Sioe gerdd newydd Calon yn 'deyrnged i holl waith Caryl Parry Jones'

Yr holl griw gyda'r tîm cynhyrchu (chwith i'r dde) Elan Isaac (cyfarwyddwr symud), Caryl Parry Jones, Rhian Blythe (cyfarwyddo, Theatr Cymru), Non Parry a Miriam Issac (hyfforddwraig llais)
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth dros 100 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru gamu ar lwyfan Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ddydd Iau ar gyfer perfformiad cyntaf 'Calon'.
Dyma sioe gerdd newydd Theatr Ieuenctid yr Urdd sydd wedi ei seilio ar ganeuon eiconig Caryl Parry Jones.
Mae Calon yn llawn o'r caneuon cyfarwydd a hynod boblogaidd gan Caryl dros 40 mlynedd, yn cynnwys Calon a rhai o ganeuon Eden.
Yn cydweithio â Caryl ar y sioe mae ei chyfnither a'r gantores Non Parry; y Cyfarwyddwr Symud a Choreograffydd Elan Isaac a'r actores, cantores a chyflwynwraig Miriam Isaac; sef dwy o ferched Caryl.
Dywedodd Efan Williams, un o'r prif gymeriadau, fod y sioe yn "deyrnged i holl waith [Caryl Parry Jones] dros y blynyddoedd".
'Ni gyd yn gyffrous'
Calon yw sioe fwyaf Cwmni Theatr yr Urdd ar ei newydd wedd, ers ail-lansio yn ystod blwyddyn canmlwyddiant y mudiad yn 2022.
Ond er i'r criw berfformio ar lwyfan Theatr Donald Gordon nos iau, fe gychwynnodd y gwaith o greu'r sioe dros flwyddyn yn ôl, fel esbonia Efan Williams:
"Mae'r syniad wedi dechre dros flwyddyn yn ôl gyda Branwen Davies sef cynhyrchydd Cwmni Theatr yr Urdd.
"Ac wedyn gafon ni lansiad 'nôl ym mis Tachwedd, gafon ni ymarferion wedyn dros y Pasg i ddechrau gweithio ar y darnau, ac wedyn dechrau gweithio 'nol arni ryw bythefnos yn ôl erbyn hyn.
"Ni gyd jyst yn gyffrous i fynd o flaen cynulleidfa sydd ddim yn gwybod dim byd am sioe," meddai.

Mae Efan Williams wedi hen arfer canu o flaen cynulleidfa fel prif leisydd y grŵp Dadleoli
Wrth siarad ar Dros Frecwast cyn eu perfformiad cyntaf, dywedodd Glain Llwyd, un o'r prif gymeriadau, fod y sioe yn dilyn "stori am ferch ifanc o'r enw Sil sy'n mynd ar daith newydd yn ei bywyd".
Roedd Glain yn edrych ymlaen yn arw at berfformio, yn enwedig gan ei bod wedi "tyfu lan yn gwrando ar ganeuon Caryl".
Ychwanegodd fod ei thad yn aelod o'r band 'Diffiniad' sydd wedi perfformio'r gân 'Calon' droeon, ac felly doedd dim dewis ganddi!

Yn wahanol i nifer o'r cast, nid dyma'r tro cyntaf i Efan gydweithio â Caryl.
"Fi 'di bod yn lwcus, fues i mewn ffilm o'r enw Albi a Noa 10 mlynedd yn ôl erbyn hyn a chydweithrediad oedd hwnna hefyd, efo Non, cyfnither Caryl, a oedd Miriam ac Elan, merched Caryl hefyd ynghlwm â'r ffilm honno.
"Felly mae'r gylchred wedi ei gwblhau efo'r sioe yma i fi yn bersonol," ychwanegodd.
Er bod caneuon Caryl yn gyfarwydd i nifer, dywedodd Efan fod y cast "wedi darganfod cymaint o wahanol elfennau o waith Caryl, yn gweld faint ma' hi wedi gwneud dros y blynyddoedd.
"Mae'n deyrnged i'w holl waith hi dros y blynyddoedd, o'r sgetsys i'r caneuon.
"Ma' hwn yn brofiad anhygoel i roi hwb i fi a nudge i fi i ddangos faint o gyfleoedd sydd allan yna yng Nghymru ond hefyd tu hwnt."
Wrth edrych ymlaen at y dyfodol, dywedodd Efan, sydd hefyd yn brif leisydd y band Dadleoli, mai "perfformio ydi'r freuddwyd ond gawn ni weld be' neith godi dros y blynyddoedd nesaf".
"Mae'n hynod gyffrous i weld talent Cymru ar ail lwyfan mwyaf Ewrop."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill
