Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Eurig Wyn Jones

Beti George yn holi Eurig Wyn Jones, cyfreithiwr patentau ac arbenigwr mewn deallusrwydd artiffisial. Beti George interviews Eurig Wyn Jones, Patent Attorney.

Eurig Wyn Jones sydd yn wreiddiol o'r Fali, Ynys Môn, yw gwestai Beti George.

Dechreuodd Eurig ei yrfa gyda chwmni Barcud Cyf ynystod y 1990au, gan weithio ar raglenni fel Noson Lawen, Slot Sadwrn a Noc Noc yn yr adran sain.

Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, treuliodd bum mlynedd yn Llundain fel dadansoddwr patentau, cyn gweithio i Sony yn yr Almaen fel peiriannydd patent.

Yn ddiweddarach, bu’n gweithio gyda Johnson & Johnson yn y maes diabetes, lle ysgogwyd ef i ddatblygu ffordd well o fonitro lefelau glwcos. Arweiniodd hyn at sefydlu Ego Medical, cwmni a gododd €130 miliwn i ddatblygu monitor glwcos parhaus, er na lwyddodd y cynnyrch i gyrraedd y farchnad.

Wedi hynny, cwblhaodd ei gymwysterau fel atwrnai patentau, gan barhau i weithio ym maes eiddo deallusol. Yn fwy diweddar, mae wedi canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial (AI), sydd bellach yn rhan allweddol o’i waith.

Yn 2017, aeth Eurig i Awstralia i siarad mewn cynhadledd ar ddeallusrwydd artiffisial a phatentau. Yn dilyn marwolaeth sydyn ei dad, dechreuodd ailystyried ei ddyfodol a theimlo bod angen newid cyfeiriad, gyda’r gobaith o ddychwelyd i Gymru rhyw ddydd.

Mae hefyd yn myfyrio ar ei benderfyniad i sefydlu ei gwmni yn yr Almaen yn hytrach nag yng Nghymru oherwydd diffyg buddsoddiad a chyfleoedd ar y pryd.

Yn ystod y sgwrs, mae’n rhannu sawl hanes difyr am ei fywyd ac yn dewis pedair cân arbennig iddo, gan gynnwys traciau gan Celt a Mei Gwynedd.

Dyddiad Rhyddhau:

56 o funudau

Ar y Radio

Dydd Sul18:00

Darllediad

  • Dydd Sul18:00

Archif Beti a'i Phobol

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad