Twf mewn dysgu hyblyg 'mewn perygl' heb fwy o gyllid

Mae nifer y myfyrwyr yn y Brifysgol Agored yng Nghymru wedi mwy na dyblu dros y degawd diwethaf
- Cyhoeddwyd
Mae twf mewn dysgu hyblyg yng Nghymru "mewn perygl" heb fwy o gyllid, medd prifysgol.
Mae'r galw am addysg uwch hyblyg yng Nghymru yn cynyddu'n gyflym, ond gallai pwysau ariannol fygwth mynediad at astudio, yn ôl y Brifysgol Agored.
Dywedodd y brifysgol fod nifer cynyddol o bobl yn troi at astudio hyblyg rhan-amser wrth geisio cydbwyso addysg gyda gwaith, cyfrifoldebau gofalu a phwysau ariannol.
Mae nifer y myfyrwyr yn y Brifysgol Agored yng Nghymru wedi mwy na dyblu dros y degawd diwethaf, gan godi o lai na 7,000 yn 2014/15 i dros 16,000 heddiw.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i fwrw ymlaen ag adolygiad cyffredinol o gyllid addysg uwch i sicrhau bod y system yn gynaliadwy yn ariannol.

Mae addysg hyblyg wedi galluogi Joseph Garcia i newid trywydd ac osgoi mwy o ddyled am fod modd gweithio tra'n astudio
Ymhlith y rhai sydd yn elwa o ddysgu hyblyg yw Joseph Garcia, 25, o Hendy, Sir Gaerfyrddin, sy'n astudio i fod yn athro.
Wedi graddio o Brifysgol Caerdydd gyda gradd yn y gyfraith, fe benderfynodd nad oedd eisiau gyrfa o fewn y sector.
"Pan o'n i'n gweithio yn y swydd, o'n i'n meddwl 'nid dyma'r yrfa i fi'.
"Wedyn nes i ddod ar draws y cyfle i astudio rhan-amser i fod yn athro, ac mae'n hyblyg iawn ac yn meddwl does dim rhaid fi mynd nôl i brifysgol a chael mwy o ddyled."
Mae Joseph bellach yn gweithio llawn amser fel athro o fewn ysgol uwchradd, tra'n astudio rhan amser.
"Fe wnaeth yr hyblygrwydd a'r ffaith fy mod i'n gallu cael cyflog berswadio fi i adael y gyfraith a dilyn trywydd newydd," meddai.
"Fi'n credu i fy nghenhedlaeth i, mae hyblygrwydd yn holl bwysig achos mae lot o bobl yn gweld yn bwysig bod bywyd tu fas i'r gwaith hefyd."
Galw am system decach o ad-dalu benthyciadau myfyrwyr
- Cyhoeddwyd17 Chwefror
Myfyrwyr Cymru'n gadael y brifysgol gyda dyled o £35,000 ar gyfartaledd
- Cyhoeddwyd15 Awst 2024
Mae mwy na hanner holl fyfyrwyr addysg uwch rhan-amser Cymru bellach yn astudio gyda'r Brifysgol Agored.
Dywedodd Cerith Rhys-Jones o'r Brifysgol Agored yng Nghymru ei bod hi'n "dod yn gynyddol anodd i ni ddiwallu anghenion ein myfyrwyr".
"Un o'r prif heriau i ni ar hyn o bryd yw ein bod ni'n gweld twf sylweddol gyda nifer y myfyrwyr sy'n dewis astudio gyda ni, ond be' ni heb weld yw cynnydd yn yr arian y'n ni'n ei gael fesul myfyriwr.
"Roedd tua o 7,000 o fyfyrwyr gyda ni yn 2018.
"Heddiw mae gyda ni dros 16,000 o fyfyrwyr, ac mewn gwirionedd rydyn ni wedi gweld y cyllid fesul myfyriwr yn gostwng tua 30% mewn termau real dros y degawd diwethaf.
"Mae'n anoddach i ni ddarparu'r addysg mae pobl yn dymuno i gael, ac mae'r addysg yn bwysig iddyn nhw fel unigolion, ond hefyd i gymunedau ac i'r economi."
'Angen sgiliau newydd ar yr economi'
Ychwanegodd mai un o beryglon tanariannu addysg uwch hyblyg yw'r diffyg sgiliau o fewn y gweithlu mewn gwasanaethau cyhoeddus.
"Rydym yn hyfforddi athrawon, nyrsys a gweithwyr cymdeithasol ac mae angen y bobl hynny arnom ni yn ein gwasanaethau cyhoeddus," meddai.
"Ond hefyd mae angen sgiliau newydd ar yr economi.
"Mae'r gweithle'n newid a bydd angen i bobl uwchsgilio ac ailsgilio drwy gydol eu hoes, ac mae angen i ni sicrhau bod y cyfleoedd yno i bobl wneud hynny."
Rhybuddiodd y gallai methiant i weithredu gan lywodraeth newydd Cymru greu "perygl gwirioneddol" i gynaliadwyedd hirdymor addysg uwch hyblyg.
Mae'n galw am well cyllid ar gyfer addysg uwch rhan-amser a pharhau â chymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr.

Dywed Elin Gardner y byddai wedi bod yn "sownd" o ran opsiynau os nad oedd y Brifysgol Agored yn bodoli
Mae Erin Gardner, 21, yn byw yng Nghaerdydd ac yn astudio athroniaeth a seicoleg yn y Brifysgol Agored.
Dywedodd fod yr hyblygrwydd a'r gallu i gael profiad ochr yn ochr â'i gradd yn bwysig iddi.
"Yn 18 oed, gwnes i gais am brifysgol yn Lerpwl a doeddwn i ddim wir yn barod i fynd i brifysgol.
"Wrth edrych yn ôl, dylwn fod wedi cymryd seibiant i ddarganfod beth roeddwn i eisiau ei wneud."
Rhoddodd y gorau i'w gradd nyrsio ar ôl blwyddyn a hanner a gweithiodd amryw o swyddi.
Ar ôl gweithio mewn ysgol fe benderfynodd ei bod eisiau mynd yn ôl i'r brifysgol a gweithio ym myd addysg, ond doedd ganddi ddim digon o gyllid ar gyfer gradd draddodiadol.
"Rwy'n credu os nad oedd y Brifysgol Agored yn bodoli, byddwn i wedi teimlo'n sownd," meddai.
"Mae'n meddwl fy mod i dal yn gallu cael gradd a chael mynediad at bethau mae gradd yn eu hagor, a hefyd cael profiad mewn addysg gyda phlant wrth gael gradd hefyd."
Adolygiad yn parhau
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i fwrw ymlaen ag adolygiad cyffredinol o gyllid addysg uwch".
"Y nod yw sicrhau bod y system yn gynaliadwy yn ariannol a bod mwy o werth cyffredinol buddsoddi cyhoeddus o fantais i Gymru.
"Rydym yn cydnabod y pwysau sylweddol y mae prifysgolion yn eu hwynebu a byddwn yn gweithio'n agos gyda'r sector drwy gydol y broses hon i glywed eu safbwyntiau."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.