'Gyrwyr sy'n torri rheolau Pont y Borth i gael eu cyfeirio at yr heddlu'

Bu'n rhaid cau'r bont am gyfnod ddwy waith ddydd Mercher wedi i gerbydau trwm ei chroesi
- Cyhoeddwyd
Fe allai gyrwyr sy'n torri'r cyfyngiadau ar gerbydau trwm ar Bont y Borth gael eu cyfeirio at yr heddlu, yn ôl aelod o gabinet Llywodraeth Cymru.
Mae'n "hynod siomedig", medd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan, bod cerbydau dros 7.5 tunnell wedi croesi'r bont gan arwain at ei chau er mwyn cynnal archwiliadau brys.
Fe ddigwyddodd hynny unwaith ddydd Mawrth a dwywaith ddydd Mercher gan achosi traffig trwm ar ddwy ochr y Fenai, ac roedd yna achos tebyg wythnos diwethaf hefyd.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru brynhawn Mercher eu bod yn cyflwyno "mesurau ychwanegol" er mwyn cadw'r bont ar agor ar gyfer deuddydd olaf Eisteddfod yr Urdd, sy'n cael ei chynnal ar safle Sioe Môn.
Mae goleuadau traffig ar waith yno ers nos Fercher ac mae swyddogion heddlu a swyddogion traffig Llywodraeth Cymru ar ddyletswydd "i gefnogi cydymffurfiaeth" o'r cyfyngiad pwysau.
Cyfarwyddiadau 'clir iawn'
Mae cyfyngiadau mewn grym er mwyn hwyluso atgyweiriadau ers i bryderon godi yn 2022 ynghylch diogelwch y bont.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Heledd Fychan bod trafferthion traffig wedi bod yn "fater o rwystredigaeth mawr i bobl yr wythnos yma".
"Mi oeddan ni wedi bod yn gweithio i sicrhau bod 'na ddim gwaith yn mynd i fod ar y bont oherwydd pwysigrwydd yr Eisteddfod.
"'Ma' swyddogion traffig Llywodraeth Cymru yn mynd i fod yn helpu rŵan er mwyn trio sicrhau bod ni ddim yn gweld pobl [sydd] ddim yn dilyn y cyfarwyddiada'."

Mae cyfyngiadau mewn grym er mwyn hwyluso gwaith atgyweirio i'r bont, sy'n mynd rhagddo ers diwedd 2022
Mae'r cyfarwyddiadau, meddai, "wedi bod yn glir iawn... dim ond cerbyda' o dan 7.5 tunnell sy'n gallu defnyddio'r bont ar hyn o bryd a mae'n siomedig dros ben bod 'na rai wedi torri'r rheola' hynny".
"Os na ydi pobl yn cydymffurfio, mi fyddan nhw'n gallu cael eu cyfeirio at yr heddlu...
"'Dan ni'n gofyn i bobl barchu'r gweithwyr ar y bont a dilyn eu cyfarwyddiada'."
Un sy'n croesawu'r mesurau ychwanegol yw Dafydd Hughes, sy'n byw ger Pont y Borth.
Dywedodd wrth Dros Frecwast bod "bws gyda 50 o bobl arno" wedi croesi'r bont yn un o'r achosion a arweiniodd at orfod ei chau ddydd Mercher.
"Ateb un o'r bobl o'r cwmni oedd: 'Well, how else do we get onto Anglesey?'
"Dyma 'di'r broblem... does 'na ddim byd i stopio'r fath gerbyda' [rhag] ddod dros y bont, yn enwedig o'r tir mawr."

Mae'r angen i gau'r bont, boed yn gyfan gwbl neu'n rhannol, ers 2022 wedi bod yn gur pen i yrwyr, trigolion a busnesau lleol
Mae'r sefyllfa wedi arwain at alwadau o'r newydd am godi trydydd croesfan dros y Fenai.
Mewn cyfweliad â rhaglen Walescast y BBC, doedd dim ymwymiad gan y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth i wneud hynny, ond dywedodd bod "rhaid gwneud rhywbeth i wella gwydnwch croesfan Britannia," gan gyfeirio at y bont sy'n cludo'r A55.
"Un ateb yw cael strwythur arall wrth ei hymyl," dywedodd. "Un arall a wnes i ei wthio ers blynyddoedd yw cael rhyw fath o fodel tair lôn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
