Crynodeb

  1. Hwyl am y tro - o faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ynys Mônwedi ei gyhoeddi 16:14 GMT+1

    Diolch am eich cwmni heddiw a gydol yr wythnos.

    Mae'n gohebwyr wedi mwynhau dod â'r diweddaraf o Fôn - Eisteddfod yr Urdd gyntaf saith diwrnod o hyd.

    Mae gweddill straeon y dydd ar wefan Cymru Fyw.

    Mwynhewch y penwythnos a diolch am eich cwmni.

    urdd
  2. Pwy arall sy'n teimlo fel Idris?wedi ei gyhoeddi 16:13 GMT+1

    Mae wedi bod yn ddiwrnod - ac wythnos gyfan - llawn bwrlwm a hwyl, ond blinedig. Ac mae'n ymddangos bod Idris, o Grucywel, yn barod i fynd am adra!

    Plentyn wedi blino
  3. Mae yna barti prynhawn 'ma - pen-blwydd Mistar Urddwedi ei gyhoeddi 16:12 GMT+1

    Mae parti Mistar Urdd yn 50 yn dechre am 16.30.

    Efan electro - “dj ieungaf cymru” yw’r dj.

    Yn bresennol yn y parti fe fydd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth, Caryl Parry Jones, Lloyd Lewis, Trystan ac Emma.

    Joiwch!

    dj
  4. Cyhoeddi enillydd Ysgoloriaeth yr Urddwedi ei gyhoeddi 16:07 GMT+1
    Newydd dorri

    Eisteddfod yr Urdd

    Bob blwyddyn mae'r Urdd yn rhoi ysgoloriaeth i'r cystadleuydd mwyaf addawol yn ystod yr wythnos.

    Eleni y gantores Mared Phillips o Ranbarth Penfro yw'r enillydd.

    Llongyfarchiadau.

  5. Elin Undeg Williams: 'Braf ennill y Goron yn y gogledd'wedi ei gyhoeddi 16:04 GMT+1

    Disgrifiad,

    Elin Undeg Williams yn ennill Coron Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn

  6. Camu o'r cysgod i'r llwyfanwedi ei gyhoeddi 15:56 GMT+1

    Mae Ysgol Peniel wedi dod o hyd i gysgod o'r haul er mwyn cael un ymarfer ola' cyn cystadlu ar y parti llefaru.

    Parti llefaru
  7. Dechrau pacio - tan flwyddyn nesa'wedi ei gyhoeddi 15:49 GMT+1

    Stondin yn cael ei dynnu lawr

    Mae'n olygfa drist bob blwyddyn i eisteddfodwyr, wrth i'r stondinau ddechrau cael eu tynnu i lawr ar ddiwedd wythnos.

    Ond peidiwch â thristáu gormod, fe fyddan nhw'n ôl ymhen 12 mis wrth i'r Urdd ymweld â rhanbarth Gwent.

  8. Cwis Cymru Fyw: Ynys Mônwedi ei gyhoeddi 15:45 GMT+1

    Gydag Eisteddfod yr Urdd wedi ymweld â Môn, faint wyddoch chi am yr ynys?

    Rhowch gynnig ar gwis Cymru Fyw!

    mon
  9. Cyn hir Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn Llantwdwedi ei gyhoeddi 15:38 GMT+1

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Wrth i Eisteddfod yr Urdd ddod i ben bydd y sylw yn troi at Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn Llantwd ac mae eisoes yn argoeli i fod yn eisteddfod hynod o boblogaidd.

    Ydy mae'r Orsedd ar gyfer y cadeirio eisoes yn llawn!

    steddfodFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  10. Eisteddfod yr Urdd wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad awdur o Fônwedi ei gyhoeddi 15:33 GMT+1

    "Ma' Sir Fôn yn le reit fawr. Dwi'n teimlo'n hapusach yn fy nghynefin a sgwennu am fy nghynefin."

