9/11: Stori dau fu yng nghanol y dinistr

  • Cyhoeddwyd
Nelson Haerr a Stephen Evans, a'r tyrau ar danFfynhonnell y llun, Jose Jimenez/Primera Hora

Mae'n atgof cyffredin o'r bore hwnnw yn Efrog Newydd, cyn i'r byd newid. Golygfa digon arferol ond sydd heddiw yn llawn symbolaeth: diwrnod hyfryd gydag awyr las glir.

Dyna sy'n dod i feddwl Nelson Haerr wrth gofio nôl i ddechrau'r dydd hwnnw ugain mlynedd yn ôl.

Ond cymaint oedd y sioc o'r hyn ddaeth drwy'r awyr yn fuan wedyn, am flwyddyn gyfan byddai'n teimlo'n bryderus ar ddiwrnodau braf.

Dyn tân oedd o yn America. Dyffryn Conwy ydy ei gartref heddiw, ond bryd hynny y strydoedd o gwmpas yr Empire State Building oedd ei gynefin ac yntau'n gweithio mewn gorsaf dân gyda chriwiau Ladder 7 ac Engine 16 ers pedair blynedd.

"Job ffantastig, un o'r rhai gorau yn y byd - ond yn sicr gawson ni'n ein dyddiau drwg," meddai wrth Cymru Fyw.

Nelson Haerr gyda chydweithiwrFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Nelson Haerr (ar y dde) gyda'i gyd-weithiwr Jimmy Welch ar ôl diffodd tân

Ar fore Medi 11, 2001, roedd o ar ei ffordd i'w waith yn yr orsaf, ond wrth lwc iddo fo nid yr un tân.

"Roedd gen i job ar yr ochr, gweini yn Grand Central Station. Ro'n i'n sengl ar y pryd felly fyddwn i bob tro'n gweithio. Ro'n i'n cael fy mwydo yn yr orsaf dân a chael fy mwydo yn y tŷ bwyta, roedd o'n gweithio'n dda i mi."

Fel oedd yn gyffredin ymysg y criwiau tân roedd o wedi cytuno i newid shifft gyda'i gyd-weithiwr.

Ei gyfaill George Cane felly, ac nid y fo, oedd ar y rota i weithio'r diwrnod hwnnw yn yr orsaf dân wrth i Nelson ddechrau ar ei daith i'w ail swydd.

Efrog Newydd cyn Medi 11Ffynhonnell y llun, Camerique/ClassicStock
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y 'Twin Towers' yn rhan amlwg o'r olygfa o ynys Manhattan, Efrog Newydd, cyn Medi 2001

Roedd Stephen Evans hefyd yn gweithio'r bore hwnnw. Roedd ganddo gyfarfod yn un o'r Twin Towers yn y World Trade Center, y ddau dŵr enfawr llawn swyddfeydd i filoedd o weithwyr y byd ariannol.

Diwrnod disglair clir mae o'n ei gofio hefyd, ac mae o heddiw hefyd yn diolch am lwc dda y bore hwnnw.

"Roedd yn teimlo fel y diwrnod gorau i fod yn fyw yn y ddinas orau ar y blaned i gyd," meddai wrth raglen Cofio 9/11 ar Radio Cymru. "Roeddwn i fod i gwrdd â grŵp o economegwyr yn y South Tower am hanner awr wedi naw y bore.

"Roeddwn i wedi penderfynu cyrraedd yno yn gynnar a chael brecwast yn Windows on the World ar ben y North Tower - ond ni ddigwyddodd hynny allan o siawns pur, lwc i ddweud y gwir."

Stephen EvansFfynhonnell y llun, BBC/Stephen Evans
Disgrifiad o’r llun,

Stephen Evans yn gohebu wrth y World Trade Center fis Awst 2001; Stephen Evans heddiw

Yn wreiddiol o Sir Benfro, roedd Stephen Evans wedi bod yn ohebydd busnes Gogledd America i'r BBC ers chwe mis. Wrth deithio i'w gyfarfod ar y bore Mawrth hwnnw, roedd ar fin mynd lawr i'r subway i fynd downtown pan welodd o siop goffi Ciwbaidd - a chael ei demtio:

"Mae gan America goffi ofnadwy heblaw mewn llefydd Hisbanaidd felly roedd yn rhy dda i basio'r siop goffi.

"Roedd hynny'n golygu na chyrhaeddais i'r World Trade Center tan 8.30 felly eisteddais mewn cadair fawr ar y llawr gwaelod ac aros am y cyfarfod yn fan yno."

Am 08.46 newidiodd popeth.

"Roedd fel sgip adeilad enfawr yn cwympo oddi ar dop y tŵr a dechreuodd mwg lenwi'r lle," meddai.

