Cyfarwyddwr Artistig y Brifwyl: 'Llwyth o arlwy i bawb'wedi ei gyhoeddi 10:07 GMT+1
Dros Frecwast
BBC Radio Cymru
Wrth siarad ar Dros Frecwast bore 'ma dywedodd Elen Elis, Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod: "Mae yna arlwy eang iawn. Dwi yn ddiolchgar hefyd i bobl leol oherwydd ni wedi bod yn trefnu yr holl arlwy artistig gyda'r bobl leol a gyda phartneriaid wrth gwrs hefyd - ac mae artistiaid da yn gweithio efo ni o flwyddyn i flwyddyn.
"Da ni wedi eistedd rownd byrddau - mae pobl o gelfyddydau gwahanol wedi bod yn trafod themâu gan gynnwys enwogion, hanes a thirwedd a chynnyrch lleol,
"Mae 'na lwyth o arlwy i bawb. Ni wedi siapio amserlen ar y cyd - ac mae yna linyn cyswllt ar draws ein llwyfannau ni."

Elen Elis yw Cyfarwyddwr Artistig y Brifwyl




















