Main content

O freuddwyd bachgen 13 oed i DJ preswyl yr Octagon

"Yr Octagon, Bangor" - enw sy'n codi llu o atgofion i lawer. Mae Arwel Hughes (Arwel MAD) yn mynd â ni'n ôl mewn amser i gofio'r nosweithiau a'r eiliadau arbennig.

Breuddwyd Arwel ers yn fachgen ifanc oedd bod yn DJ. Yn 13 oed, roedd eisoes yn cadw nosweithiau ar Ynys Môn, gyda'i dad yn cludo'r recordiau o un lleoliad i'r llall. Yn ddiweddarach, daeth yn DJ preswyl yn yr Octagon, Bangor, lle bu'n diddanu torfeydd am dros 10 mlynedd.

Daw'r clip hwn o raglen Beti a'i Phobol, ac mae'r rhaglen gyfan ar gael i wrando arni ar BBC Sounds.

Beth yw eich hoff atgof chi o'r Octagon?

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

5 o funudau