Llywodraeth yn 'edrych ar opsiynau manwl' ar gyfer trydydd croesfan i'r Fenai

Pont y BorthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith o atgyweirio Pont y Borth - sy'n 200 oed - yn parhau tan wanwyn 2027

  • Cyhoeddwyd

Mae llywodraeth newydd Plaid Cymru yn "dechrau edrych ar opsiynau manwl ar gyfer trydydd croesfan i'r Fenai".

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper, mewn datganiad yn y Senedd ar wydnwch seilwaith allweddol, y bydd, wrth ystyried yr opsiynau manwl, yn "adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud".

Ychwanegodd eu bod "yn bwrw ymlaen â mesurau uniongyrchol ac opsiynau tymor hwy i gryfhau cydnerthedd ar draws Afon Menai, gan gynnwys ystyried opsiynau manwl ar gyfer trydydd croesfan".

Mae Pont y Borth wedi gorfod cael ei chau nifer o weithiau yn ddiweddar er mwyn cynnal archwiliadau yn sgil amheuaeth bod cerbydau dros bwysau wedi ei chroesi.

Dywedodd Hooper fod Pont y Borth yn "strwythur 200 mlwydd oed, heb ei gynllunio erioed ar gyfer gofynion traffig modern, a bydd yn parhau i gyflwyno heriau".

Yn y de, dywedodd y dirprwy weinidog ei fod "yn ymgymryd â gwaith wedi'i dargedu i nodi strategaeth glir a chyflawnadwy ar gyfer coridor yr M4".

Mae tagfeydd traffig yn broblem gyson i'r rhai sy'n teithio ar hyd Pont Britannia
Disgrifiad o’r llun,

Mae tagfeydd traffig yn broblem gyson i'r rhai sy'n teithio ar hyd Pont Britannia

Dywedodd Hooper wrth ASau bod "croesfannau Menai yn gweithredu fel system".

"Mae Pont Britannia yn cario'r rhan fwyaf o draffig ond mae'n agored i wyntoedd cryfion, tra bod gan Bont Grog Menai gapasiti is ac mae angen cynnal a chadw parhaus arni.

"Pan fydd un groesfan wedi'i chyfyngu, teimlir yr effaith ar unwaith ar draws y rhanbarth.

"Rydym yn bwrw ymlaen ag argymhellion gan Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru.

"Mae hyn yn cynnwys cynigion ar gyfer dargyfeiriadau gwynt ar Bont Britannia i leihau aflonyddwch sy'n gysylltiedig â'r tywydd, ochr yn ochr â gwaith ehangach i wella sut mae'r ddwy groesfan yn gweithredu gyda'i gilydd yn ystod cyfnodau o bwysau.

"Rydym hefyd yn bwrw ymlaen ag opsiynau i wella rheoli traffig ar yr A55, gan gynnwys uwchraddio signalau a therfynau cyflymder amrywiol ar Bont Britannia, fel y gellir rheoli aflonyddwch yn fwy effeithiol pan fo angen cyfyngiadau ar y naill groesfan neu'r llall."

Yn 2018 fe wnaeth y llywodraeth Lafur yng Nghymru gyhoeddi fod pedwar opsiwn dan ystyriaeth fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus i'r posibilrwydd o greu trydydd llwybr, gyda'r gobaith o ddechrau ar y gwaith adeiladu erbyn diwedd 2020.

Y pedwar opsiwn dan ystyriaeth bryd hynny oedd:

  • Opsiwn Coch: Pont newydd yn union i'r gorllewin o Bont Britannia a gwelliannau i Gyffordd 8A ar yr A55;

  • Opsiwn Pinc: Estyniad i Bont Britannia / pont newydd yn union i'r dwyrain o'r bont bresennol i ddarparu lonydd ychwanegol ar gyfer traffig a gwelliannau i Gyffordd 8A yr A55;

  • Opsiwn Oren: Pont newydd yn union i'r dwyrain o Bont Britannia a gwelliannau i Gyffordd 8A yr A55;

  • Opsiwn Porffor: Pont newydd i'r dwyrain o Bont Britannia a gwelliannau i Gyffordd 8 ac 8A yr A55.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.