    Dyna eiriau Marlyn Samuel, awdur a dramodydd o Fôn wrth i'r ynys groesawu pobl yr wythnos hon i Eisteddfod yr Urdd.

    Mae Marlyn yn awdur hynod o boblogaidd, sydd wedi cyhoeddi saith nofel ac mae hi hefyd yn aelod blaenllaw o Theatr Fach, Llangefni.

    Fe wnaeth yr Urdd chwarae ran bwysig iawn yn ei thaith o rhoi inc ar bapur, dyma oedd ganddi i ddweud wrth Manon Steffan Ros ar ragen Llwyfan.

    Gallwch ddarllen yr erthygl yn llawn yma.

    Marlyn
  11. Llywyddion y dydd wedi cael cryn groeso - a pherfformiad y Prif Weinidog ifanc!!!wedi ei gyhoeddi 15:27 GMT+1

    Roedd yna gryn groeso i'r Prif Weinidog newydd, Rhun ap Iorwerth, yr wythnos hon wrth i'r Brifwyl gael ei chynnal ryw ddwy filltir o'i gartref.

    Ef oedd y llywydd ddydd Mawrth ac roedd cryn ddiddordeb yn ei berfformiad buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 1983!

    Disgrifiad,

    Rhun ap Iorwerth yn ennill ar y cerdd dant yn 1983

  12. Dal i ganu yn Yr Adlenwedi ei gyhoeddi 15:24 GMT+1

    Fe ddechreuodd y Brifwyl saith diwrnod yn ôl gyda Gŵyl Triban, ond mae 'na dal amser am ychydig mwy o ganu gan y plant iau yn Yr Adlen.

    Plant yn canu ar lwyfan o flaen torf
  13. Criw y ddawns flodau yn Eisteddfod yr Urdd 1976 yn ail-greu llunwedi ei gyhoeddi 15:18 GMT+1

    Y dawnswyr ifanc yn Eisteddfod yr Urdd 1976Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Y dawnswyr ifanc yn Eisteddfod yr Urdd 1976

    Fis Mai 1976 cynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd ym Mhorthaethwy, Ynys Môn.

    Hanner canrif yn ddiweddarach, mae criw y ddawns flodau'r flwyddyn honno wedi dod at ei gilydd i ail-greu llun arbennig.

    Darllenwch yr hanes yma.

    dawnswyrFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
  14. Yr haul yn denuwedi ei gyhoeddi 15:14 GMT+1

    Mae'r awyr las wedi denu'r torfeydd drwy'r wythnos, a tydi heddiw ddim gwahanol ar bnawn ola'r Steddfod.

    Llun o dorf
  15. Pobl Môn 'wedi mynd y filltir ychwanegol'wedi ei gyhoeddi 15:07 GMT+1

    Mae prif weithredwr yr Urdd wedi "diolch yn fawr iawn" i bobl Ynys Môn "am yr holl ymdrech" a sicrhau bod yr Eisteddfod wedi bod yn "arbennig" a "bythgofiadwy".

    Dywedodd Siân Lewis bod trigolion yr ynys "wedi mynd y filltir ychwanegol i sicrhau croeso cynnes i gymaint o filoedd o blant a phobl ifanc".

    Meddai: "Maen nhw wedi creu'r cyffro 'ma - peintio Ynys Môn yn goch, gwyn a gwyrdd ac mae Mr Urdd a baneri Cymru ym mhobman felly diolch yn fawr iawn iddyn nhw am yr holl ymdrech."

    Roedd hi hefyd yn canmol "tîm anhygoel yr Urdd ei hun sydd o hyd eisiau esblygu cyfleoedd, nid yn unig yn y Steddfod ond ar draws yr Urdd yn gyffredinol".

