglŷn a be' sy'n dda a be' sy' ddim."

Ychwanegodd ap Rhisiart fod angen edrych ar y pwnc yn "ei gyfanrwydd" ac ystyried sut fydd y sector yma yn "gwarchod y bobl ifanc", cynnig swyddi ac ystyried arloesedd.

"Swn i'n teimlo'n bositif amdano fo tase fe'n cael ei 'neud yn ofalus a wedi ei gynllunio yn ofalus ac yn strategol, gan feddwl am yr amgylchedd, y cymunedau, lle mae'r gwaith yn mynd i ddod ohono fo.

"Sa hwn yn gallu bod yn rhywbeth cynhyrfus iawn, iawn i Gymru tase ni'n 'neud e yn y ffordd iawn ond dwi yn bryderus ar hyn o bryd bo' ni ddim yn cynnal y sgwrs yn ddigon."

Beth mae'r gwleidyddion yn ei ddweud?

Dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Uned fod llawer o ganolfannau data newydd "eisoes yn defnyddio systemau oeri uwch sy'n lleihau'r defnydd o ddŵr yn sylweddol, ac mae'r sector canolfannau data yn gweithredu o dan Gytundeb Newid Hinsawdd i annog mwy o weithredwyr i gymryd mesurau effeithlonrwydd ynni".

Ychwanegon nhw: "Mae'n ofynnol i geisiadau cynllunio canolfannau data ystyried yr effaith ar gymunedau a'r amgylchedd.

"Byddwn yn galluogi datblygiad canolfannau data trwy greu symiau digynsail o bŵer glân, tra bod ein Parthau Twf AI yn cefnogi datblygiad canolfannau data mewn ardaloedd sydd â mynediad at ynni glân."

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod bod canolfannau data yn defnyddio llawer o ynni.

"Wrth i'r galw am seilwaith digidol gynyddu, mae'n bwysig bod datblygiadau newydd yn defnyddio technolegau a dulliau sy'n lleihau'r defnydd o ynni ac adnoddau gymaint â phosibl."

Ychwanegodd y datganiad fod "Cymru'n cael ei chydnabod fwy a mwy fel lleoliad strategol ar gyfer y seilwaith" i'r economi ddigidol, gan ychwanegu y bydd "buddsoddi mewn canolfannau data yn gallu creu cyfleoedd economaidd newydd a chefnogi cyflogaeth fedrus".

"Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod manteision unrhyw fuddsoddiad yn cael eu teimlo gan fusnesau, cymunedau ac economi ehangach Cymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig