Canfod corff dyn mewn llyn yn Nyffryn Conwy

Llyn Geirionydd (ar 8 Gorffennaf)
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Llyn Geirionydd yn rhan o Barc Coedwig Gwydir ac mae'n cael ei reoli'n rhannol gan Gyfoeth Naturiol Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae corff dyn wedi cael ei ganfod mewn llyn yn Nyffryn Conwy.

Fe ddaeth y cyhoeddiad gan Heddlu'r Gogledd ddydd Mercher, ar ôl i dîm tanddwr fod yn chwilio yn ardal Llyn Geirionydd ger Llanrwst.

Cafodd y llu eu galw yno'n wreiddiol ddydd Sul yn dilyn pryderon bod dyn ar goll.

Er nad yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yma, mae teulu'r dyn oedd ar goll wedi cael gwybod am y farwolaeth.

Ychwanegodd yr heddlu eu bod yn meddwl am y teulu yn ystod "yr amser anodd yma".

Mae Llyn Geirionydd yn rhan o Barc Coedwig Gwydir ac mae'n cael ei reoli'n rhannol gan Gyfoeth Naturiol Cymru, sydd â maes parcio, toiledau ac ardal bicnic ar y lan.

Pynciau cysylltiedig