'Mae potensial mawr a ni angen gweiddi am fashion heads Cymru'

Mae Ioan Bowen-Pickett wedi agor stiwdio yn mae Caerdydd ac yn credu'n "bendant" fod lle i Gymru yn y byd ffasiwn
- Cyhoeddwyd
Oes angen i bobl ifanc yn y byd ffasiwn weithio mewn prifddinasoedd enfawr?
Yn ôl pobl amlwg yn y diwydiant, cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc yw'r allwedd i lwyddiant.
Yn wreiddiol, doedd prosiect Fashion Britain - sy'n ceisio sicrhau bod y diwydiant gwerth 29 biliwn o bunnoedd yn edrych y tu hwnt i Lundain - ddim wedi cynnwys Cymru wrth deithio o amgylch y DU fis diwethaf.
Ond ar ôl ymgyrch gan fobl amlwg yn y diwydiant ac ar gyfryngau cymdeithasol fe wnaeth y BFC ailfeddwl ac fe ddywedodd llawer bod y digwyddiadau a ddigwyddodd o ganlyniad yn hanfodol i hyrwyddo creadigrwydd y diwydiant yng Nghymru.
Dywed cyn-gyfarwyddwr creadigol Givenchy, Julien Mcdonald o Ferthyr, nad oes angen i bobl ifanc uchelgeisiol symud i ddinasoedd mawr fel Llundain bellach ond bod angen codi ymwybyddiaeth am y talentau yng Nghymru.

Fe wnaeth yr actor Cymreig Alexander Vlhaos (chwith) helpu Ioan i hyrwyddo ei frand
Ioan Bowen-Pickett, 26, oedd un o'r lleisiau fu'n gweiddi uchaf pan welodd nad oedd Cymru yn rhan o daith wreiddiol Fashion Britain.
Pan gafodd ei fideo Instagram yn galw ar y BFC i ailfeddwl ei rannu gan brif weithredwr y BFC roedd yn obeithiol y byddai tro pedol ac yn fuan wedyn cafodd digwyddiad swyddogol ei gynnal yng Nghaerdydd.
"Mae'r British Fashion Council wedi bod yn wych gyda ni," meddai.
Mae'r cwmni yn gweithio o swyddfa fach ym Mae Caerdydd - rhywbeth sy'n "bwysig iawn" i Ioan.
Mae hanes diwydiannol Cymru yn dylanwadu ar ddyluniad y dillad - rhywbeth sydd wedi denu sylw cwmnïau John Lewis, a Clarks.
"Ni'n gallu gwneud pethau enfawr, gwneud lot o noise hefyd, o Gaerdydd, yn enwedig wedi digwyddiad Fashion Britain," ychwanegodd Ioan.
Mae Ioan, yn "bendant" fod lle i Gymru ym myd ffasiwn.
"Mae llawer o botensial yma gyda phobl creative iawn, sydd yn dalentog iawn, i wneud pethau.
"Mae llawer o bobl dalentog iawn yn dod o Gaerdydd, o'r Valleys, o ogledd Cymru, sydd yn proper fashion heads."

Mae Julien Mcdonald yn enw mawr ym myd ffasiwn
Wedi gweithio gyda chwmnïau Chanel a Givenchy, a chreu dillad i enwogion fel Kylie, Beyonce a Taylor Swift, Julien Mcdonald o Ferthyr yw un o'r enwau mwyaf o Gymru ym myd ffasiwn.
Ond bu'n rhaid iddo symud i Loegr er mwyn cael gyrfa.
Wrth siarad mewn digwyddiad fel rhan o Fashion Britain yng Nghanolfan Mileniwm Cymru dywedodd Julien nad oedd yn rhaid i ddylunwyr ffasiwn ifanc adael Cymru mwyach.
"Nawr mae gennych chi gyd rywbeth yn eich dwylo neu wrth eich hochr. Ffôn yw'r enw arno.
"Gallwch greu brand, siop rithwir a'ch busnes eich hun yng Nghymru ar eich ffôn. Os yw'r dillad wedi'u gwneud yng Nghymru mae hyd yn oed yn well.
"Nawr mae gan bawb fynediad at ffasiwn. Dim ots os ydych chi yn y cymoedd, yng Nghaerdydd, ar ben mynydd, mae ffasiwn ar gael i bawb drwy gyffyrddiad botwm."
Dywedodd fod digwyddiadau Fashion Britain yn arwydd o'r hyn sydd i ddod.
"Mae Cyngor Ffasiwn Prydain wedi dod i Gymru i godi ymwybyddiaeth o ffasiwn Cymru. Ond yr hyn sydd ei angen ar bobl Cymru, yn enwedig dylunwyr ffasiwn neu ddiwydiannau creadigol Cymru, yw ymwybyddiaeth."