"Mas es i a gweld pen y tŵr ar dân gyda gash lle'r oedd yr awyren wedi mynd i mewn a ffrwydro.

"Nid oedd unrhywun yn gwybod beth oedd wedi digwydd - roedd pobl yn dweud 'roedd yna awyren, roedd yna awyren' - dim ond hynny. Nes i adael yn hawdd a pherswadio gwerthwr papur newydd o dan y tŵr i adael i mi ffonio a darlledu ar radio BBC."

Tra'r roedd o ar yr awyr yn sôn am y 'ddamwain' a'r holl bobl oedd yn sownd uwchben y fflamau, a gyda rhaglenni newyddion yn darlledu lluniau byw, hedfanodd awyren arall i mewn i'r ail dŵr a daeth yn amlwg bod America o dan ymosodiad terfysgol.

Mwg yn dod o'r tyrau yn fuan ar ol ymosodiadau 11 Medi 2001Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe glywodd Nelson Haerr am y newyddion wrth fynd i ddal y trên, cyn gweld y mwg du yn dod o'r tyrau wrth i'w gerbyd gyrraedd Manhattan.

Aeth o yn syth i'w orsaf dân. Roedd y ddau griw wedi gadael yn barod, ac wrth iddo fo a'r dynion tân eraill oedd wedi cyrraedd chwilio am offer fe wylion nhw'r newyddion teledu mewn anghrediniaeth wrth i un o'r Twin Towers ddymchwel.

Ar ôl casglu eu cyfarpar roedd yn rhaid iddyn nhw wneud eu ffordd i ardal y drychineb wrth i bawb arall ffoi.

"Wnaethon ni stopio bws y ddinas ac aeth y teithwyr i gyd i ffwrdd - doedd unlle iddyn nhw fynd dweud gwir. Wnaeth y bws fynd â ni downtown - dwi'n cofio car heddlu yn mynd o'n blaenau ni efo goleuadau a sirens ac yn stopio'r traffig i ni fedru cyrraedd Neuadd y Dref."

Erbyn iddo gyrraedd, roedd yr ail dŵr wedi disgyn a'r tyrau enwog 110 llawr ddim yn bodoli mwyach.

Roedd y difrod wnaed i strwythur yr adeiladau gan yr awyrennau a'r tân wedi achosi i rai o'r lloriau uwch ddymchwel, gan arwain i'r lloriau is ddechrau disgyn i lawr, un ar ben y llall, tra'r roedd cannoedd ar gannoedd dal yn ceisio dianc.

Pobl yng nghanol mwg wrth geisio ddianc o ardal Canolfan Masnach y Byd wedi'r ymosodiadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pobl yn dianc wedi i'r tyrau ddisgyn

"Roedd bob man wedi ei orchuddio gan droedfedd a hanner o bowdwr llwyd, fel lludw - llwch concrid, a rwbel. Gafodd rhai criwiau eu gyrru i roi tanau allan a ninnau i chwilio am bobl a thrio helpu, heb wybod be' oedd o'n blaenau.

"Ond ychydig iawn, iawn oedd yno i'w hachub.

"Tra roedden ni'n gweithio roedd cyfathrebu ychydig yn anodd - trio gwrando am unrhywbeth gan ein criw ni o dan y rwbel, a roedden ni'n cael adroddiadau bod awyrennau eraill yn yr awyr - roedd hynny'n codi gwallt dy ben. Doeddat ti'm yn gwybod be' oedd am ddigwydd nesa, roedd o'n frawychus.

"A doeddat ti ddim yn gwybod os oedd yr adeiladau wrth ymyl oedd wedi difrodi am ddisgyn ar dy ben wrth i ti weithio."

Achubwyr tan yn y rwbel wedi'r ymosodiadauFfynhonnell y llun, Porter Gifford

Yn ddiweddarach fe gawson nhw wybod bod criw Ladder 7 wedi eu hanfon i'r tŵr cyntaf i ddisgyn, tra bod Engine 16 wedi eu hanfon i frwydro'r tân enfawr oedd o gwmpas llawr 80 yn yr ail dŵr.

"Wnaeth pawb o Engine 16 fedru dianc," meddai. "Roedden nhw wedi mynd i fyny'r grisiau a chyrraedd o gwmpas llawr 21, a phan ddisgynnodd y tŵr gynta' roedd rhaid i bawb adael. Os fydda'r tŵr cynta' wedi aros i fyny am ddeg munud arall fydda nhw wedi bod rhy uchel a dim amser i adael mewn pryd. Ond gan fod o wedi disgyn pan wnaeth o, wnaethon nhw fedru mynd allan mewn pryd."

Pawb ond un. Roedd taith is-gapten Mickey Kross i lawr y grisiau yn arafach na'r gweddill gan ei fod o a chriw bychan yn helpu dynes oedd yn cael trafferthion. Pan gyrhaeddon nhw'r pedwerydd llawr daeth y tŵr i lawr o'u cwmpas. Rhywsut chawson nhw ddim eu lladd ac ar ôl cyfnod ymysg y rwbel fe welon nhw belydryn o olau yn dod o'r tu allan.

"Wnaethon nhw gropian tuag at y golau a chropian allan - ac achub eu hunain. Wnaethon ni weld Mickey nes mlaen yn y dydd yn cerdded o gwmpas ac yn gwneud mwy o search and rescue. Doedd ganddon ni ddim syniad ei fod o yn y tŵr pan ddaeth o lawr."

Mickey Kross yn ei ddillad gwaith; a gyda Nelson HaerrFfynhonnell y llun, Getty/Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Daeth stori Mickey Kross yn adnabyddus wedi iddo oresgyn y tŵr yn dymchwel o'i gwmpas. Fe ddaeth i Lanrwst i weld Nelson rai blynyddoedd yn ôl

Roedd cyd-weithwyr Stephen Evans hefyd yn ofni ei fod o yng nghanol y dinistr wrth wylio'r lluniau brawychus ar y teledu.

"Sylweddolais i nerth cariad ar y diwrnod hwnnw," meddai. "Treuliais lawer o'r dydd yn darlledu i deledu a radio ar y ffôn. Yn ôl ym Mhrydain gwelsant y South Tower yn cwympo ac ar yr un pryd clywed fy ffôn yn mynd yn farw. Gartref roedd yn edrych fel pe bawn i wedi cael fy lladd.

"Rhai oriau'n ddiweddarach cyrhaeddais i yn ôl i'r swyddfa yn Times Square a ffonio'r brif swyddfa yn Llundain. Roedd saib hir yn gyntaf ac yn dilyn daeth menyw roeddwn i wedi fy nieithrio oddi wrthi at y ffôn, sylweddolais i ar y pryd yna gymaint ro'n i yn ei charu. Mae'n gwneud i mi wylo hyd yn oed nawr."

Disgrifiad,

Roedd Stephen Evans yn recordio i'r teledu wrth i un o'r tyrau ddymchwel, fel eglurodd ar raglen O Flaen Dy Lygaid yn 2002

Ond chafodd Nelson Haerr na'i gyd-weithwyr ddim galwad tebyg gan y rhai oedden nhw'n pryderu fwyaf amdanyn nhw.

Fe laddwyd chwech o griw Ladder 7 wrth i'r tŵr ddymchwel - yn cynnwys George Cane.

Treuliodd Nelson y dyddiau nesaf yn chwilio am unrhyw arwydd o fywyd ymysg y cannoedd o filoedd o dunelli o rwbel yn Ground Zero.

Nelson Haerr yn edrych ar y dinistrFfynhonnell y llun, David Rodriguez
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth cyd-weithiwr Nelson dynnu'r llun yma ohono yn edrych ar y dinistr rai dyddiau wedi'r ymosodiadau

Gyda'r orsaf yn troi'n ganolbwynt i'r gymuned, roedd y dynion tân - nifer yn cysgu yno dros nos - yn cysuro pobl yn ystod y dydd wrth geisio dod i delerau â'u colled nhw eu hunain wedi i'r drysau gau gyda'r nos.

Yn gymysg efo'r galar roedd Nelson yn teimlo'n flin bod y tŵr wedi disgyn cyn iddyn nhw gael cyfle i wneud eu gwaith - diffodd y tân.

"Roedd hwnnw'n amser anodd, jest yn trio aros yn gryf i bawb," meddai.

"Dwi'n cofio un o'r bois yn edrych arna i, ac roedd ei wyneb yn llawn galar a dicter, fel bydda rywun yn disgwyl. Fi oedd y boi newydd a ro'n i'n meddwl 'pam nes i oroesi - fi ddylai fod wedi mynd'. Roedden nhw'n ddynion tân fwy profiadol, efo teuluoedd ac efo cyfeillgarwch dwfn efo'r dynion tân eraill.

"Ro'n i'n teimlo bod y boi yma yn edrych arna i ac yn meddwl 'be' ti'n da yn fama?'. Y peth ydi, doedd o ddim - ond ti'n rhoi pob math o emosiynau yn dy ben a ti'n meddwl pethau ofnadwy."

Y chwe dyn tân o Ladder 7 i gael eu lladdFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Ymysg y 343 o ddynion tân laddwyd yn Efrog Newydd ar 9/11, bu farw chwech aelod o Ladder 7: (clocwedd o'r top chwith) Robert 'Bobby' Fotie; Charles 'Chuckie' Mendez; George 'The Dude' Cain; Vernon Richard; Richie 'Moon Dog' Muldowney; Vincent 'Vinney' Princiotta

Rhwng y ddau ymosodiad ar Efrog Newydd, awyren arall gafodd ei meddiannu a'i hedfan i mewn i'r Pentagon, a'r bedwaredd awyren wnaeth blymio i'r ddaear ar ôl i'r teithwyr frwydro efo'r terfysgwyr, lladdwyd bron i 3,000 o bobl yn yr ymosodiad gwaethaf erioed ar dir yr Unol Daleithiau.

