'Sefyllfa argyfyngus' ym myd diwylliant yng Nghymru - gweinidog

Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd Ffynhonnell y llun, AMGUEDDFA CYMRU
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwerth £43m o waith atgyweirio angen cael ei wneud ar yr Amgueddfa Genedlaethol, yn ôl penaethiaid - £13m o hwnnw ar frys

  • Cyhoeddwyd

Mae "sefyllfa argyfyngus" ym myd diwylliant yng Nghymru, meddai'r gweinidog dros ddiwylliant a chwaraeon.

Gwnaeth Heledd Fychan y sylwadau wrth lansio galwad am dystiolaeth i greu strategaeth ddiwylliant a chwaraeon 10 mlynedd newydd.

Nod y strategaeth yw "datblygu Cymru fel pwerdy o ran diwylliant a chwaraeon".

Bydd yr alwad am dystiolaeth yn rhedeg tan 18 Rhagfyr, gan arwain at strategaeth "gyda chamau mesuradwy ar gyfer pob sector".

'Etifeddu sefyllfa sydd yn gwbl annerbyniol'

Gan gyfeirio at y posibilrwydd y gallai'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd gau am hyd at bedair blynedd ar gyfer gwaith atgyweirio, dywedodd y gweinidog "Dwi wedi etifeddu sefyllfa sydd yn gwbl annerbyniol – fedrai ddim coelio ein bod ni 'di cyrraedd y pwynt yma yng Nghymru."

Dywedodd ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru bod Llywodraeth Cymru yn "edrych o'r newydd ac yn cydweithio efo'r sefydliadau hyn oherwydd mae'n rhaid i ni hefyd gydnabod difrifoldeb y sefyllfa.

"Dwi wedi dweud yn glir - mae 'na sefyllfa argyfyngus yma yng Nghymru. Mae 'na danfuddsoddi wedi bod ac mi fydd hyn felly, efo'r strategaeth yma a chael yr holl wybodaeth, yn golygu ein bod ni'n gallu bod yn onest efo pawb… pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa, a rhoi cynllun ar waith."

Gan gyfeirio yn benodol at Amgueddfa Cymru, meddai: "Dydy'r cynlluniau manwl heb gael eu rhannu efo ni fel llywodraeth eto ond dydy o ddim yn anarferol efo prosiectau ailddatblygu mawr i rai sefydliadau orfod cau.

"Ond yr hyn 'dw i eisiau sicrhau yw bod ein casgliadau cenedlaethol ni yn ddiogel oherwydd mae hynny'n gyfrifoldeb.

"Nid casgliadau Amgueddfa Cymru mohonyn nhw… ond casgliadau pobl Cymru. Felly mae'n rhaid sicrhau eu diogelwch nhw.

"Mae'n rhaid i ni gael adeiladau o safon er mwyn sicrhau eu bod nhw'n ddiogel hefyd.

"Felly mae hyn yn mynd i olygu lot fawr o waith - a chydweithio ag Amgueddfa Cymru ydw i ar y funud i ddeall gwir difrifoldeb y sefyllfa a sut ydyn ni'n mynd i allu cydweithio i gael y datrysiadau sydd eu hangen.

"Yn anffodus – be 'dyn ni wedi ei gael ydy llywodraethau yn y gorffennol ddim yn mynd ati o ddifrif i daclo rhywbeth fel hyn."

Bydd y cam cyntaf tuag at lunio strategaeth yn dechrau gyda thrafodaeth banel yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llantwd ddydd Mercher, gyda digwyddiadau ymgysylltu wedi'u cynllunio ledled Cymru a gyda sectorau unigol ar bob lefel dros y misoedd nesaf.

Bydd canfyddiadau'r broses ymgysylltu a'r alwad am dystiolaeth yn cael eu rhannu gan Lywodraeth Cymru yng ngwanwyn 2027, sy'n dweud "byddant yn sail i'r strategaeth newydd a'r cynlluniau gweithredu sector-benodol".

Dywedodd Mike Hedges, llefarydd Llafur Cymru dros ddiwylliant a chwaraeon fod "anallu Plaid Cymru i dderbyn cyfrifoldeb yn achos pryder sylweddol".

"Unwaith eto rydyn ni'n gweld llywodraeth Plaid Cymru yn oedi gweithredu drwy ddatblygu strategaeth arall. Mae'r diffyg gweithredu yn syfrdanol.

"Dwi'n poeni nad yw Plaid Cymru yn barod i fod mewn llywodraeth gan nad oes ganddyn nhw weledigaeth glir a manwl ar gyfer unrhyw agwedd o fywyd Cymru."

Yn ôl llefarydd ar ran Reform UK, "ideoleg" yw blaenoriaeth Plaid Cymru.

"Pe bai nhw'n canolbwyntio ar y gwaith dydd i ddydd yn hytrach na gwthio am 'ddat-goloneiddio' ein hanes a rhoi arian tuag at awdurdod ddarlledu sydd ddim wedi ei ddatganoli, yna efallai na fyddai sefyllfa o'r fath yn ein hwynebu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.