Ben Davies: O chwarae dros Gymru i fod ar y bwrdd rheoli

Ben Davies gyda Chyngor Cymdeithas Bêl-droed Cymru ym Mharc y Ddraig, CasnewyddFfynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Ben Davies yn ei rôl newydd gyda Chyngor Cymdeithas Bêl-droed Cymru

GanOwain Llyr
Chwaraeon BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae capten Cymru, Ben Davies wedi bod yn chwarae pêl-droed ar y lefel uchaf am dros ddeng mlynedd.

Cwpan y Byd, Euros, Uwch Gynghrair Lloegr a Chynghrair y Pencampwyr - mae ei CV fel chwaraewr yn un trawiadol dros ben.

Ag yntau bellach yn 33 mlwydd oed ac yn agosáu at ddiwedd ei yrfa ar y cae, mae wedi derbyn rôl newydd o fewn y gamp.

Ym mis Awst fe gafodd ei benodi i Gyngor Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBC), ac yr wythnos hon fe fuodd ym Mharc Y Ddraig yng Nghasnewydd ar gyfer un o'u cyfarfodydd.

Mae Ben yn un o wyth aelod newydd ar y Cyngor wrth i'r Gymdeithas fynd ati i lunio dyfodol y gêm.

Tra fod Ben yn rhoi llais i'r chwaraewyr, mae'r aelodau newydd eraill yn cynrychioli hyfforddwyr, cefnogwyr a phobl ifanc.

Disgrifiad,

Ben Davies: aelod newydd Cyngor Cymdeithas Bêl-droed Cymru

"Mae'n bwysig iawn. Mae'n deimlad grêt i fod yn cynrychioli'r chwaraewyr yng Nghymru ac ar ôl chwarae am lot o flynyddoedd nawr mae hi'n neis i roi rhywbeth yn ôl," meddai Ben.

"Mae lot i'w drafod pan ni'n dod gyda'n gilydd fan hyn ond i fod yn onest i gael llais dros y chwaraewyr i gyd fi'n credu ei fod e'n bwysig.

"Ni ddim wedi cael hwnna o'r blaen felly mae'n bwysig i fi fod yma.

"Pan chi'n cael lot o leisiau gwahanol chi'n mynd i gael mwy o safbwyntiau gwahanol sy'n beth da.

"Mae'r Cyngor yn llawn pobl sydd â lot o ddiddordeb ym mhêl-droed Cymru, ac ishe gweld y gêm yn symud ymlaen yn y ffordd cywir."

Ben Davies yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Orwy yn 2026Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ben Davies wedi ennill dros 100 o gapiau dros Gymru

Ar ôl bod yn rhan o academi clwb Abertawe fe chwaraeodd ei gêm gyntaf i'r Elyrch yn 19 oed yn erbyn West Ham yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach yn 2014 fe ymunodd â Tottenham Hotspur, a 12 mlynedd yn ddiweddarach mae dal yn chwarae i Spurs.

Yn ystod ei gyfnod yno mae wedi ennill Cynghrair Europa, yn ogystal â chyrraedd ffeinal Cynghrair y Pencampwyr.

Ar lefel rhyngwladol mae bellach wedi ennill dros 100 o gapiau dros ei wlad, a fo bellach ydi'r capten yn dilyn ymddeoliad Aaron Ramsey.

Mae wedi chwarae yn Euro 2016, Euro 2020 yn ogystal â Chwpan y Byd 2022.

"Mae'n wych ei fod yn rhan o'r Cyngor a dwi'n disgwyl pethau mawr ganddo," meddai Mike Jones, Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

"Fel chwaraewr proffesiynol, os yw Ben yn dweud fod 'na broblem efo rhywbeth, mi fydd hynny yn ein gwthio i wneud pethau'n well.

"Dyna pam ei bod hi mor bwysig cael ei lais ar y Cyngor."

Ben Davies gyda Llywydd Uefa Alexander CeferinFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Ben Davies gyda Llywydd Uefa, Alexander Ceferin

Er fod ei rôl gyda'r Cyngor yn waith gweinyddol, tydi hynny ddim yn golygu y bydd Ben yn gwneud swydd fel hyn ar ôl ymddeol fel chwaraewr.

Mae'n cadw ei opsiynau'n agored yn enwedig gan gofio ei fod wedi gwneud cymwysterau hyfforddi Uefa hefyd.

"I ddechrau dwi'n gobeithio y byddai dal yn gallu chwarae am rai blynyddoedd eto," ychwanegodd Ben.

"Dwi'n teimlo'n ffit, dwi'n caru chwarae pêl-droed a dwi'n bwriadu cario ymlaen i wneud hynny am gyn hired a dwi'n gallu.

"Mae bod yn rhan o'r Cyngor yn brofiad gwych i fi - gweld sut mae pethau'n gweithio oddi ar y cae yn y byd pêl-droed."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.