"Mae'n ymddangos yn rhyfedd i ddweud ond roedd Efrog Newydd yn ddyrchafol a gobeithiol yn y dyddiau yn syth ar ôl - roedd undod i'r ddinas," meddai Stephen.

"Roeddwn i'n arfer yfed mewn bar clasurol hir a chul yn Efrog Newydd. Ychydig nosweithiau ar ôl yr ymosodiadau es i i'r bar, a daliodd y barman lygaid pawb wrth iddyn nhw ddod i mewn trwy'r drws. Pan gyrhaeddais i'r bar cymerodd e fy nwylo a dim ond eu dal."

Pobl yn edrych ar luniau ar wal o bobl oedd ar gollFfynhonnell y llun, Andrew Lichtenstein
Disgrifiad o’r llun,

Dinasyddion Efrog Newydd yn edrych ar luniau a gwybodaeth am bobl oedd ar goll yn dilyn yr ymosodiadau

Yn raddol, daeth bywyd y ddinas yn debycach i'r hyn oedd wedi bod cyn Medi 11, ac er bod gwreiddiau cymhleth yr ymosodiadau gan derfysgwyr Al-Qaeda yn mynd yn ôl degawdau cyn 2001, roedd y byd wedi newid dros nos.

Yn sgil y Rhyfel ar Derfysgaeth a gyhoeddwyd gan yr Arlywydd Bush ac arweinwyr eraill y gorllewin wedi 9/11, aeth y lluoedd i mewn i Afghanistan fis Hydref 2001 a gadael fis diwethaf, cafwyd rhyfel arall yn Irac, a daeth grŵp terfysg ISIS i fodolaeth.

Wrth gofio yn ôl mae Stephen Evans, sydd bellach yn gweithio fel newyddiadurwr yn Awstralia, yn dal i deimlo dicter at grŵp o ddynion oedd yn ceisio gwthio eu "barn ganoloesol" ar y byd.

Ychwanegodd: "Dwi hefyd yn teimlo'n freintiedig mod i wedi cael bod yn rhan o undod yn y ddinas fodern, gymysg honno wnaeth herio'r eithafwyr."

Mae bywyd Nelson Haerr heddiw yn dra gwahanol i'r hyn oedd o ugain mlynedd yn ôl.

Disgynnodd mewn cariad gyda merch o Ddyffryn Conwy oedd yn aros mewn fflat ger yr orsaf dân tra ar wyliau yn Efrog Newydd. Maen nhw bellach wedi priodi, gyda dau o blant, ac yn byw yn Llanrwst lle maen nhw'n rhedeg Gwesty'r Meadowsweet - a'r Americanwr wedi bod yn dysgu Cymraeg dros y cyfnodau clo.

Nelson Haerr fel gwr tan, a gyda'i deuluFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Newid byd: dyn tân yn Efrog Newydd; gyda Mary a'u plant Morgan a Madi

Wrth edrych yn ôl dros y ddau ddegawd diwethaf, mae o'n gresynu gweld twf mewn agweddau gwrth-Foslemaidd ac yn credu bod angen i America barhau i groesawu mewnfudwyr o bob cefndir.

Mae'n dweud mai camgymeriad oedd mynd i ryfel - er ei fod o blaid ymosod yn syth ar ôl 9/11.

"Dwi'n heddychwr mawr, ond fyddwn i hyd 'noed wedi bod yn hapus adeg hynny i chwilio am Osama (Bin Laden - arweinydd terfysgwyr Al-Qaeda). Fyddwn i wedi mynd - gafael ar wn a mynd ar ei ôl. Felly pan wnaeth Bush fynd a bomio yn Afghanistan ro'n i'n meddwl - ia, rho slap iddo, yn galed, ond wedyn gadael y wlad."

Ac yntau wedi dod dros y teimlad o bryder pan oedd hi'n ddiwrnod braf ers blynyddoedd, mae ei brofiad wedi gadael ei ôl mewn ffordd wahanol:

"Dwi'm yn gadael pethau gael fi lawr. Os mae pobl yn ypset neu rywbeth ac yn meddwl bod hi'n ddiwrnod drwg dwi'n dweud 'does 'na ddim dyddiau drwg'. Mae'n rhoi persbectif i chdi. Dwi'n gwybod be' ydi diwrnod gwael."

Adroddiadau arbennig Cymru Fyw