Betsan Moses: 'Y torfeydd yn llifo'wedi ei gyhoeddi 10:45 GMT+1
Yn y gynhadledd i'r wasg dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, bod hi'n argoeli i fod yn ddiwrnod llwyddiannus.
"Mae'r torfeydd yn llifo, am 06:50 roedd na deulu yn y ganolfan groeso!"
Gyda Sioe Aberteifi yn digwydd yn yr ardal hefyd dywedodd "ni wedi cydweithio i gadw'r ffyrdd i fynd, maen nhw'n dod yn hwylus!
"Mae'n argoeli i fod yn ddiwrnod a hanner!"






















