Cyfyngu ar nifer ymwelwyr ysbyty wedi achosion o'r clefyd crafu

Mae'r clefyd crafu yn gyflwr croen cyffredin sy'n gallu effeithio ar bobl o bob oed
- Cyhoeddwyd
Mae ysbyty yn Sir Gâr wedi cyflwyno cyfyngiadau mewn ymateb i achosion diweddar o'r clefyd crafu, neu scabies.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda mewn datganiad fod "nifer o achosion o'r clefyd crafu yn cael eu rheoli mewn lleoliadau gofal iechyd a chymunedol ar draws ardal Hywel Dda ar hyn o bryd".
O ganlyniad, maen nhw wedi penderfynu cyfyngu ar nifer yr ymwelwyr yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli.
Mae'r bwrdd iechyd yn mynnu fod y risg i'r cyhoedd yn parhau yn isel.
Dywedodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf yn Hywel Dda: "Rydym wedi gwneud y penderfyniad i gyfyngu ar ymwelwyr ag Ysbyty Tywysog Philip i gyfyngu ar ledaeniad scabies ar ein safle ac yn ein cymuned.
"Mae nifer o wardiau ar gau ar hyn o bryd oherwydd haint, ac mae angen cefnogaeth a dealltwriaeth ein cymunedau arnom i gyfyngu ar ledaeniad pellach."
Ychwanegodd y bwrdd iechyd fod y sefyllfa yn cael ei hadolygu yn gyson a bydd unrhyw ddiweddariadau yn cael eu rhannu ar eu gwefan.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.