Disgwyl manylion cynlluniau ffordd dros y Fenai ac ardal yr M4

- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i'r gweinidog yn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am drafnidiaeth wneud datganiad am gynlluniau ar gyfer yr M4 a chroesiad dros y Fenai yn ddiweddarach.
Bydd Mark Hooper yn gwneud datganiad yn y Senedd, ond nid yw'n glir eto beth yw cynlluniau'r llywodraeth.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn annog llywodraeth Plaid Cymru i fwrw ymlaen â chodi ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd, a thrydedd bont dros y Fenai, oherwydd pryderon am dagfeydd traffig.
Ers dros 30 mlynedd, mae'r syniad o adeiladu traffordd newydd i'r de o Gasnewydd wedi bod yn bwynt trafod i wleidyddion, ac roedd yn dal i gael ei drafod mor ddiweddar â mis Mehefin.
Cafodd ffordd liniaru ei chynnig gyntaf yn 1991 i leihau'r tagfeydd dyddiol wrth dwneli Brynglas. Ond cafodd y cynllun ei ganslo yn 2019 gan lywodraeth Lafur Cymru oherwydd costau uchel a phryderon am yr amgylchedd.
Mae Reform UK a'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y byddai ffordd liniaru yn helpu'r economi, ond mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn galw am "atebion sy'n gweithio i gymunedau a natur".
Mae Plaid Cymru wedi dweud y bydd yn cyflwyno cynllun newydd, gan honni bod yr hen gynlluniau bellach wedi dyddio.
Mae pryderon hefyd am bwysau traffig ar bontydd dros y Fenai, ond nid yw'n glir eto a ydy'r llywodraeth o blaid adeiladu trydedd bont rhwng Ynys Môn a'r tir mawr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

