'Blanced o fwg' dros Gwmystwyth wedi cyfres o danau gwyllt

Mae'r cyflwynydd Ifan Jones Evans, sy'n byw ym Mhontrhydygroes ger Cwmystwyth, yn dweud bod y "mwg yn flanced dros y pentre'"
- Cyhoeddwyd
Am y pumed diwrnod yn olynol, mae diffoddwyr tân yn delio ag achosion o danau gwyllt ym Mhowys, Ceredigion, a rhannau o'r de.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru maen nhw wedi bod yn ymateb i danau ers dydd Sul, gyda'r digwyddiad mwyaf yng Nghwm Elan ym Mhowys.
Mae criwiau hefyd yn dal i geisio rheoli tanau ger Cronfa Ddŵr Claerwen.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cau Ystâd Hafod ym Mhont-rhyd-y-groes i ymwelwyr "fel mesur rhagofal" oherwydd y tân yng Nghwm Elan.
Mae'r A470 wedi bod ynghau oherwydd tân arall yn Llwyn-onn ym Mannau Brycheiniog, a rhan o'r A4107 dros Fynydd y Bwlch ger Treorci.
Roedd Ifan Jones Evans yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Iau
Mae'r cyflwynydd Ifan Jones Evans, sy'n byw ym Mhont-rhyd-y-groes ger Cwmystwyth yng Ngheredigion, yn dweud bod y "mwg yn flanced dros y pentre'".
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Iau, dywedodd fod y tân wedi "cilio nôl 'chydig bach o Gwmystwyth erbyn hyn ond yn dal i losgi'n gryf iawn, iawn".
"Mae'r gwynt mor gryf heddi' eto ac wedi bod yn chwythu ers 'chydig o ddiwrnode nawr a mae e just yn chwipio'r tân o un lle i'r llall," meddai.
"Mae 'na dannau yn digwydd ar yr ucheldir... ond i gael y tannau gwyllt 'ma dros ardal mor eang, mor hwyr yn y flwyddyn, mae'n mynd i gael effaith fawr ar y ffermwyr yma.
"Fydd y porfa ddim yn dod yn ôl cystal ar gyfer y defaid a'r ŵyn, ond wedyn falle fod hwnne hefyd y broblem sydd wedi bod yn digwydd ers degawdau - bod y mynyddoedd ddim yn cael eu pori yn ddigonol, bod ffermwyr ddim yn cael eu gwobrwyo'n ddigon da i warchod y tir ac o ganlyniad ma'r profa'n tyfu'n wyllt."
Ychwanegodd bod "pobl sydd yn crwydro'r mynyddoedd ddim digon ymwybodol pan maen nhw yn cael barbecues ac ati".

Yr olygfa yng Nghwm Elan nos Fawrth
Mae'r Gwasanaeth Tân yn galw ar i bobl osgoi'r ardaloedd sydd wedi'u heffeithio tra bod y digwyddiadau'n parhau.
Mae yna gyngor hefyd i bobl leol gadw eu ffenestri a'u drysau ynghau os oes mwg trwchus yn yr ardal.
Dywedodd y gwasanaeth tân ac achub bod y perygl o danau gwyllt yn cynyddu yn ystod y gwanwyn a'r haf, ac maen nhw'n annog pobl i ddilyn cynghorion diogelwch er mwyn arbed cefn gwlad a chymunedau rhag effeithiau tanau o'r fath.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.