    Sian Lewis
    Disgrifiad o’r llun,

    Siân Lewis, prif weithredwr Yr Urdd, ar y Maes

    Dywedodd ei bod yn "braf gweld mwy o gystadleuwyr yma yng ngogledd Cymru nag erioed o'r blaen" o ganlyniad i ymestyn yr ŵyl i saith diwrnod.

    Ychwanegodd: "Parhau i dyfu wnawn ni, parhau i wrando ar leisiau pobl ifanc a sicrhau bod yr Urdd yn agor ymhellach i fwy o gynulleidfaoedd."

  16. Braf gweld Mistar Urdd yn joio yn yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 15:03 GMT+1

    Mistar Urdd

    Does yna'r un 'Steddfod yn gyflawn heb ymweliad gan Mistar Urdd ac ydy mae e wedi bod ar y maes bob dydd.

    Eleni fe ddathlodd ei ben-blwydd yn 50 a bu cryn ddathlu ar draws Cymru a mwy o ddathlu ar y maes heddiw.

    Mistar Urdd flynyddoedd yn ôl gyda phlant ifancFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin
    Disgrifiad o’r llun,

    Mistar Urdd flynyddoedd yn ôl gyda phlant ifanc

  17. Yr uchafbwyntiau ar Radio Cymru nawr ...wedi ei gyhoeddi 14:58 GMT+1

    BBC Radio Cymru

    Ar hyn o bryd ar Radio Cymru mae Ifan Evans a Lisa Angharad yn cyflwyno uchafbwyntiau o Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.

    Cliciwch ar y botwm uchod.

    ifan
    Disgrifiad o’r llun,

    Ifan gyda Jennifer Maloney o Aelwyd Pen-rhyd sy'n dathlu'r 50 eleni

  18. Ydy mae wedi bod yn 'hafan glyd yng ngwlad y Medra'wedi ei gyhoeddi 14:56 GMT+1

    Mae wedi bod yn hafan glyd (a heulog iawn) yng ngwlad y Medra.

    Dyma gerdd groeso Gareth Evans-Jones, un o blant yr ynys a oedd yn beirniadu cystadleuaeth y Fedal Ddrama ddydd Mercher.

    GarethFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

    Mae darn o dir sydd uwch y don

    a'i gân yn famol, fodlon,

    yn ynys nad yw'n unig,

    yn llecyn glas i chwarae mig.

    Dyma gartref hen chwedlau'n hoes,

    lle plannodd Dwynwen gynt ei chroes,

    lle crwydrodd Seiriol Wyn a Chybi Felyn

    a chenedlaethau hyd bant a bryn.

    Mae saith rhyfeddod byd a saith chyfandir hefyd,

    ac ym Môn, bydd saith niwrnod o gelfyddyd.

    Tyrd draw â'th gân â'th wên,

    tyrd a'th liwiau i lywio llên,

    tyrd am hufen iâ, tyrd am yr hwyl,

    tyrd i groeso'r fam-ynys annwyl.

    Cymer gam a chroesa'r Fenai,

    dilyn llwybr aur y traethau,

    a chofia, yn yr ŵyl saith niwrnod gynta',

    cei hafan glyd yng Ngwlad y Medra.

  19. Bill a'r binswedi ei gyhoeddi 14:55 GMT+1

    Gyda'r maes mor brysur heddiw, buan iawn mae'r biniau yn llenwi - ond yn ffodus mae pobl fel Bill yno i'w gwagio nhw.

    Dyn yn gwagio biniau
  20. ❤️🤍💚Ardaloedd, ysgolion, busnesau a thai wedi bod yn harddu'r frowedi ei gyhoeddi 14:50 GMT+1

    Wedi croesi afon Menai i Ynys Môn, mae'r croeso i eisteddfodwyr yn fawr wrth i ardaloedd, ysgolion, busnesau ac unigolion harddu'r fro.

    A do mi gafwyd cystadleuaeth!

    Llongyfarchiadau a diolch am y croeso.

    urddFfynhonnell y llun, Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn