Targedau newydd ar gyfer darllen, mathemateg a phresenoldeb i hybu safonau ysgolion

Dosbarth ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
GanBethan Lewis
Gohebydd Addysg a Theulu
  • Cyhoeddwyd

Bydd targedau newydd ar gyfer lefelau darllen, rhifedd a phresenoldeb yn cael eu sefydlu yn sgil pryder am safonau o fewn trefn addysg Cymru.

Mae'n dilyn canlyniadau profion rhyngwladol PISA yr wythnos diwethaf oedd yn dangos bod perfformiad pobl ifanc Cymru mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth wedi cwympo ymhellach fyth tu ôl i ddisgyblion yng ngweddill y Deyrnas Unedig.

Yn siambr y Senedd, disgrifiodd y prif weinidog Rhun ap Iorwerth y canlyniadau fel rhai "hynod o siomedig", a dywedodd y gweinidog addysg Anna Brychan bod "ffocws ar lythrennedd a rhifedd wedi pylu" yn sgil cyfnod hir o ddiwygio.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod angen i Gymru ddysgu gwersi o Loegr.

Anna Brychan
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Anna Brychan "nad bai ysgolion nac athrawon yw hyn" a'u bod wedi etifeddu system oedd heb "gyfeiriad pendant"

Wrth ddisgrifio canlyniadau PISA yn rhagair yr adroddiad, dywedodd y gweinidog addysg bod y canlyniadau wedi dangos bod "dysgwyr yng Nghymru yn perfformio'n sylweddol is ar gyfartaledd na dysgwyr mewn gwledydd tebyg eraill".

Ychwanegodd: "Ni all – ac ni chaiff – y sefyllfa barhau."

Dywedodd "nad bai ysgolion nac athrawon yw hyn" a'u bod wedi etifeddu system oedd heb "gyfeiriad pendant".

Mae'r cynllun newydd yn ymrwymo i sicrhau dealltwriaeth o'r waelodlin ar gyfer lefelau llythrennedd a rhifedd plant sy'n dechrau'r ysgol, yn ogystal â gosod targed ar gyfer y lefel y dylai plant 11 oed gyrraedd erbyn blwyddyn 6 - blwyddyn olaf ysgol gynradd.

Mae hefyd yn cyflwyno targed cenedlaethol i gynyddu presenoldeb 0.5 pwynt canran o flwyddyn i flwyddyn, gan hefyd leihau'r bwlch presenoldeb rhwng y disgyblion mwyaf difreintiedig a'u cyd-ddisgyblion.

Yn ôl y data ar gyfer y flwyddyn academaidd ddiwethaf roedd presenoldeb yn 90.7%, sydd ychydig yn is na'r flwyddyn flaenorol ac yn sylweddol is na chyn y pandemig pan oedd y canran yn uwch na 94%.

Yn ogystal, mae yna darged i leihau absenoldeb parhaus, sef colli mwy na 10% o amser ysgol, gan 2%.

Mesur cenedlaethol arall fydd canran y disgyblion Blwyddyn 1 sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd y llywodraeth y byddai'r targedau llythrennedd a rhifedd yn cael eu llunio unwaith roedd dealltwriaeth o'r waelodlin.

'Ni moyn eglurder'

Dywedodd y gweinidog addysg mai'r bwriad oedd gwella systemau cenedlaethol nid creu "tablau cynghrair" ysgolion.

Dydy'r cynllun ddim yn cynnwys cyhoeddi data ar lefel ysgolion na'n creu trefn fyddai'n galluogi rhieni i gymharu perfformiad rhwng ysgolion.

Ond dywedodd Anna Brychan y byddai modd i rieni gael gwybodaeth am gynnydd eu plentyn eu hunain.

Fe fyddai hefyd yn caniatáu i'r llywodraeth gadw ei hun "i gyfrif", meddai.

