Crynodeb

  1. 'Syched Plaid am wahardd chwaraeon diwylliannol Prydain'wedi ei gyhoeddi 14:26 GMT+1

    Mae Cai Parry-Jones o Reform UK yn dweud wrth Rhun ap Iorwerth fod Plaid Cymru wedi cefnogi gwahardd rasio milgwn yng Nghymru ac "o ganlyniad, bydd yn cael ei wahardd yn llwyr yng Nghymru mor gynnar â mis Ebrill nesaf".

    Dywed ei fod yn poeni na fydd "syched Plaid am wahardd chwaraeon diwylliannol Prydain yn dod i ben yma", a bod arweinydd y blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts, wedi "dweud ychydig fisoedd yn ôl y dylid gwahardd rasio ceffylau fel y Grand National".

    "A wnewch chi gadarnhau i'r Senedd heddiw na fyddwch chi'n symud i wahardd rasio ceffylau gyda neidiau yma yng Nghymru?" gofynna.

    Nid yw Rhun ap Iorwerth yn ateb yn uniongyrchol, gan ddweud: "Mae arna' i ofn bod yn rhaid i mi gywiro'r aelod - roedd y bleidlais ar rasio milgwn yn bleidlais rydd."

    Cai Parry-JonesFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. 'Angen rheolau am bwy all fod yn berchen ar gwningen'wedi ei gyhoeddi 14:20 GMT+1

    Mae Mike Hedges o'r blaid Lafur yn galw am newidiadau eang ar lesiant anifeiliaid, gan gynnwys rheolau sy'n cyfyngu ar bwy all fod yn berchen ar gwningen.

    Yn ogystal â gwahardd clymu ceffylau a bridio adar hela mewn cewyll, galwodd am ganiatáu perchnogaeth ar gwningod dim ond "ar ôl cwrs hyfforddi byr lle gall unigolion ddangos eu bod yn deall anghenion cwningod".

    "Os ydym yn caniatáu i anifeiliaid gael eu camdrin, naill ai trwy anwybodaeth neu greulondeb, [mae'n adlewyrchu] yn wael arnom ni," meddai.

    Nid yw'r prif weinidog Rhun ap Iorwerth yn gwneud sylwadau ar y cyfyngiadau arfaethedig ar berchnogaeth cwningod, ond mae'n dweud bod Plaid Cymru eisiau "gosod safonau uchel ar gyfer trin anifeiliaid".

    Roedd Cynllun Lles Anifeiliaid Cymru 2021 i 2026, dolen allanol gan Lywodraeth Cymru yn nodi eu dull o wella lles anifeiliaid, gyda diweddariadau cynnydd yn cael eu cyhoeddi'n flynyddol.

    Dywedodd y Gweinidog dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd Llyr Gruffydd yn ddiweddar y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun newydd iechyd a lles anifeiliaid, dolen allanol.

    cwningenFfynhonnell y llun, PA Media
  3. Ceidwadwyr eisiau 'dilyn dull gwahanol' ar sero netwedi ei gyhoeddi 14:15 GMT+1

    Mae Darren Millar o'r Ceidwadwyr Cymreig yn canolbwyntio ei ddau gwestiwn ar bolisïau i atal newid hinsawdd drwy leihau allyriadau, sef sero net.

    Dywedodd ei fod wedi ymweld â phurfa olew Valero yn Sir Benfro yn ddiweddar - mae'n un o bedwar sydd ar ôl yn y DU - ac mae Mr Millar yn dweud bod rhai eisoes wedi penderfynu cau o ganlyniad i "dreth carbon".

    Mae Mr Millar yn dweud mai "nawr yw'r amser i ddilyn dull gwahanol iawn".

    Dywed Rhun ap Iorwerth bod "gwahaniaeth egwyddor rhyngom ar hyn".

    Mae'n dweud y dylai fod "pontio cyfiawn" - ond mae'n ychwanegu: "Efallai eich bod wedi sylwi ei bod hi ychydig yn gynnes yr wythnos diwethaf.

    "Dewch i arfer â hyn. Dyma realiti newid hinsawdd," meddai, gan ddweud mai dyna pam mae "rheswm da" i ddilyn mesurau i amddiffyn yr amgylchedd.

