Tanau gwyllt yn tawelu mewn mannau, ond rhybuddion yn parhau

Mae ardal Cwm Elan yn un o'r llefydd sydd wedu cael tanau gwyllt dros y dyddiau diwethaf
- Cyhoeddwyd
Mae tanau gwyllt sydd wedi bod yn rhuo mewn mannau ar draws Cymru'n dechrau tawelu wrth i'r tywydd newid, ond mae rhybuddion yn dal mewn grym.
Dros y dyddiau diwethaf mae diffoddwyr tân wedi bod yn brwydro tanau gwyllt ym Mhowys, Ceredigion, a rhannau o'r de.
Fe weithiodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar y cyd ag asiantaethau eraill, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i fynd i'r afael â thân yn ardal Cwm Elan ym Mhowys.
Ddydd Gwener fe benderfynodd swyddogion baratoi i adael yr ardal gan fod "glaw trwm heddiw a chefnogaeth gan hofrennyddd diffodd tân CNC" wedi bod golygu bod y "sefyllfa wedi gwella'n sylweddol".
Ond mae'r gwasanaeth tân yn pwysleisio eu bod yn dal i gynghori pobl mewn ardaloedd agos i'r tanau i gadw eu ffenestri a'u drysau ynghau os oes yna fwg trwchus.
Mae Nick Thomas o CNC wedi annog pobl i gymryd gofal ychwanegol dros ŵyl y banc
Er hynny mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dweud brynhawn Gwener eu bod yn ymwybodol o ddigwyddiad tân difrifol yn ardal Nant Ddu o'r parc.
Dywedon nhw bod "tanau ar dirweddau fel hyn yn lledaenu'n gyflym, yn anodd eu rheoli, ac maen nhw'n gallu achosi difrod difrifol a pharhaol i gynefinoedd".
"Mae tanau o'r fath yn peryglu bywydau ac yn rhoi pwysau difrifol ar y gwasanaethau brys.
"Gyda phenwythnos gŵyl y banc yn agosáu, rydym yn annog pawb i gymryd y risg hon o ddifrif. Peidiwch â chynnau tanau na barbeciws tafladwy. Peidiwch â thaflu sigaréts na matsis. Ewch â'ch holl sbwriel adref."

Fe ddechreuodd y tân ym Mannau Brycheiniog, ar draws man cerdded poblogaidd Pen y Fan, ddydd Iau
Mae ymwelwyr hefyd yn cael eu hannog i wirio eu teithiau cyn ymweld â rhai ardaloedd.
Gyda thân ddim yn bell o fynydd Pen y Fan mae'r awdurdodau am i gerddwyr fod yn wyliadwrus.
Fe gafodd y maes parcio ym Mhont ar Daf ei gau am gyfnod cyn cael ei ailagor amser cinio ddydd Gwener.
Dywedodd y Gwasanaeth Tân eu bod wedi penderfynu ailagor maes parcio yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan fod llai o risg bellach i'r tân ledu ymhellach.

Mae Bleddyn Rees yn galw ar y cyhoedd i helpu'r gwasaethau tân drwy fod yn wyliadwrus
Mae Bleddyn Rees o Wasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin yn dweud bod "popeth gyda ni yn eu lle i ddelio gyda nhw [y tanau]" ond mae'n "bwysig bod pobl yn helpu ni hefyd".
"Fi'n credu bod llawer o'r tanau hyn yn gallu cael eu hosgoi yn rhwydd," meddai gan annog pawb i "gadw bant o'r tanau a gall y gwasanaeth tân ddod i ddelio gyda fe."
Dywedodd hefyd fod lleoliadau'r tanau wedi gwneud eu gwaith yn heriol. Maen nhw "mewn ardaloedd sy'n bell mas o'r ffordd o'r trefi... mae'n gwneud pethau yn anodd iawn i ni ar y funud."
"Mae'r tanau'n achosi lot o ddifrod... natur, os ewch chi ar ben y mynyddau nawr lle mae'r tanau wedi bod, dwi'n siwr byddwch chi'n gweld nythod wedi llosgi, llygod wedi llosgi, sloworms, mae lot o anifeiliaid yn cael eu affectio ganddo fe."
Mae hefyd yn tynnu swyddogion i ffwrdd o'u rolau arferol yn ymateb i danau cartref a gwrthdrawiadau ffyrdd gan "wneud pethau bach yn galetach i ni lawr yn y trefi a'r pentrefi".

Y mwg ym Mhontrhydygroes ger Cwmystwyth ddydd Iau
Fore Gwener bu ffermwr o Geredigion, lle mae tanau gwyllt wedi bod yn rhuo ar ei dir, yn trafod effaith y cyfan arno.
Mae "lawer tawelach a dydy'r mwg ddim mor drwm, ond mae'n dal i fod yn amhleserus," meddai Brynmor Morgan wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, BBC Radio Cymru.
"Mae o'n mynd lawr eich gwddf, i mewn eich llygaid chi. Ond mae'r tân sy' ar y mynydd wrth fy ochr i fwy neu lai wedi tawelu."
Dywedodd ei fod wedi bod yn y "scheme amgylchedd" ers pedair degawd.
"Mae e' wedi dod â grug i dyfu 'nôl 'na a hefyd dwi wedi bod yn gofalu ac yn ehangu nifer y grouse, grouse coch.
"Does dim porfa - mae dros 70,80% o'r mynydd wedi cael ei losgi'n drwm," meddai.
'Blanced o fwg' dros Gwmystwyth wedi cyfres o danau gwyllt
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
'Erioed wedi gweld tân fel hyn' yng Nghwm Elan
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
"Ni methu mynd rownd o gwmpas, ni methu mynd i ganol y mynydd, achos mae'r niwl a'r llwch 'ma yn mynd lawr eich gwddf chi ac mae eisiau cawod o law.
"Dwi'n teimlo'n drist ofnadwy - y gwaith chi wedi rhoi mewn dros y blynydde - a chi'n cymryd diddordeb ynddo fe," meddai Mr Morgan.
"Ma' hwnna' 'di cael ei ddifetha', mae e' gyd yn llwch nawr."
Dywedodd Mr Morgan y bydd hi'n fis Awst erbyn y cawn nhw "dyfiant a lliw" ac nad ydy'r defaid yn mynd i gael porfa yn y cyfamser.
"Chi mewn sefyllfa sâl a bod yn onest."
'Sefyllfa dwi'm am ei weld eto'
"Ni wedi bod o gwmpas ers rhyw saith cenhedlaeth ar y fferm ac ma'r dyddiaduron 'da ni - ond dwi'm di clywed sôn am dân o gwbl yn ystod y cyfnod yna.
"Ma' hwn yn rhywbeth newydd ac mae o'n brofiad dwi ddim am fynd trwyddo eto.
"O'dd gweld y fflamau - oedd e'n mynd fyny rhyw dri metr ac yn wyllt iawn yn difetha' popeth - roedd e'n symud rhyw 70 metr pob hanner awr.
"Felly oedd o'n dân cyflym iawn."
Disgrifiodd y fflamau fel rhywbeth oedd "yn creu ofn arnoch chi, o'chi methu mynd rhy agos achos bod y gwres mor drwm ac yn boeth iawn".
"Sefyllfa dwi'm am ei weld eto," meddai.
Ychwanegodd Mr Morgan fod ffermwyr eraill "i gyd yn gofidio achos ma' effaith ma' nhw'n mynd i gael" ar ffermydd, stoc, teuluoedd a ffensys yn mynd i gael effaith fawr.
"Dwi'n teimlo'n flin a dros y bobl eraill sy'n ffermio."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.