'Bwysig bod pobl ifanc yn y swyddi yma' - cynghorydd ieuengaf Conwy

Llun o Aaron Wynne ar y stryd yn gwenu.Ffynhonnell y llun, llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Aaron Wynne ei ethol yn gynghorydd yn 20 oed ac mae bellach yn aelod cabinet Cyngor Conwy dros addysg

  • Cyhoeddwyd

Bydd Aaron Wynne yn rhoi'r gorau i'w rôl fel cynghorydd yn etholiadau lleol Mai 2027, ar ôl deng mlynedd yn cynrychioli ardal Llanrwst, Llanddoged a Maenan.

Cafodd ei ethol yn 20 oed ac mae bellach yn aelod cabinet Cyngor Conwy dros addysg, gan ddweud ei fod yn falch o'r cyfle i wasanaethu ei gymuned.

Dywedodd ei fod wedi mwynhau bod yn llais i bobl leol, ond bod y rôl hefyd wedi bod yn "heriol o bryd i'w gilydd", yn enwedig wrth gydbwyso dyletswyddau'r cyngor â gwaith a bywyd personol.

Mae'n gobeithio y bydd ei benderfyniad i sefyll i lawr yn annog pobl ifanc eraill i gamu ymlaen, gan rybuddio bod perygl i "benderfyniadau gael eu gwneud dros bobl ifanc" yn hytrach na gyda nhw os nad oes ganddyn nhw gynrychiolaeth.

'Pennod newydd'

Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn, dywedodd Aaron Wynne ei fod wedi cael yr anrhydedd o gynrychioli ei ardal dros y degawd diwethaf, a'i fod bellach yn teimlo ei bod hi'n amser i rywun arall ymgymryd â'r rôl.

"Wel, dwi wedi bod yn gynghorydd rŵan dros Llanrwst am ddeng mlynedd a dwi wedi cael yr anrhydedd o gael cynrychioli fy ardal," meddai.

"Ddim diwedd fy niddordeb mewn gwasanaethau cyhoeddus ond, wrach, pennod newydd a chyfle i rywun arall ymgymryd â'r rôl bwysig yma."

Aaron gydag aelodau eraill Plaid Cymru yn dal baner y blaid mewn ystad o dai yn LlanrwstFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bu Aaron Wynne (chwith) yn canfasio yn Llanrwst gydag aelodau eraill Plaid Cymru cyn Etholiad y Senedd yn 2026

Dywedodd iddo benderfynu sefyll mewn etholiad oherwydd ei ddiddordeb mewn materion lleol, yn enwedig y rhai sy'n effeithio ar bobl ifanc.

"Roedd gen i wastad ddiddordeb mewn materion lleol, yn enwedig fel person ifanc, gwneud yn siŵr bod gennym ni dai fforddiadwy lleol, bod yna waith o ansawdd da," meddai.

Ychwanegodd nad oedd yn credu bod gwleidyddion ar y pryd yn rhoi digon o sylw i'r materion hynny, na hyd yn oed yn eu trafod.

Dywedodd Aaron mai un o'r pethau mae'n ei fwynhau fwyaf am ei rôl yw bod yn llais i'w gymuned.

"Dwi'n meddwl y rhan o'r swydd dwi'n mwynhau fwyaf ydy cael cefnogi pobl leol efo'u materion lleol, wrach cefnogi nhw i gael mynediad at wasanaeth maen nhw angen," meddai.

"Neu hyd yn oed bod o'n rhywbeth mwy cymunedol fel twll yn y lôn."

Llun o Aaron gyda'i gyd-weithwyr, gan gynnwys y Prif Weinidog Rhun Ap Iorwerth. Ffynhonnell y llun, llun cyfrannydd

Ond dywedodd fod bod yn gynghorydd mor ifanc wedi dod â'i heriau ei hun.

Yn ôl Aaron, roedd rhaid iddo "brofi i gynghorwyr eraill bod fi'n haeddu fy lle i ar y cyngor, bo' fi'n deall hefyd y materion roedden ni'n trafod a bo' fi'n haeddu cael bod yn rhan o'r sgwrs yna".

Ychwanegodd: "Wrth i'r wythnosau a'r misoedd fynd yn eu blaen" ei fod yn credu bod cynghorwyr bellach "yn sicr yn licio medru clywed gan bobl ifanc," ond bod angen cydbwyso'r rôl â chyfrifoldebau eraill hefyd.

"Dwi'n meddwl hefyd, fel rhywun ifanc, ti'n gorfod cydbwyso dyletswydd o fod yn gynghorydd ac wrach swydd ran-amser hefyd, lle wrach dydy cynghorydd hŷn ddim yn gorfod meddwl am hynny.

"Felly, mae rhywun yn gorfod meddwl am gydbwyso'r ddyletswydd o fod yn gynghorydd â gwaith personol hefyd."

'Penderfyniadau'n cael eu gwneud dros bobl ifanc'

Gyda'r etholiad lleol nesaf ym mis Mai 2027, mae Aaron yn annog pobl ifanc eraill i ystyried sefyll mewn etholiad, gan ddweud bod eu safbwyntiau'n bwysig wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw.

"Yn sicr, dwi'n meddwl bod hi'n bwysig iawn bod pobl ifanc yn ymgymryd â rolau tebyg i hyn," meddai.

"Os nad oes gennym ni leisiau ifanc yn y swyddi yma, y perygl ydy bod penderfyniadau'n cael eu gwneud dros bobl ifanc yn hytrach na hefo pobl ifanc."

Aaron Wynne yn siarad yn Llyfrgell Llanrwst fel rhan o'i swydd fel cynghorydd.Ffynhonnell y llun, llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aaron Wynne yn "ffyddiog" y bydd pobl ifanc "yn sefyll mewn etholiad tro nesaf"

Fel aelod presennol y cabinet dros addysg, mae Aaron hefyd wedi bod yn rhan o ddatblygu mentrau cymunedol, gan gynnwys y llyfrgell yng Nglasdir, ac mae'n dweud ei bod yn "hollbwysig" bod pobl ifanc yn cael llais ym mhenderfyniadau'r cyngor.

Dywedodd fod pobl ifanc sy'n cymryd rhan yng nghyngor ieuenctid Conwy eisoes yn "cymryd rhan fel eu bod nhw'n gynghorwyr eu hunain, yn cael craffu ar waith y cyngor".

"Maen nhw'n dod efo brwdfrydedd, mae ganddyn nhw gwestiynau craff iawn, chwarae teg iddyn nhw, ac maen nhw wirioneddol yn cymryd diddordeb yn y pwnc dan sylw," meddai.

Dywedodd ei fod yn obeithiol y bydd rhai o'r bobl ifanc hynny'n sefyll mewn etholiad yn y dyfodol.

"Felly, dwi'n ffyddiog iawn bydd 'na rai o'r bobl ifanc yna'n sefyll mewn etholiad tro nesaf."

Pynciau cysylltiedig