Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Meinir Mathias, Under Milk Wood, Marlyn Samuel a Hedydd Ioan

Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond with Manon Steffan Ros.

Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt.

Ậ hithau yn wythnos Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn, mae Manon yn sgwrsio gydag un o awduron mwyaf poblogaidd yr ynys, sef Marlyn Samuel.

Hedydd Ioan sy'n trafod prosiect creadigol sy'n archwilio'r berthynas rhwng y tir a choed yn Oriel Plas Glyn y Weddw ym Mhen Llŷn.

Cynhyrchiad Theatr Clwyd o ddrama Dylan Thomas, 'Under Milk Wood' sydd yn mynd â bryd y dramodydd a'r actores Mared Llywelyn.

Ac mae yna ymweliad ag Oriel Ffin y Parc, Llandudno, lle mae yna arddangosfa newydd o waith yr artist o Geredigion, Meinir Mathias newydd agor.

Dyddiad Rhyddhau:

56 o funudau

Darllediadau

  • Dydd Sul13:00
  • Dydd Llun18:00