Dyn 19 oed wedi marw ar ôl digwyddiad yn Rhaeadr Ystradfellte

Mae sawl rhaeadr yn yr ardal gan gynnwys Sgwd yr Eira
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 19 oed wedi marw ar ôl mynd i mewn i'r dŵr yn ardal Rhaeadr Ystradfellte ym Mhowys.
Cafodd yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw i'r lleoliad toc wedi 14:00 ddydd Sadwrn yn dilyn adroddiad bod dyn wedi mynd i mewn i drafferth yn y dŵr.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys bu farw'r dyn yn y fan a'r lle, meddai Heddlu Dyfed Powys.
Ychwanegodd y llu bod teulu'r dyn a'r crwner wedi cael gwybod am ei farwolaeth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.