Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,2 mins

Rhannu llwyfan gyda Shakin' Stevens a Oasis

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Mei Gwynedd sydd yn hel atgofion am rannu llwyfan gyda Shakin' Stevens a'r grŵp Oasis. Fe ddaw'r darn o raglen Beti a'i Phobol. Mae Mei Gwynedd yn un o enwau mwyaf dylanwadol cerddoriaeth Gymraeg cyfoes. Yn wreiddiol o Waunfawr ger Caernarfon, mae wedi bod wrth galon y sîn gerddoriaeth ers dros dri degawd, gan chwarae rhan allweddol mewn bandiau eiconig fel Beganifs, Big Leaves, Sibrydion a The Peth. Mae hefyd wedi gwneud gyrfa lwyddiannus o'i angerdd dros gerddoriaeth, gan weithio ar draws sawl agwedd ar y diwydiant. Heddiw, mae'n byw yng Nghaerdydd lle mae'n gweithio fel cerddor, cyfansoddwr a chynhyrchydd llawrydd, yn ogystal â rhedeg stiwdio a label recordiau. Mae hefyd yn wyneb cyfarwydd i lawer drwy ei brosiect poblogaidd Band Tŷ Potas, sy'n boblogaidd iawn yn yr Eisteddfod. Mae hefyd yn brysur gyda cherddorfa ukulele yng Nghaerdydd, a sefydlwyd yn wreiddiol i annog dysgwyr Cymraeg. Yn 7 oed, fe benderfynodd Mei ei fod eisiau bod yn ganwr pop, ac fe sefydlodd ei fand cyntaf yn 11eg mlwydd oed.

Programme Website
More episodes