'Cydweithio â'r gymuned' yw'r ffordd i dafarndai Cymru lwyddo

Llun Daniel a Bethan JonesFfynhonnell y llun, Bragdy Cybi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Daniel a Bethan Jones yn paratoi i agor eu tafarn cyntaf ar stryd fawr Caergybi

GanSion Tootill
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Cydweithio, cynnal digwyddiadau arbennig a ffocysu ar gynnig bwyd o safon yw rhai o'r ffyrdd y gall tafarndai Cymru oroesi yn ôl rhai sy'n gweithio yn y diwydiant.

Cymru yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig sydd wedi gweld nifer eu tafarndai yn cynyddu eleni, yn ôl ffigurau swyddogol gan Gymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain (BBPA).

Mae nifer y tafarndai yng Nghymru wedi cynyddu o dri ers mis Ionawr, wrth i'r Alban golli 41 a de-ddwyrain Lloegr 26, yn yr un cyfnod.

Mae costau uchel a newidiadau mewn cymdeithas yn golygu bod yn rhaid i dafarndai addasu i "gynnig llawer mwy na lle i yfed alcohol yn unig", meddai un economegydd o Brifysgol Bangor.

I berchnogion Bragdy Cybi yng Nghaergybi, Ynys Môn, sy'n paratoi i agor eu tafarn cyntaf, mae'r "gefnogaeth ymysg cwmnïau bwyd a diod Gymreig" yn "rhoi hyder" iddyn nhw er gwaetha'r sialensiau sy'n wynebu'r sector.

Ond maen nhw hefyd yn cefnogi'r galwad gan rai yn y diwydiant am doriad i gyfradd treth ar werth, o 20% i 10%.

'Pob dim yn ddrud'

Drwy greu cwrw ers 2019, a rhedeg bar ar yr un safle ers 2021, mae perchnogion Bragdy Cybi, Daniel a Bethan Jones yn ymwybodol o rai o'r heriau sy'n wynebu'r sector lletygarwch.

"Naethon ni agor y drysau yma fel bar reit yng nghanol Covid, felly roedd o'n anodd efo'r holl reolau," meddai Daniel.

"Wedyn daeth yr argyfwng egni cynta' a doedd gynnom ni ddim contract trydan. Aeth y pris o 18c i bunt y KW. Ers hynny mae cost popeth ni'n prynu mewn, y cynnyrch wedi codi, felly mae bob dim yn ddrud."

Llun Daniel yn creu cwrw
Disgrifiad o’r llun,

Mae Daniel a Bethan yn cefnogi'r ymgyrch i dorri cyfradd treth ar werth i 10%

Mae'r gŵr a gwraig wedi ceisio denu cwsmeriaid i'w bar trwy gynnal digwyddiadau fel 'Cybi Fest' sy'n cynnwys cerddoriaeth byw a faniau bwyd lleol.

Ond cydweithio â busnesau Cymreig eraill o fewn y diwydiant sydd wedi bod "yn fwy pwysig na dim" i lwyddiant y bragdy yn ôl Bethan.

"Dwi'n meddwl bod 'na gefnogaeth anhygoel ar gael yng Nghymru," meddai.

"Mae cwmnïau bwyd a diod Cymru yn fodlon helpu ein gilydd, hyrwyddo ein gilydd, 'da ni'n prynu gan ein gilydd a mae hynny'n mynd yn bell iawn.

"Ma' 'na fwytai lleol yn gwerthu ein cwrw ni, maen nhw'n gwneud bwyd yn defnyddio ein cynnyrch ni."

"Wedyn mae 'na berchennog fan bwyd sydd wedi cael yr hyder i agor bwyty ei hun yng nghanol dre ar ôl i ni rhoid lle iddo fe ddod i fama fel man cychwyn."

Mae'r ddau nawr yn paratoi i gynyddu'r busnes trwy agor eu tafarn cyntaf ar stryd fawr Caergybi, a hynny yn ystod cyfnod heriol i'r diwydiant.

Mae'r BBPA wedi galw'r cynnydd yn nifer y tafarndai sydd ar agor yng Nghymru ers dechrau'r flwyddyn yn "ddiferyn o obaith", ond maen nhw'n pwysleisio'r angen am "gynllun hir dymor" i achub y diwydiant.

Mae data hir-dymor o'r blynyddoedd diwethaf yn dangos mai gostyngiad cyson yn nifer y tafarndai yng Nghymru ydy'r tueddiad, gyda 30 yn cau'r llynedd ac 18 yn 2024.

Mae'r BBPA yn dweud bod y sefyllfa wedi arwain at golled o dros 2,400 o swyddi o fewn y diwydiant ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban.