"Er bod hwn yn rhan o ymateb i PISA, mae e hefyd yn ymateb i ofyn sy wedi bod yn ein system addysg ni ers cryn amser - ni moyn eglurder, egluro disgwyliadau yn well a ni moyn i chi ein cefnogi er mwyn hwyluso cynnydd yn y meysydd hynny," ychwanegodd.

Ochr yn ochr â'r cynllun, mae'r gweinidog wedi addo adolygu'r Cwricwlwm i Gymru a rhoi mwy o eglurder ynglŷn â beth mae angen i ddysgwyr wybod a phryd o flwyddyn i flwyddyn.

Dywedodd fod rhieni, lleoliadau gofal plant, athrawon, arweinwyr ysgolion a chyrff fe awdurdodau lleol a'r arolygaeth Estyn i gyd â'u rhan wrth fwrw 'mlaen gyda gwelliannau.

Bydd rhieni'n cael eu hannog i ddarllen gyda'u plant a chefnogi eu dysgu, ychwanegodd.

Trystan Edwards tu allan i Ysgol Garth Olwg
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n meddwl y bydd e'n helpu i roi cysondeb i ni yn y dysgu ar draws y wlad," meddai pennaeth Ysgol Garth Olwg, Trystan Edwards

Mae'r dull ar gyfer dysgu plant ifanc sut i ddarllen wedi bod yn ddadleuol tu hwnt ac mae'r llywodraeth yn addo canllawiau

Mae'n addo canllawiau clir ar bwysigrwydd defnyddio Ffoneg Synthetig Systematig, ar ôl i arbenigwyr ddadlau bod nifer o ysgolion Cymru ddim yn dilyn y dystiolaeth wrth ddysgu darllen.

Yn ogystal, mae ymrwymiad i ddechrau yr hydref hwn ar ddarparu gofod llyfrgell ym mhob ysgol gynradd erbyn 2030.

Dywedodd pennaeth Ysgol Garth Olwg, Trystan Edwards, y byddai'r cynllun yn rhoi "eglurder i ni ar yr arddulliau gorau a sail ymchwil gweithredol o ran addysgu'r medrau pwysig o lythrennedd a rhifedd".

"Dwi'n meddwl y bydd e'n helpu i roi cysondeb i ni yn y dysgu ar draws y wlad," meddai.

"Dwi'n meddwl bod llawer o newid wedi bod yn ein sector ni gyda'r cwricwlwm newydd", meddai, ond byddai'r cynllun yn rhoi'r "siawns gorau" i fesur cynnydd dysgwyr.

'Cynlluniau i ddysgu oddi wrth Loegr'

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Miller, fod y canlyniadau'n dystiolaeth bod gan Gymru "y system addysg waethaf yn y Deyrnas Unedig".

Ychwanegodd Sam Rowlands o'r Ceidwadwyr: "Mae Cymru ar ei hôl hi o gymharu â phob gwlad arall yn y DU ym meysydd mathemateg, darllen a gwyddoniaeth, gyda'r bwlch yn arbennig o amlwg o'i gymharu â Lloegr.

"Pam nad ydych chi'n dysgu gan Loegr ynghylch sut maen nhw'n gwneud mor dda gyda'u canlyniadau addysg, o'u cymharu â'n plant ni yma yng Nghymru?"

Fe wnaeth y prif weinidog gydnabod fod disgyblion yn Lloegr wedi "gwrthdroi'r duedd" o'r hyn oedd yn "ostyngiad byd-eang mewn sgorau PISA", gan ychwanegu bod ei lywodraeth yn "gwneud cynlluniau i ddysgu oddi wrth Loegr a'r hyn sy'n digwydd yno".

Dywedodd Helen Jenner o Reform bod athrawon wedi cael eu methu gan wleidyddion yng Nghymru.

"Fel cyn-athrawes yng Nghymru fy hun, fe alla i ddweud wrthoch chi nad ydy athrawon angen mwy o gynlluniau ac adolygiadau - maen nhw angen gweithredu," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.