Marwolaethau yn y dŵr: 'Mae pob achos yn dinistrio bywydau'

Offer achub bywyd ar lan y môr
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua un farwolaeth yr wythnos, ar gyfartaledd, o ganlyniad i ddigwyddiad mewn dŵr yng Nghymru - dwbl y gyfradd drwy'r DU

  • Cyhoeddwyd

20 mlynedd ers colli eu meibion drwy foddi, mae dwy fam yn cefnogi ymgais o'r newydd i leihau nifer yr achosion o bobl sy'n colli eu bywydau mewn dyfroedd yng Nghymru.

Mae ffigyrau yn dangos bod yna tua un farwolaeth yr wythnos, ar gyfartaledd, o ganlyniad i ddigwyddiad mewn dŵr yng Nghymru, gyda'r gyfradd yma yn fwy na dwbl y gyfradd drwy'r DU.

Mae sawl marwolaeth eisoes wedi bod yn ystod y tywydd poeth diweddar, gan gynnwys marwolaethau dau ddyn mewn dau ddigwyddiad gwahanol yn Llyn Geirionydd ger Llanrwst.

Dywedodd Aelod Seneddol Bangor Aberconwy, Claire Hughes bod yn "rhaid i bawb fod yn ymwybodol o'r peryglon".

Gyda phlant bellach ar eu gwyliau haf, a hithau'n Ddiwrnod Atal Boddi y Byd, mae teuluoedd sydd wedi profi colled o'r fath wedi ymuno â Llywodraeth Cymru, elusennau, tirfeddiannwyr, darparwyr gweithgareddau ac ymgyrchwyr i gyhoeddi Strategaeth Atal Boddi Cymru.

Collodd Maxine Johnson a Debbie Anne Turnbull MBE eu meibion mewn dau ddigwyddiad gwahanol yn 2006.

Bu farw mab Maxine, Rueben Morgan, oedd yn 15 oed, tra'n nofio yng Nghronfa Ddŵr Pontsticill ger Merthyr Tudful, ac fe foddodd mab 15 oed Debbie, Christopher Turnbull mewn afon yng Nghapel Curig yn Sir Conwy.

Mae'r ddwy wedi bod yn ymgyrchu ers hynny i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch yn y dŵr.

Christopher TurnbullFfynhonnell y llun, Debbie Turnbull
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Christopher Turnbull, 15, mewn afon yng Nghapel Curig, Sir Conwy yn 2006

Dywedodd Debbie Turnbull: "Rydyn ni'n gwybod mai dynion ifanc ydi'r grŵp mwyaf tebygol yng Nghymru i foddi, ac mae mwy o bobl yn marw mewn dŵr yn ystod misoedd yr haf.

"Rydyn ni eisiau i bawb wybod sut i fwynhau'r dŵr yn ddiogel.

"Dylai unrhyw un sy'n canfod eu hun mewn perygl yn y dŵr frwydro yn erbyn eu greddf i fynd i banig, gan Arnofio i Fyw - ceisio ymlacio ac arnofio ar eu cefn, gyda'u pen yn gwyro'n ôl, gan symud eu dwylo a'u coesau yn ysgafn i helpu i gadw eu hunain ar wyneb y dŵr.

"Mae hyn yn benthyg amser gwerthfawr i ddod â'ch anadl o dan reolaeth, cyn galw am gymorth neu nofio i fan diogel.

"Os ydych chi'n gweld unrhyw un arall mewn trafferthion yn y dŵr, peidiwch â mynd i mewn atyn nhw, ond cofiwch Ffonio, Arnofio, Taflu.

"Ffoniwch 999 i gael yr ymateb brys, gwaeddwch ar y person sydd mewn trafferth i Arnofio i Fyw, ac yna os gallwch chi taflwch rywbeth i'r dŵr sy'n arnofio."

Cronfa Ddŵr Pontsicill gyda llun o Reuben Morgan yn y gornel dde uchaf
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Rueben Morgan ar ôl mynd i drafferthion yng Nghronfa Ddŵr Pontsticill ym Mannau Brycheiniog yn 2006

Ychwanegodd Maxine Johnson bod "pob achos o foddi yn cael effaith ddinistriol ar unigolion, teuluoedd a chymunedau".

"Does neb yn meddwl y bydd yn digwydd iddyn nhw, neu eu ffrind neu aelod o'r teulu - ond y gwir ydi y gall unrhyw un fynd i drafferthion yn y dŵr.