Mae Amy Jenkins wedi mynd cyn belled a De Korea gyda'i gwaith fel artist colur ac yn aml mae'n dod ar draws Cymry eraill
Yng nghanol bwrlwm digwyddiad gan gwmni Ioan, Cambrensis, mae Amy Jenkins, artist colur sy'n 27 oed yn dweud ei bod yn "prowd ei bod yn dod o Gymru".
O'i chartref ym Mhontypridd mae ei gwaith yn mynd â hi ar draws y byd.
Roedd hi'n siomedig â phenderfyniad y BFC i beidio cynnwys Cymru yn wreiddiol ond dywed bod y tro pedol wedi bod yn un positif iddi.
"Dwi'n siarad gyda phobl tramor, a dy'n nhw ddim yn gwybod am Gymru," meddai.
"'Di pobl ddim yn siarad am Gymru yn y byd ffasiwn, so dwi'n teimlo bod digwyddiadau fel heno mor bwysig i spreadio awareness ac i gwrdd â hen wynebau yn y byd creadigol, a chwrdd â phobl newydd."
Mae Jade Matthews a Morgan Mcloughlin yn cytuno. Dywedodd Morgan fod digwyddiad fel hyn yn "bwysig' i ddiwylliant Cymreig"
"Ni'n cael ein gweld a ni'n cael ein rhoi ar y map," ychwanegodd Jade.
Dywed Natalie Potter o'r British Fashion Council, "Llundain yw prifddinas ffasiwn y byd, ond ni chafodd ffasiwn Prydain ei greu mewn un lle yn unig.
"Mae'n rhaid i ni sicrhau bod cyfleoedd a buddsoddiad yn ymestyn y tu hwnt i Lundain," meddai.
"Mae hynny'n golygu mynd i gymunedau, cwrdd â phobl yn eu hardaloedd lleol a chreu cyfleoedd i gynulleidfaoedd ymgysylltu â ffasiwn ar garreg eu drws."
'Fi'n talu'n ôl i bobl Caernarfon am dderbyn outsider fel fi'
- Cyhoeddwyd2 Medi
Dywedodd Naomi Pike, sydd yn wreiddiol o Abertawe a bellach yn olygydd comisiynu yn Elle UK, ei bod yn "gyffrous iawn" bod digwyddiadau fel Fashion Britain yn cael eu hymestyn y tu hwnt i Lundain.
"Pan oeddwn i'n tyfu lan byddwn i wedi bod wrth fy modd yn mynd i rywbeth fel hyn," meddai.
Mae Naomi yn credu bod yna le pendant i ffasiwn yng Nghymru "er bod cryn dipyn o ffordd i fynd i gystadlu ag unrhyw beth a welwn yn y prifddinasoedd mawr eraill".
"Ond mae gan Gymru, er enghraifft, le wedi bod yn y byd ffasiwn erioed. Rwy'n meddwl am Sarah Burton pan oedd hi yn Alexander McQueen; roedd hi'n aml yn edrych ar ein crefft," meddai.
"Rydych chi'n gweld pobl fel Jonathan Anderson a Phoebe Philo – dau o ddylunwyr pwysicaf y byd – yn edrych ar Gwen John am ysbrydoliaeth artistig.
"Rwy'n credu bod creadigrwydd Cymreig yn unigryw iawn. Mae'r profiad o fod yn Gymro neu'n Gymraes – boed hynny yn Llundain, mewn rhan arall o Brydain neu rywle arall yn y byd – yn unigryw iawn.
"Mae'r syniadau o hunaniaeth, gwerth, iaith, perfformio, creadigrwydd a chelf i gyd yn dod at ei gilydd, yn fy marn i."