Gweinidog wedi trafod trydedd bont dros y Fenai gyda chynghorwyr

Mae disgwyl i'r gwaith o atgyweirio Pont y Borth orffen erbyn gwanwyn 2027
- Cyhoeddwyd
Cafodd y posibilrwydd o godi trydedd bont dros Afon Menai ei drafod gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth mewn cyfarfod gyda chynghorwyr lleol ddydd Mawrth.
Cadarnhaodd Mark Hooper ei fod wedi trafod y mater wrth ymweld â Phont Menai ym Mhorthaethwy.
Dywedodd hefyd ei fod yn hyderus na fyddai oedi pellach i'r gwaith o drwsio'r bont - sydd wedi wynebu oedi a chreu trafferthion teithio yn ddiweddar - gyda disgwyl y byddai'r gwaith ar ben erbyn gwanwyn 2027.
Roedd y gweinidog yn yr ardal i gwrdd â staff rheoli traffig a gafodd eu sarhau a'u haflonyddu gan aelod o'r cyhoedd fis diwethaf.
Galw am symud ymlaen â chynlluniau ar gyfer trydedd groesfan i'r Fenai
- Cyhoeddwyd12 Mehefin
'Anwybyddu anghenion wrth beidio cael trydedd bont'
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2023
Mae Pont y Borth wedi wynebu sawl cyfnod o waith cynnal a chadw dros flynyddoedd diweddar, ar ôl i archwiliadau diogelwch ganfod problemau strwythurol.
Mae'r gwaith wedi digwydd mewn sawl cam, ond mae oedi i'r gwaith a thrafferthion i deithwyr yn ystod y cyfnod wedi sbarduno rhagor o alwadau am greu pont newydd.

Mae Mr Hooper yn dweud ei fod yn hyderus y byddai'r gwaith o adfer Pont y Borth yn cael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2027
Yn dilyn cyfarfod gyda chynghorwyr lleol ddydd Mawrth, dywedodd Mr Hooper ei fod yn "gweithio ar ddatganiad i'w gyflwyno i'r Senedd yn yr Hydref, i siarad am y datrysiadau sydd ar gael i ni".
"Un o'r pethau rydyn ni eisoes wedi ei ddweud yw ein bod ni'n mynd i ailystyried trydydd opsiwn a byddwn ni'n siarad am hynny yn yr Hydref, ac rwy'n edrych ymlaen ato," meddai.
"Un o'r pethau y mae'n rhaid i ni gyfeirio ato yw gwydnwch yr ynys a'r tir mawr - mae angen i bobl wybod y gallan nhw groesi a'u bod nhw'n hyderus wrth groesi nawr ac i'r dyfodol."
Ychwanegodd ei fod yn cydnabod rhwystredigaeth pobl a'i fod am sicrhau bod pobl yn deall y camau nesaf.
"Gallwn ni gyflwyno'r broses o'r hyn rydyn ni'n mynd i'w wneud ac yna llunio cynllun ar sut i gyrraedd yno, oherwydd ers gormod o amser, mae pobl wedi cael eu gadael gyda sefyllfa o 'what is it, is it a yes or no?'."

Roedd y cyfarfod ddydd Mawrth yn un adeiladol iawn, meddai'r Cynghorydd Robin Williams
Yn ôl y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, roedd y cyfarfod gyda'r Gweinidog yn "adeiladol dros ben".
"Trafodwyd bob elfen o drafnidiaeth yn y rhan yma o'r byd ac yn ehangach, ac fe gaethon ni sgwrs iawn," meddai.
"Mae'n un o'r pynciau ddaeth i fyny (trydedd bont), yn naturiol mi fasa chi'n disgwyl iddo fod. 'Dan ni wedi 'neud ein sefyllfa ni'n glir cyn belled ag y mae trydedd bont yn y cwestiwn.
"Does dim byd mwy wedi cael ei ddeud ar ôl y cyfarfod yma, dim byd alla' i adrodd arno, ond 'dan ni'n gwybod fod 'na adroddiad yn dod rŵan yn yr Hydref."
Symud y broblem o un lle i'r llall?
Dywedodd Ifan Rowlands, Cymrawd gyda'r Sefydliad Peirianwyr Sifil, mae cyfyngiadau peirianyddol yn y Fenai a allai wneud hi'n anodd darparu trydedd groesfan.
"Mae'r her o geisio cynnal a chadw dau strwythur hanesyddol fel sydd gennym ni yn croesi'r Fenai, yn sicr yn dipyn o her, ond mae'r ddau yn ymdopi yn dda iawn ac wedi addasu yn dda iawn i ymdopi efo'r her yna," meddai.
"Un o'r heriau mwyaf sydd yn ein hwynebu ni, gan fod Ynys Môn yn ynys, yr unig bwyntiau cyswllt sydd gyda'r tir mawr, ydi'r ddwy bont.
"Mae'r ddwy bont yn rhan o seilwaith lot mwy na dim ond y ddwy bont, ac os byddai trydedd groesfan yn cael ei roi yn ei le, heb ystyried effaith hwnnw ar weddill y rhwydwaith, mae 'na bosibilrwydd y byddech yn symud y broblem sydd efo trafnidiaeth ar hyn o bryd ar y pontydd i rywle arall ar y rhwydwaith yna.
"Mae'n hollbwysig wrth ystyried trydydd croesiad - y rhwydwaith yn ei gyfanrwydd."
Tynnu gweithwyr o Bont y Borth ar ôl i staff rheoli traffig gael eu 'sarhau'
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf
Gwaith atgyweirio Pont y Borth i barhau tan y gwanwyn 2027
- Cyhoeddwyd21 Ionawr
Wrth drafod yr oedi wrth gwblhau'r gwaith ar y bont, mynnodd Mr Hooper ei fod yn hyderus y byddai'r gwaith ar ben erbyn gwanwyn 2027.
Prif hanfod yr ymweliad oedd ymweld â gweithwyr ar y bont yn dilyn achosion o gael eu sarhau gan aelodau o'r cyhoedd.
"Mae pobl yn rhwystredig iawn pan nad yw pethau'n mynd fel maen nhw eisiau iddyn nhw fynd.
"Maen nhw'n gweithio'n galed iawn... mae angen i ni wneud yn siŵr nad yw pobl yn dioddef camdriniaeth nac aflonyddu.
"Maen nhw'n gwneud eu gorau i wneud i bethau weithio'n iawn a chadw pethau i lifo."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.