"Rydyn ni'n credu bod boddi yn rhywbeth y gellir ei atal ac mae Strategaeth Atal Boddi Cymru yn amlinellu sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i leihau achosion ac arbed bywydau.

"Rydyn ni eisiau i bawb wneud eu rhan."

Mae Aelod Seneddol Bangor Aberconwy, Claire Hughes eisiau i bawb fod yn ymwybodol o beryglon dŵr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aelod Seneddol Bangor Aberconwy, Claire Hughes eisiau i bawb fod yn ymwybodol o beryglon dŵr

Gyda sawl achos o foddi wedi bod yn ei hetholaeth yn y blynyddoedd diwethaf, mae Aelod Seneddol Bangor Aberconwy, Claire Hughes yn croesawu'r strategaeth newydd i geisio atal marwolaethau o'r fath.

"Mae'r effaith yn y gymuned, mae mor drist, ddim just i'r teuluoedd, ond y gwirfoddolwyr, y gwasanaethau brys, mae'n rhywbeth sy'n cael effaith ar bawb.

"Dan ni yma yn gogledd Cymru, yn Bangor Aberconwy yn byw mewn lle mor arbennig hefo y môr, afonydd, llynnoedd, llefydd arbennig o dda i fwynhau, ond peryglus hefyd.

"Mae'n hynod o bwysig. Mae'n rhaid i ni gael y neges i oedolion a phobl ifanc hefyd.

"Mae cymdeithas y Royal Life Saving Society - mae ganddyn nhw ymgyrch newydd Speak Up Be a Mate, i bobl siarad am y peryglon, i rieni gael y sgwrs hefo oedolion ac efo pobl ifanc, ac i bobl ifanc siarad hefo'i gilydd, sef ella 'dwi ddim yn siŵr ydi hynna'n syniad da'.

"Dwi eisiau i bawb gael y sgwrs."

'Boddi yn parhau'n her gynyddol'

Mae cyhoeddi'r strategaeth yn cyd-fynd â Diwrnod Atal Boddi y Byd ar 25 Gorffennaf, gyda Chadeirydd Diogelwch Dŵr Cymru, Chris Cousens yn dweud bod "boddi yn parhau i fod yn her iechyd cyhoeddus cynyddol yng Nghymru".

"Mae gan Gymru gyfradd boddi sy'n fwy na dwbl y gyfradd drwy'r DU, ac er gwaethaf ymdrechion gan aelodau Diogelwch Dŵr Cymru ac eraill, mae nifer y marwolaethau wedi cynyddu ychydig ers i'r strategaeth gyntaf gael ei chyhoeddi.

"Mae cyhoeddi'r strategaeth yma yn gyfle i ni gyd yng Nghymru i gydnabod bod pob un o'r marwolaethau yma yn drasiedi.

"Mae'n tanlinellu'r angen am weithredu ar frys a phwysigrwydd adnewyddu ein hymdrechion i atal boddi."

Plant yn cael gwersi nofioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Rhaglen Nofio a Diogelwch Dŵr i Ysgolion a fydd yn dechrau ym mis Medi 2026

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi Rhaglen Nofio a Diogelwch Dŵr i Ysgolion a fydd yn dechrau o fis Medi 2026.

Dywedodd y Gweinidog dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan AS, bod "mynediad at nofio ysgol yn parhau i fod yn anghyson ledled Cymru".

"Ar hyn o bryd nid yw tua un o bob pump ysgol gynradd a gynhelir yn darparu gwersi nofio, a nifer cymharol fach o blant sy'n manteisio ar gyfleoedd nofio allgyrsiol."

Yn ôl y llywodraeth bydd y Rhaglen Nofio yn darparu cynnig sylfaenol o 20 o wersi nofio a diogelwch dŵr i ddisgyblion, yn bennaf ar draws Blynyddoedd 4 a 5, gan ganolbwyntio ar hyder yn y dŵr, sgiliau nofio ac addysg diogelwch dŵr.

Mae £2m wedi ei roi i weithredu'r cynllun yn y flwyddyn gyntaf.

Bydd Cam 1 yn dechrau mewn naw awdurdod lleol ym mis Medi 2026, gan ehangu i hyd at 16 ardal awdurdod lleol o fis Medi 2027 gan gyrraedd pob un o'r 22 awdurdod lleol o fis Medi 2028.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig