'Roedd dal y clefyd crafu yn yr ysbyty yn gysgod dros farwolaeth fy ngŵr'

Kate Baxter gyda sbectol a gwallt llwyd byr. Mae hi'n gwisgo crys streipiog porffor a blazer streipiog glas tywyll. Mae strap ei bag llaw ar ei hysgwydd. Mae hi'n sefyll ar stryd fawr.Ffynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Kate aeth 12 wythnos heibio cyn i'w gŵr gael diagnosis o'r clefyd crafu crachennog

GanSara Dafydd
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Roedd Kate Baxter a'i gŵr Paul wedi bod gyda'i gilydd ers dros 40 mlynedd, ond yn ei ddyddiau olaf, bu'n rhaid i Kate ddal llaw ei gŵr gyda menig ar ôl iddo ddal y clefyd crafu (crusted scabies) yn Ysbyty Glangwili.

Mae'r clefyd yn gyflwr croen heintus wedi'i achosi gan widdon (mites) microsgopig sy'n cloddio o dan y croen ac yn lledaenu trwy gyswllt dynol agos.

Fe wnaeth Paul ddioddef o strôc a niwmonia ond mae Kate yn honni i'r clefyd crafu "wanhau ei system imiwnedd".

"Doeddwn i ddim yn disgwyl iddo fe farw fel 'na."

Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod nhw'n gweithredu mesurau ychwanegol i reoli'r haint a bod cadw ysbytai mor lân â phosibl yn flaenoriaeth.

Y diweddar Paul Baxter gyda'i gi BonnieFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Y diweddar Paul Baxter gyda'i gi Bonnie

Roedd Paul Baxter yn 89 oed pan aeth i Ysbyty Glangwili ar ôl dioddef strôc ym mis Rhagfyr 2025.

"Roedd Paul yn fywiog a'n ddoniol iawn. Roedd ganddo feddwl chwilfrydig. Roedd e'n berson gwych i fod yn ei gwmni; roedd e'n mwynhau bywyd," meddai ei wraig.

Erbyn mis Chwefror, dywedodd wrth ei wraig ei fod yn dechrau cosi.

Yn ôl Kate, roedd staff yn meddwl ei fod wedi cael alergedd i rai tabledi ond waethygodd y broblem.

Esbonia Kate i 12 wythnos a chwe diwrnod heibio cyn iddo gael diagnosis o'r clefyd crafu.

Erbyn hynny roedd y cyflwr wedi datblygu i fod yn ffurf fwy difrifol o'r clefyd sef y clefyd crafu crachennog (crusted scabies).

"Roedd yr ysbyty yn rhoi creams iddo fe ar gyfer adwaith alergaidd i dabledi ond nid dyna oedd yr achos," ychwanegodd ei wraig.

Gall pobl â crusted scabies fod â niferoedd mawr o mites ac wyau – hyd at ddwy filiwn.

'Ei groen yn dod i ffwrdd fel tywod'

Dywedodd Kate fod ei gŵr hefyd wedi cael niwmonia ond bod y "scabies wedi golygu bod ei system imiwnedd wedi gwanhau".

"Roedd e'n dioddef. Dywedodd wrthai: 'Mae fy nghefn yn cosi' a phan wnes i grafu ei gefn roedd ei groen yn dod i ffwrdd fel tywod."

Bu farw Paul ar 8 Mehefin 2026 yn Ysbyty Glangwili. Mae'r clefyd crafu crachennog wedi'i nodi fel yr ail achos ar ei dystysgrif marwolaeth.

Copi o dystysgrif marwolaeth Paul. Gallwch weld bod "scabies cramennog" wedi'i nodi fel achos eilaidd.
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r clefyd crafu crachennog wedi'i nodi fel yr ail achos ar y dystysgrif marwolaeth

Dywedodd Kate fod y trefnydd angladdau wedi dweud wrthi fod nodyn ar gorff Paul yn dweud ei fod yn "berygl amgylcheddol".

"Mae hynny'n golygu bod y scabies yn dal i fod arno.

"Chi ddim yn disgwyl i'ch gŵr fynd i'r ysbyty gydag un broblem ac yna dod allan drwy'r morgue fel perygl i iechyd pobl eraill."

Mae hi'n dweud ei bod hi'n teimlo bod y clefyd wedi bod yn "gysgod" dros wythnosau a dyddiau olaf Paul.

"Wnaeth e ddim rhoi'r amser y dylen ni fod wedi'i gael gyda'n gilydd.

"Dathlodd ei ben-blwydd yn 90 oed, ond pe na bai wedi cael scabies, mae'n bosib na fyddai ei system imiwnedd wedi gwanhau, ac mae'n bosib y byddai wedi gallu ymladd yn erbyn y niwmonia."

'Ddim wedi anwybyddu pryderon'

Cafodd Kate offer amddiffyn personol (PPE) i'w wisgo wrth ymweld â Paul yn yr ysbyty.

"Dydy dal llaw rhywun wrth wisgo menig ddim yn beth da. Dwi'n deall sut roedd pobl yn teimlo pan oedd ganddyn nhw berthnasau â Covid. Roedd y profiad yn rhywbeth tebyg i hynny."

Fe wnaeth Kate hefyd ddal yr haint a disgrifiodd y profiad fel rhywbeth "ofnadwy".

"Mae gennych chi deimlad o gosi – rhyw deimlad o rywbeth yng nghanol eich cefn a does dim modd cael gwared arno.