    Darren MillarFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  4. Arian ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol?wedi ei gyhoeddi 14:11 GMT+1

    Mae arweinydd dros dro Llafur Cymru, Ken Skates, yn galw ar y prif weinidog i ddweud faint o'r arian ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn o ganlyniad i wariant ychwanegol ar anghenion dysgu ychwanegol yn Lloegr gan weinidogion y DU, yr oedd yn fodlon ei ddyrannu ar gyfer plant ac ysgolion yn y gyllideb atodol eleni.

    Mae'r gyllideb atodol yn addasiad i gyllideb Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn ariannol gyfredol, gyda gwariant ychwanegol mewn rhai meysydd.

    Dywed Rhun ap Iorwerth fod angen meddwl tymor hir a datblygu polisi ar anghenion dysgu ychwanegol.

    Ken SkatesFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  5. Plaid Cymru 'wedi newid eu meddwl' ar weithio gyda Reform?wedi ei gyhoeddi 13:58 GMT+1

    Mae Dan Thomas yn rhybuddio'r prif weinidog, o'r ymateb cychwynnol, na fydd y gwrthbleidiau yn cefnogi'r gyllideb atodol.

    A wnaiff prif weinidog Plaid Cymru ddatgelu a yw'n cael trafodaethau gyda phleidiau gwleidyddol eraill ac a yw'n fodlon gweithio gyda Reform, gofynna Mr Thomas.

    Mae Rhun ap Iorwerth yn egluro ei fod yn fodlon cael trafodaethau gydag "arweinwyr Reform, Ceidwadwyr, Llafur a'r Blaid Werdd".

    Mae Dan Thomas yn cyhuddo Rhun ap Iorwerth o fod wedi "newid ei feddwl ynglŷn â gweithio gyda Reform", gan ddweud bod Plaid Cymru wedi diystyru hynny cyn yr etholiad.

    Dan ThomasFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  6. 'Helpu myfyrwyr meddygol sy'n graddio nawr i gael swyddi'wedi ei gyhoeddi 13:54 GMT+1

    Mae Dan Thomas o Reform yn codi "trafferthion" myfyrwyr ym maes iechyd, wedi adroddiadau bod 400 o fyfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth wedi cael gwybod nad oes swydd yn aros amdanynt.

    A fydd unrhyw gyllid o'r gyllideb atodol yn cael ei ddyrannu i warantu swydd i fyfyrwyr sydd wedi astudio bydwragedd a nyrsio pan fyddan nhw yn gorffen hyfforddi, gofynnodd.

    Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud bod "problem benodol wedi codi" na ddylai fod wedi codi, a dywedodd fod y llywodraeth yn delio â heriau a achosir gan niferoedd hyfforddi a gomisiynwyd yn 2022.

    Dywedodd fod nifer o fesurau'n cael eu cymryd ar y mater.

    "Byddwn yn helpu'r rhai sy'n graddio nawr i gael swyddi," meddai.

    GIGFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae undebau'n dweud bod cannoedd o raddedigion nyrsio a bydwreigiaeth yn dal i fod heb swyddi yn y GIG yng Nghymru

  7. Diffiniad o ryw biolegolwedi ei gyhoeddi 13:46 GMT+1

    Natasha Asghar, AS Casnewydd Islwyn y Ceidwadwyr, sy’n gofyn am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru yng ngoleuni dyfarniad y Goruchaf Lys ar y diffiniad o ryw biolegol.

    Dywed Rhun ap Iorwerth: "Mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â chamau cyfreithlon, cyson ac ymarferol yng Nghymru wrth gynnal urddas a pharch pawb."

    Ychwanegodd Ms Asghar: "Cysylltodd nifer o aelodau staff pryderus â mi, sydd am aros yn ddienw, ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan, ar ôl iddyn nhw dderbyn cyflwyniad o'r enw 'Dathlu Wythnos Ymwybyddiaeth Trawsryweddol a Sut i Fod yn Gynghreiriad'.

    "Rwy'n llwyr o blaid amrywiaeth, ond byddai'n llawer gwell gen i pe bai staff y GIG ganolbwyntio ar gleifion a darparu gofal na sesiynau hyfforddi yn tynnu eu sylw."