Mae hanner o'r rheini yn swyddi oedd wedi'u llenwi gan bobl ifanc.

'Falle ein bod ni'n fwy mentrus'

Mae Daniel a Bethan yn gobeithio bydd "gwneud rhywbeth gwahanol" trwy ffocysu ar eu cwrw lleol, cynnig bwyd o safon a hyrwyddo'r diwylliant Cymreig yn gwneud i'w tafarn sefyll allan, gan helpu'r busnes "ffynnu" er gwaetha'r heriau ehangach.

"Falle ein bod ni'n fwy mentrus neu'n fwy gwirion nag eraill," meddai Bethan, "ond i Dan a fi mae gennym ni'r hyder a'r cyfle gwych yma a'r gefnogaeth gan ein cwsmeriaid ac asiantaethau lleol."

Ychwanegodd: "Ond 'da ni yn gobeithio bydd y VAT yn dod lawr i 10% i helpu pellach."

Llun Dr Edward Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid i dafarndai "gydweithio efo'r gymuned" i lwyddo yn ôl yr economegydd Dr Edward Jones

Mae costau uwch, yn ogystal â newid mewn cymdeithas, yw'r prif ffactorau sy'n achosi trafferthion i dafarndai Cymru yn ôl yr Economegydd ym Mhrifysgol Bangor, Dr Edward Jones.

"Mae'r sefyllfa'n anodd i dafarndai yng Nghymru, maen nhw'n wynebu costau egni uwch, costau cyflogi uwch a chyfraniadau yswiriant gwladol uwch hefyd.

"Mae hynny ochr yn ochr efo newid mewn cymdeithas, tydi pobl ddim yn tueddu mynd allan i yfed cymaint ag oedden nhw, yn enwedig pobl ifanc."

O'i waith ymchwil mae Dr Jones yn dweud mai'r tafarndai sy'n ffocysu ar wasanaethu'r gymuned mewn sawl ffordd wahanol sy'n tueddu i lwyddo.

"Un esiampl yw'r tafarndai yn Iwerddon, maen nhw'n dafarn traddodiadol ydyn, ond maen nhw hefyd yn aml yn cynnwys siop, swyddfa bost ac yn cynnig rhywle i bobl ddod at ei gilydd," meddai.

"Cydweithio efo'r gymuned i ateb eu hanghenion yw'r ffordd ymlaen."

Llun o'r Bryntirion o'r tu allan
Disgrifiad o’r llun,

Mae tafarn Bryntirion yn cynnwys bwyty, bar a sawl ystafell wely

Dyma nod perchnogion newydd tafarn Bryntirion yn Llandderfel ger y Bala.

Ail-lansiwyd y dafarn, sy'n 300 oed, blwyddyn ddiwethaf dan oruchwyliaeth y cogydd Luke Shelby.

Ers hynny mae'r adeilad wedi cael ei adnewyddu a'i foderneiddio ac mae'r fwydlen wedi ei diweddaru er mwyn "sicrhau dyfodol y dafarn a denu ymwelwyr o bellach i ffwrdd," meddai Luke.

Llun Gareth
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Jones yn un o 12 staff sy'n gweithio yn y Bryntirion

Ychwanegodd Gareth Jones, sy'n gweithio yn y dafarn: "Balans dwi'n meddwl ydy'r gair cywir, 'da ni'n gorfod cael pobl leol yma, heb y bobl leol byddwn ni'n cau lawr yn syth achos nhw sy'n cadw ni i fynd dros y gaeaf lle does n'am llawer o dwristiaid yn dod.

"Wedyn haf ydi'r amser i gael y twristiaid i mewn yn gwario arian yn aros, yfed a byta. Heb heini fysa fo ddim yn viable."

Mae'r dafarn yn cynnig "cynigion arbennig" i bobl leol trwy'r flwyddyn i "wneud yn sicr bod nhw ddim yn meddwl ein bod ni 'mond yn ceisio denu nhw yma yn y gaeaf."

"Ces i fy magu mewn tafarn so dwi'n gwybod be mae'n cymryd i gadw tafarn i fynd," ychwanegodd Gareth.

"Mewn lle mor fach, cymuned fach, mae o'n andros o anodd i neud yn sicr bod y busnes yn gweithio.

"Mae'n rhaid cael sawl het os chi'n mynd i gadw pobl yn hapus."

Dywedodd llywodraeth Cymru eu bod am ddiwygio trethi busnes i "wneud pethau'n fwy cyfartal" ar y stryd fawr.

"Yn ystod 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth, byddwn yn sefydlu tasglu Canol Tref a fydd yn mynd i'r afael â'r heriau y mae busnesau'n eu hwynebu ar draws sectorau, yn enwedig mewn lletygarwch a manwerthu," meddai llefarydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.