"Mae eich croen yn boenus drwy'r amser. Mae'r symptomau'n waeth yn y nos achos dyna pryd maen nhw fwyaf gweithgar; byddech chi'n cael poen sydyn a miniog yn eich coes neu'ch cefn, ac yna byddai'n ymledu ac yn gwaethygu. Mae'n brofiad hunllefus."

Mae'r clefyd crafu yn achosi cosi difrifolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r clefyd crafu yn achosi cosi difrifol

Ar ôl marwolaeth Paul ysgrifennodd Kate at y bwrdd iechyd i gwyno faint o amser a gymerodd i Paul gael diagnosis o'r afiechyd.

Mewn ymateb, dywedodd Phil Kloer, Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd, nad oeddent wedi "canfod unrhyw dystiolaeth bod pryderon ynghylch ei groen wedi'u hanwybyddu neu bod methiant wedi bod i geisio adolygiad meddygol priodol", ac nad oeddent yn "gallu penderfynu'n bendant os roedd modd osgoi'r cyflwr".

Mae Kate yn dweud nad yw hi'n 'hapus' gyda'r ymateb.

"Dywedon nhw ei fod wedi cael triniaeth ar gyfer cyflwr croen ac yn ddiweddarach iddyn nhw sylwi mai scabies oedd e.

"Dylen nhw fod wedi sylweddoli'n gynt nad cyflwr croen cyffredin yn unig oedd hwn."

Mae cyfyngu ar yr ymwelwyr sy'n cael mynd i Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli ers dydd Sul yn sgil yr haint
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfyngu ar yr ymwelwyr sy'n cael mynd i Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli ers dydd Sul yn sgil yr haint

Ym mis Gorffennaf, cafodd Ward Steffan yn Ysbyty Glangwili ei chau i drin achosion o'r clefyd crafu ac ym mis Medi bu'n rhaid cau Ward Cadog am yr un rheswm. Mae'r ddwy ward wedi ailagor ers hynny.

Mae ward Teifi ynghau ers yr 21ain o Fedi.

Ers dydd Sul mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi penderfynu cyfyngu ar nifer yr ymwelwyr yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli yn sgil yr haint.

Mae'r data diweddaraf a gyhoeddwyd yng Nghymru yn awgrymu bod nifer yr ymgynghoriadau ar gyfer y cyflwr wedi cynyddu bron i 500% rhwng 2022-23 a 2024-25.

Y llynedd, cafodd mwy na 27,000 o ymgynghoriadau ar gyfer y cyflwr eu cofnodi o dan y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, o'i gymharu â 4,810 ddwy flynedd ynghynt.

Fe gadarnhaodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda bod rhai triniaethau wedi gorfod cael eu canslo oherwydd bod y wardiau ar gau ac y byddan nhw'n cysylltu â chleifion i aildrefnu.

Yn ôl Louise Standeven, Dirprwy Bennaeth Nyrsio Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, mae'r clefyd crafu yn "rhoi pwysau mawr" ar staff.

"Ni'n gweithio fel system yn y ddau ysbyty felly mae cael un ysbyty gyda sawl ward ar gau yn cael effaith arnom ni hefyd.

"Yn anffodus mae scabies wedi bod yn y gymuned am flynyddoedd maith, mae mwy o awareness am scabies nawr a phobl yn amlwg yn codi consyrn amdano fe," ychwanega.

"Ni'n gweithio'n agos gyda'n tîm atal rheoli heintiau i neud yn siŵr ein bod ni yn atal y scabies rhag mynd ymhellach o amgylch yr ysbyty."

Ychwanegodd bod y ffaith bod y clefyd crafu yn bresennol yn y gymuned "ddim yn adlewyrchiad" o lendid ysbytai.

"Ni'n gyfforddus bod digon o PPE gyda ni yn yr ysbyty, a ni'n gyfforddus yn ein prosesau glanhau ni."

Dynes gyda gwallt brown yn edrych ar y camera gyda gwên fechang. Mae hi'n gwisgo iwnifform meddygol - top glas tywyll gyda streipen goch ar y coler. Yn y cefndir mae modd gweld maes parcio ac adeiladau allan o ffocws.
Disgrifiad o’r llun,

Louise Standeven yw Dirprwy Bennaeth Nyrsio yn Ysbyty Glangwili.

Yn ôl yr Athro Tess McPherson, o Gymdeithas Dermatoleg Prydain, mae achosion ar gynnydd, a'r clefyd yn "amhosibl ei osgoi".

"Rydym yn gwybod bod y clefyd crafu wedi bod yn effeithio ar bobl cyhyd â bod cofnodion yn bodoli, yn dyddio'n ôl i'r cyfnod cyn Crist," meddai.

Ychwanegodd fod "stigma diangen" yn gysylltiedig â'r clefyd, a'i bod yn poeni bod pobl yn cael eu beio am ei drosglwyddo.

"Dyw hi ddim i wneud â bod yn fudr, na hylendid gwael. Rydym yn ei weld ymhlith pob grŵp oedran - yn enwedig pobl ifanc, plant a babanod."

"Dwi wedi gweld llawer o bobl sydd ddim hyd yn oed eisiau dweud wrth eu partneriaid neu'r bobl maen nhw cyd-fyw gyda nhw fod ganddyn nhw'r clefyd. Gall hyn arwain at broblemau parhaus lle mae pobl yn dioddef o'r clefyd, yn ei drosglwyddo i eraill ac yn methu â chael y triniaethau cywir."