Y Cymro a'i ddyfais sydd wedi 'newid byd' pobl â diabetes

Mae Eurig Wyn Jones bellach yn gweithio fel cyfreithiwr patent yn Awstralia
- Cyhoeddwyd
Maen nhw'n ddyfeisiau sydd wedi gweddnewid bywydau pobl sy'n byw gyda diabetes ond wyddoch chi mai Cymro gafodd y syniad am declyn i fonitro lefelau glwcos y gwaed 24/7?
Mae'r cylchoedd bychain, sy'n cael eu gosod ar y fraich ac yn gyrru data i ffonau symudol yn gyson, bellach yn cael eu defnyddio gan bobl ar draws y byd.
Ond fe ddaeth y syniad gyntaf i Eurig Wyn Jones pan oedd o'n gyrru car rhwng Caeredin ac Inverness tua 20 mlynedd yn ôl.
"Mae'n gweithio ac mae'n (rhoi data) cyson ac mae o'n rhywbeth sydd wedi newid y byd diabetes," meddai.
'Ges i fflach o syniad'
Yn wreiddiol o Ynys Môn, fe astudiodd Mr Jones electroneg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn arallgyfeirio i arbenigo mewn hawlfraint ddeallusol a phatentau.
Bu'n gweithio i gwmni adnoddau teledu Barcud, yng Nghaernarfon, ac yn Llundain am gyfnod.
Tra'n gweithio yn Yr Alban i gwmni rhyngwladol ar batent yn y maes diabetes, fe benderfynodd geisio deall mwy am fywyd bob dydd pobl oedd yn byw gyda'r cyflwr.
Am dri mis bu'n efelychu eu patrwm dyddiol gan wneud pigiad bys wyth gwaith y dydd er mwyn profi lefelau glwcos ei waed, a cheisio meddwl sut i wella'r system.
Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru dywedodd: "Doedd gen i ddim syniad [am y cyflwr] fel rhywun yn y byd intellectual property - dim syniad o gwbl - felly ['nes i] fyw fel diabetig.
"Ac wedyn wrth gwrs, daeth y syniadau. Ac mi ges i ryw fflach o syniad."
A daeth y foment 'eureka!' mewn lle annisgwyl.
"Ges i'r syniad - fel mae rhywun yn cael weithia' - ar ôl bod yn siopa," meddai.
"Fan yna o'n i yn dreifio o Gaeredin i fyny i Inverness ar yr A9 - sydd ddim llawer gwell na'r A470 - a daeth y syniad at ei gilydd."

Mae'r ddyfais monitro lefelau glwcos yn y gwaed yn cael ei defnyddio gan nifer fawr o bobl sydd â diabetes
Syniad Mr Jones oedd mesur lefel y glwcos yn yr hylif gwagleol sydd o gwmpas celloedd y corff.
Fe arweiniodd at y syniad o greu monitor glwcos parhaol fyddai'n cael ei osod fel 'bathodyn' bychan ar gefn y fraich er mwyn mesur yr hylif gwagleol yn y celloedd o dan y croen.
Mantais y system ydy bod y data yn cael ei gasglu yn gyson, yn gallu gyrru rhybudd os ydy lefelau yn rhy uchel neu'n rhy isel, a does dim rhaid gwneud pigiad bys sawl gwaith y dydd.
Ond gan mai'r hylif gwagleol sy'n cael ei fesur, mae'r data yn dangos beth oedd lefelau glwcos yn y gwaed tua chwarter awr ynghynt.
Mae'r system pigiad bys yn mesur y gwaed ac yn rhoi data manwl gywir o'r lefelau siwgr y foment honno.
Fe ddatblygodd Eurig Jones y syniad gyda phartner busnes Almaenig a'r bwriad oedd sefydlu'r busnes yng ngogledd Cymru.
Bu'n trafod gyda'r awdurdodau datblygu a gweithio ar gynlluniau busnes, ond mae'n dweud iddo gael ei siomi gyda'r diffyg gweledigaeth a diffyg cefnogaeth.
Meddai: "O'n i eisiau dod â fo i Gymru, i ogledd Cymru, ond yn anffodus, the powers that be - doeddan nhw ddim rili eisiau gwybod yng ngogledd Cymru.
"So colled Cymru oedd o, ac wedyn [wnaethon ni] sefydlu cwmni tu allan i Munich, a chael buddsoddiad o £130m.
"Fysa hynna wedi newid dipyn ar Ynys Môn faswn i'n meddwl, ond dyna fo."
Diabetes math 1: 'Diolch bod 'na ffordd i fyw gyda fe'
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
£145m ychwanegol i leihau rhestrau aros y gwasanaeth iechyd - gweinidog
- Cyhoeddwyd18 Mehefin
Mae'n dweud bod derbyn cefnogaeth yn Yr Almaen wedi eu galluogi i barhau i ddatblygu'r syniad ac agor ffatri.
Ar un cyfnod roedd y cwmni'n cyflogi 130 o bobl.
Fe wnaeth nifer o broblemau arwain at arafu'r datblygiad a gohirio'r dyddiad dechrau cynhyrchu.
Fe gafodd y buddsoddwyr "lond bol" a rhoi'r gorau i'w cefnogi'n ariannol.
Daeth y cwmni i ben cyn gallu cynhyrchu'r teclyn i'r farchnad.
Erbyn heddiw mae'r ddyfais wedi cyrraedd y farchnad ac yn cael ei chreu gan amryw gwmnïau a'i defnyddio gan bobl sydd â diabetes ar draws y byd.
Mae Mr Jones bellach yn byw yn Adelaide yn Awstralia ac yn gweithio fel cyfreithiwr patent ac yn arbenigo mewn deallusrwydd artiffisial.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Fel rhan o'n nod i hybu cynhyrchedd Cymru, mae'r Gweinidog Menter, Cysylltedd ac Ynni am i Gymru fod y lle hawsaf yn y DU i ddechrau, tyfu a buddsoddi mewn busnes.
"Bydd yn amlinellu ei gynlluniau cyn bo hir ar gyfer creu asiantaeth ddatblygu newydd i helpu i wireddu'r uchelgais honno."
Mae modd gwrando ar gyfweliad llawn Eurig Wyn Jones ar Beti a'i Phobol ar BBC Sounds.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.