Episode details

Available for 33 days
Beti George yn holi Arwel Hughes neu Arwel MAD fel mae rhai yn ei adnabod, sy'n adnabyddus fel DJ ac fel dyn busnes llwyddiannus ar Ynys Môn. Sefydlodd gwmni sain a goleuo MAD dros 25 mlynedd yn ôl, ac ers hynny mae wedi bod yn rhan allweddol o drefnu a chefnogi digwyddiadau mawr ledled Cymru. Mae wedi gweithio gyda nifer fawr o artistiaid Cymraeg ac adnabyddus dros y blynyddoedd, ac mae hefyd yn rhedeg busnes ymgymerwyr angladdau teuluol sydd wedi bodoli ers pedair cenhedlaeth. Fe ddechreuodd Arwel ei yrfa fel DJ yn 13eg mlwydd oed, yn cynnal disgos yn lleol, a bu'n gweithio yn ddiweddarach yr Octagon ym Mangor am 12eg mlynedd. Fo hefyd sy’n gyfrifol am atgyfodi gŵyl Llychlynwyr Amlwch sy’n denu cannoedd o bobl o bob cwr o Brydain i gymryd rhan mewn ‘re-enactments’. Mae wedi mabwysiadu dau o blant ac yn briod gyda Elaine. Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 can yn cynnwys Elin Fflur – Ar Lan y Môr -y gân sy'n mynd ag Arwel yn syth yn ôl i'w blentyndod yn Amlwch.
Programme WebsiteTracklist
- TrackArtist
- 1.Y Bardd O MontrealY Bardd O MontrealBryn Fôn a'r Band
- 2.Ar Lan Y MôrAr Lan Y MôrElin Fflur
- 3.Bellissima (Radio Edit)Bellissima (Radio Edit)DJ Quicksilver
- 4.Angor (feat. Elin Fflur)Angor (feat. Elin Fflur)Rhys Meirion