    Dywed y prif weinidog: "Ni allaf wneud sylw ar y deunydd penodol y soniwyd amdano."

  8. 'Recriwtio athrawon ar sail teilyngdod?'wedi ei gyhoeddi 13:39 GMT+1

    Ychwanegodd Francesca O'Brien: "Cyflwynodd y llywodraeth Lafur flaenorol grant o £5,000 sydd ar gael i athrawon dan hyfforddiant ar sail eu hethnigrwydd.

    "Nid eu harbenigedd pwnc, nid eu gallu, nid eu potensial - eu hethnigrwydd yn unig.

    "A fydd y llywodraeth yma yn talu arian cyhoeddus i recriwtio athrawon ar sail teilyngdod?"

    Dywed y prif weinidog: "Addawodd y maniffesto y safais arno roi camau ar waith i ysgogi recriwtio athrawon.

    "Dyna'n union yr hyn yr ydym wedi'i wneud. Mae angen mwy o athrawon arnom."

    Ystyriodd un o bwyllgorau’r Chweched Senedd recriwtio a chadw athrawon, dolen allanol.

    Cododd y pwyllgor bryderon sylweddol sy’n bodoli ynghylch recriwtio, dolen allanol a chadw, dolen allanol athrawon – yn enwedig ar gyfer rhai pynciau mewn ysgolion uwchradd ac ymhlith athrawon sy'n gallu addysgu drwy'r Gymraeg.

    Francesca O'BrienFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  9. Recriwtio yn y sector addysgwedi ei gyhoeddi 13:37 GMT+1

    Daw'r cwestiwn cyntaf gan Francesca O'Brien, AS Gŵyr Abertawe dros Reform, sy'n gofyn "pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella recriwtio yn y sector addysg?"

    Dywed Rhun ap Iorwerth: "Mae cefnogi'r gweithlu addysg yn ganolog i'n cenhadaeth i godi safonau a rhoi'r sylfaen orau i ddysgwyr ar gyfer eu dyfodol.

    "Roeddwn i'n falch o ymuno â Gweinidog y Cabinet dros addysg a'r Iaith Gymraeg [Anna Bychan] ar 11 Mehefin i gyhoeddi ein bod wedi cyflawni ein hymrwymiad 100 diwrnod i gynyddu'r cymhelliant pwnc blaenoriaeth i athrawon dan hyfforddiant i £20,000 o fis Medi i gefnogi recriwtio ledled Cymru."

    AddysgFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. Y sesiwn ar fin dechrauwedi ei gyhoeddi 13:29 GMT+1

    Mae sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn dechrau am 13:30.

    Mae modd gwylio'r cyfan trwy glicio ar yr eicon "Gwylio'n fyw" ar frig y llif byw.

  11. Beth sydd gan Burnham mewn golwg ar gyfer Cymru?wedi ei gyhoeddi 13:25 GMT+1

    Daw ymddangosiad arweinydd Plaid Cymru ddiwrnod ar ôl i Andy Burnham draddodi araith bwysig am ddatganoli.

    Ni roddodd Burnham, y disgwylir iddo fod yn brif weinidog nesaf y DU ymhen ychydig wythnosau, lawer o fanylion am yr hyn y mae wedi'i gynllunio ar gyfer Cymru.

    Ond soniodd am ddatganoli "yn ddyfnach i lawr" yng Nghymru - arwydd ei fod â diddordeb mewn trosglwyddo pŵer i gynghorau.

    Dywedodd Rhun ap Iorwerth wrth y BBC ar ôl yr araith fod angen grymuso'r Senedd a Llywodraeth Cymru er mwyn "symud Cymru ymlaen".

    Andy BurnhamFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. Croesowedi ei gyhoeddi 13:20 GMT+1

    Croeso i Gwestiynau i'r Prif Weinidog - cyfle wythnosol yn y Senedd i'r gwrthbleidiau ac ASau meinciau cefn i holi arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

    Mae'r rhan fwyaf o gwestiynau yn cael eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a'u dewis drwy falot.

    Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.

    Ar ôl cwpl o gwestiynau sydd wedi'u cyflwyno ymlaen llaw, byddwn yn clywed gan Dan Thomas o Reform, Ken Skates o'r blaid Lafur a Darren Millar o'r Ceidwadwyr.

    Senedd