Y Senedd yn gwrthod cynnig sy'n dweud y dylai Cymru barhau yn rhan o'r DU

- Cyhoeddwyd
Mae Aelodau o'r Senedd wedi gwrthod cynnig mewn dadl gan Reform sy'n dweud bod y Senedd "yn credu y dylai Cymru barhau i fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig".
Roedd 45 o blaid y cynnig a 46 yn erbyn - roedd y bleidlais yn gyfartal yn wreiddiol ond bu'n rhaid i'r Llywydd Huw Irranca-Davies, yn unol â rheolau sefydlog y Senedd, ddefnyddio'i bleidlais fwrw yn erbyn y cynnig.
Cefnogwyd gwelliant a gyflwynwyd gan lywodraeth Plaid Cymru yn dileu popeth yng nghynnig Reform a rhoi yn ei le bod y Senedd "yn cadarnhau mai pobl Cymru ddylai benderfynu ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru", gyda 53 o blaid a 37 yn erbyn.
Roedd yna bleidlais gref yn erbyn gwelliant y blaid Lafur oedd am ychwanegu "mai datganoli yw ewyllys bendant pobl Cymru, a bod datganoli i Gymru ac o fewn Cymru yn cynrychioli dyfodol gwell, mwy diogel a mwy ffyniannus i'r genedl, nag annibyniaeth", gydag 8 o blaid ac 82 yn erbyn.
Cafodd y cynnig wedi ei ddiwygio, bod y Senedd "yn cadarnhau mai pobl Cymru ddylai benderfynu ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru", ei basio gyda 45 o blaid, 8 wedi ymatal, a 37 yn erbyn.
'Un o'r cwestiynau mwyaf sylfaenol'
Ar ran Reform, dywedodd Adrian Mason, AS Clwyd, bod eu cynnig "yn ymwneud ag un o'r cwestiynau mwyaf sylfaenol y gallwn eu trafod yn y Siambr hon: dyfodol cyfansoddiadol Cymru a'i lle o fewn y Deyrnas Unedig".
Dywedodd bod y "trefniant cyfansoddiadol presennol yn golygu y gallwn fod yn Gymry heb orfod dewis rhwng bod yn Gymry a bod yn Brydeinwyr".
Dywedodd Huw Thomas - cyn-arweinydd Cyngor Caerdydd - ar ran y blaid Lafur: "'Mewn undod mae nerth". 'Gyda'n gilydd yn gryfach'. Dyna'r ethos ganiataodd i Gymro o'r Drenewydd, Robert Owen, sefydlu'r gymuned gydweithredol arloesol yn New Lanark yn yr Alban, ac yna ehangu'r symudiad cydweithredol hwnnw ledled Prydain yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
"Pan sefydlodd Aneurin Bevan y gwasanaeth iechyd, wnaeth e ddim gwneud hynny jest yn Nhredegar neu jest yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Gyfunol.
"A hyd heddiw, hyd yn oed o fewn setliad datganoledig, mae pobl o bob cwr o'r wlad yn parhau i fanteisio o rannu adnoddau ac arbenigedd ar draws ffiniau gwleidyddol y Deyrnas Gyfunol."

Dafydd Trystan Davies: "Pobl Cymru sydd â'r sofraniaeth"
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, bod yr "undeb yn golygu y gall rhywun a aned yng Nghymru astudio, gweithio, sefydlu busnes, magu teulu ac ymddeol yn unrhyw le y mynnant ledled y Deyrnas Unedig.
"Ac, yn bwysicaf oll, mae'n golygu, pan fydd anawsterau'n codi – boed yn rhyfel, argyfwng economaidd, trychineb naturiol, pandemigau, neu hyd yn oed ymgais gan ddeallusrwydd artiffisial i gymryd rheolaeth o'r blaned – bod cryfder ac adnoddau'r Deyrnas Unedig gyfan yn cefnogi pob un dinesydd ar draws Prydain".
Ar ran llywodraeth Plaid Cymru, dywedodd Dafydd Trystan Davies, y gweinidog cabinet dros effeithiolrwydd llywodraeth a'r cyfansoddiad: "Bydd aelodau yma yn anghytuno ynghylch i ble y dylai Cymru fod yn anelu yn y pen draw, ond rwy'n gobeithio'n ddiffuant y gallwn gytuno ar rai egwyddorion sylfaenol.
"Y dylid penderfynu ar ddyfodol Cymru yn ddemocrataidd. Y dylai newid fod yn seiliedig ar dystiolaeth, nid honiadau.
"Mae'r ddadl gyhoeddus yn gryfach pan fydd yn cynnwys ystod eang o leisiau a safbwyntiau, ac mae'n gyfrifoldeb ar y cyd i ni sicrhau bod gan Gymru'r hyder, y gallu a'r offer i lunio ei dyfodol ei hun.
"Pobl Cymru sydd â'r sofraniaeth. Ein cyfrifoldeb ni yw penderfynu ar ein dyfodol, i ble bynnag y gall hynny ein harwain."
Pam collodd Reform y bleidlais?
Pleidleisiodd cyn-AS Reform, Sarah Cooper-Lesadd, yn erbyn cynnig ei hen blaid, gan gefnogi Plaid Cymru.
Ac roedd cyn-arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas, yn absennol ac felly heb bleidleisio.
Yn gynharach y mis hwn, cafodd Thomas ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac ymddwyn mewn modd sy'n rheoli neu'n gorfodi person arall.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau pellach yr heddlu barhau, ac mae'n gwadu gwneud unrhyw beth o'i le.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd25 Awst
