Dau ffrind wedi marw yn Eryri wrth fynydda mewn 'amodau eithafol' - cwest

Bu farw Jayden Long ac Eddie Hill tra'n mynydda ar Grib y Ddysgl
- Cyhoeddwyd
Bu farw dau ffrind ar grib mynydd yn Eryri yn ystod amodau gaeafol eithafol, mae cwest wedi clywed.
Cafodd cyrff Eddie Hill, 20, a Jayden Long, 19, o Norfolk, eu canfod gan dîm achub mynydd ar 19 Chwefror.
Fe wnaethon nhw farw ar Grib y Ddysgl - sy'n cyrraedd uchder o 1,065 metr - sydd o fewn milltir i gopa'r Wyddfa.
Wrth gofnodi marwolaeth drwy anffawd yn achos y ddau - dywedodd y crwner eu bod wedi marw o ganlyniad i ddisgyn ar dir mynyddig serth.
Teyrngedau i ddau ddyn ifanc 'rhyfeddol' fu farw ar Yr Wyddfa
- Cyhoeddwyd22 Chwefror
Dau ddyn ifanc wedi marw ar ôl mynd ar goll ar Yr Wyddfa
- Cyhoeddwyd22 Chwefror
Clywodd y cwest yn Llys y Crwner Caernarfon fore Iau gan Philip Benbow, prif gydlynydd Tîm Achub Mynydd Llanberis.
Dywedodd ei fod wedi cael gwybod gan Heddlu'r Gogledd ar noson 18 Chwefror am alwad 999 - dair awr ynghynt - gan ddyn, y maen nhw'n credu, oedd ar Grib y Ddysgl.
Cafodd yr alwad ei hadnabod yn ddiweddarach fel un oedd wedi dod o ffôn symudol Jayden Long.
Ar ôl ymholiadau pellach, gan gynnwys cyswllt gydag aelodau teulu, bu timau achub mynydd a hofrennydd Gwylwyr y Glannau yn chwilio yn yr ardal ond ni lwyddon nhw i ddod o hyd i'r ddau.
Yna, cafodd penderfyniad ei wneud i barhau â'r chwilio ar doriad gwawr. Ymunodd timau cŵn achub o Lanberis, Aberglaslyn a Dyffryn Ogwen yn y chwilio ar fore 19 Chwefror.
Am 10:46 gwelodd dau aelod o dîm Llanberis lwybr posib yn yr eira, a chafodd drôn a hofrennydd Gwylwyr y Glannau ei anfon i'r lleoliad.
Cafodd cyrff y dynion eu darganfod ac mi gafodd eu marwolaethau eu cadarnhau.

Cafodd yr amodau ar y grib eu disgrifio fel rhai "eithafol" gan aelod o Dîm Achub Mynydd Llanberis
Disgrifiodd Philip Benbow yr olygfa ar y grib fel "amodau gaeafol eithafol".
Dywedodd fod teulu Jayden wedi dweud wrtho ei fod wedi bod yn cerdded yn Ardal y Llynnoedd ac y Peak District, ond mai dyma'r tro cyntaf iddo fod yn Eryri.
Er bod gan y ddau esgidiau â phigau arnynt, nid oedd ganddyn nhw gramponau (crampons) na bwyelli rhew, meddai Mr Benbow.
Esboniodd fod arwyddion mewn amryw o wahanol lefydd ar y mynyddoedd, yn rhybuddio bod angen bod yn ddringwyr profiadol i ddilyn llwybrau penodol.
Ychwanegodd Mr Benbow nad oedd digon o wybodaeth am leoliad a natur yr alwad i anfon cymorth ar unwaith, pan gafodd wybod yn gyntaf.
Pryderon am ymateb yr heddlu
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl James Lloyd, o adran safonau proffesiynol Heddlu'r Gogledd, er bod yr ystafell reoli wedi gwneud ymdrechion i gysylltu ymhellach â'r person wnaeth ffonio 999, "ni chafodd yr achos ei drin fel y dylai".
Yn ôl y ditectif gwnstabl, roedd staff a'r heddlu wedi bod yn dysgu ynghylch trosglwyddo galwadau tebyg i dimau achub mynydd yn gynt, er mwyn iddynt fedru eu hasesu.
Er beirniadaeth gan dad Mr Long, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Lloyd ei fod wedi canfod nad oedd Heddlu'r Gogledd wedi cyfrannu at farwolaethau'r ddau ddyn.
Ychwanegodd y Coroner Cynorthwyol, Sarah Riley, fod y ddau ddyn wedi marw oherwydd nifer o anafiadau trawmatig.
Yn ei chasgliadau, nododd Ms Riley nad oedd hi'n gallu bod yn siŵr os oedd y ddau wedi disgyn gyda'i gilydd neu os oedd un wedi disgyn wrth geisio helpu'r llall.
Bydd adroddiad osgoi marwolaethau yn y dyfodol yn cael ei anfon at Heddlu'r Gogledd yn sgil pryderon am y diffyg gweithredu wedi'r alwad 999 wreiddiol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.