Pwy yw'r 16 AS a fethodd a chael eu hail-ethol?

SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth 16 AS geisio yn aflwyddiannus i gael eu hail-ethol - wyth o'r blaid Lafur, pump o'r Ceidwadwyr, un o Blaid Cymru a dau aelod annibynnol.

Gall cyn-aelodau'r Senedd a geisiodd gael eu hail-ethol yn aflwyddiannus hawlio dau fath o daliad.

Yn gyntaf, taliad dirwyn i ben, sef tri mis o gyflog. Yn ail, taliad ailsefydlu, sef cyflog un mis am bob blwyddyn (ddi-dor) yr oeddent yn AS, hyd at uchafswm o chwe mis o gyflog – gall hyn fod yn uwch os oedd gan yr AS swydd ychwanegol o fewn y Senedd.

Gall person a beidiodd â bod yn Aelod oherwydd nad oedd yn ymgeisydd i'w ethol i'r Senedd newydd hawlio taliad dirwyn i ben sy'n cyfateb i ddau fis o gyflog.

Llafur

Disgrifiad,

Dyma'r foment y collod y prif weinidog, Eluned Morgan ei sedd yn y Senedd

Hannah Blythyn – AS Delyn rhwng mis Mai 2016 a Ebrill 2026. Fe wnaeth y Prif Weinidog Vaughan Gething ei diswyddo o fod yn weinidog dros bartneriaeth gymdeithasol yn 2024 gan honni ei bod wedi rhyddhau gwybodaeth i'r cyfryngau, rhywbeth y gwnaeth hi wadu.

Alun Davies – AS Blaenau Gwent rhwng mis Mai 2007 a Ebrill 2026. Bu'n Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Eluned Morgan - y prif weinidog cyntaf i golli ei sedd yn hanes Prydain fodern.

Rhianon Passmore - AS Islwyn rhwng mis Mai 2016 a Ebrill 2026.

David Rees - AS Aberafan rhwng mis Mai 2011 a Ebrill 2026, a Dirprwy Lywydd y Senedd ers 2021.

Jack Sargeant - AS Alun a Glannau Dyfrdwy rhwng mis Chwefror 2018 a Ebrill 2026. Bu'n weinidog diwylliant, sgiliau a phartneriaeth gymdeithasol.

Carolyn Thomas - AS Gogledd Cymru rhwng mis Mai 2021 a Ebrill 2026.

Buffy Williams - AS Y Rhondda rhwng mis Mai 2021 a Ebrill 2026.

Ceidwadwyr

Gareth Davies – AS Dyffryn Clwyd rhwng mis Mai 2021 a Ebrill 2026.

Tom Giffard – AS Gorllewin De Cymru rhwng mis Mai 2021 a Ebrill 2026.

Altaf Hussain – AS Gorllewin De Cymru rhwng mis Mai 2015 a Ebrill 2016, Mai 2021 a Ebrill 2026.

Joel James – AS Canol De Cymru rhwng mis Mai 2021 a Ebrill 2026.

Samuel Kurtz – AS Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro rhwng mis Mai 2021 a Ebrill 2026.

Plaid Cymru

Luke Fletcher
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw Luke Fletcher yn dychwelyd fel AS

Roedd Luke Fletcher yn llefarydd y blaid ar yr economi, ond roedd yn drydydd ar restr Plaid Cymru yn etholaeth Pen-y-Bont Bro Morgannwg.

Enillodd y blaid ddwy sedd yno.

Annibynnol

Rhys ab Owen a Russell George
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rhys ab Owen a Russell George yn aflwyddiannus wrth geisio cael eu hail-ethol fel aelodau annibynnol

Cafodd Rhys ab Owen ei ethol i'r Senedd fel aelod Plaid Cymru yn 2021, ac roedd yn sefyll yn annibynnol y tro hwn yn etholaeth newydd Caerdydd Penarth.

Roedd y cyn-aelod Ceidwadol o'r Senedd, Russell George, a etholwyd gyntaf i Fae Caerdydd yn 2011, yn sefyll yng Ngwynedd Maldwyn.

Cafodd Rhys ab Owen ei wahardd o'r blaid ym mis Tachwedd 2022 yn sgil honiadau o ymddygiad amhriodol, ac roedd wedi bod yn aelod annibynnol ym Mae Caerdydd ers hynny.

Roedd Russell George yn cynrychioli etholaeth Sir Drefaldwyn yn y Senedd ddiwethaf, ond cafodd ei wahardd o grŵp Ceidwadol y Senedd ym mis Ebrill 2025 ar ôl cael ei gyhuddo, ynghyd â 14 o rai eraill, o droseddau betio.

Fe ddaeth y cyhuddiadau yn sgil ymchwiliad i fetiau ar amseru etholiad cyffredinol 2024.

Mae George wedi gwadu'r cyhuddiadau ac mae'n aros am ei achos llys ar hyn o bryd.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Pynciau cysylltiedig