Cwblhau her y Tri Chopa yn 'gam nesaf naturiol' i fachgen â choes artiffisial

Mae Albie-Junior a'i dad wedi arfer dringo'r Wyddfa gyda'i gilydd a'r her nesaf yw'r Tri Chopa
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen naw oed o Sir y Fflint, a ddaeth y person ieuengaf â choes artiffisial i ddringo'r Wyddfa pan yn bedair oed, yn hyfforddi ar gyfer ei her nesaf.
Roedd Albie-Junior Thomas, o Dreffynnon, yn 15 mis oed pan gafodd driniaeth i dynnu ei droed a hynny oherwydd iddo gael ei eni heb ffibwla yn ei goes chwith.
Roedd ganddo'r cyflwr hemimelia ffibwlaidd a oedd yn golygu bod ei goes 5cm yn fyrrach na'r llall a doedd ei droed ddim wedi datblygu'n iawn.
Nawr, gyda'i dad Daniel Thomas, mae'n paratoi ar gyfer her y Tri Chopa - gyda'r nod o ddod y person ieuengaf â choes artiffisial i ddringo'r mynyddoedd uchaf yng Nghymru, Lloegr a'r Alban mewn llai na 24 awr.

Er gwaethaf eira trwm, fe lwyddodd Albie-Junior a'i dad i gyrraedd copa'r Wyddfa am y tro cyntaf pan oedd yn 4 oed
Mae Albie-Junior yn teimlo'n hyderus am yr her sydd o'i flaen, ac mae'n dweud bod ganddo syniad o beth i ddisgwyl.
"Ni 'di gwneud y tri chopa ar wahân yn barod ac ar 18 Awst ni'n mynd i ddringo pob un ohonyn nhw mewn 24 awr," meddai.
"Ni'n hyfforddi tipyn, gan gerdded fyny'r Wyddfa bob wythnos ac yn ymarfer yn y gampfa."
Dywedodd ei dad, Daniel Thomas, sy'n hyfforddwr ffitrwydd, fod her y Tri Chopa yn teimlo fel y cam nesaf naturiol ar ôl llwyddiant mawr cyntaf Albie-Junior ar Yr Wyddfa.
"Mae'n rhaid i chi wneud ychydig yn well bob tro, yn d'oes? Ni wedi gwneud y tri chopa ar wahân, felly ni jest yn mynd gam ymhellach bob tro."

Mae Albie-Junior a'i dad wedi ymarfer dringo'r Wyddfa yn ystod y nos er mwyn ymarfer dod o hyd i'r ffordd yn y tywyllwch
I baratoi mae'r tad a'r mab wedi bod yn dilyn rhaglen hyfforddi 18 wythnos, sy'n cynnwys cerdded i fyny'r Wyddfa bob wythnos - weithiau gydag un o frodyr neu chwiorydd Albie.
Maen nhw hefyd wedi rhoi cynnig ar ddringo'r mynydd yn ystod y nos er mwyn ymarfer dod o hyd i'r ffordd yn y tywyllwch.
"Aethon ni tua 12 o'r gloch y nos i weld pa mor anodd oedd hi i gael hyd i'r ffordd, gan mai dyna tua'r amser y byddwn ni'n cyrraedd Yr Wyddfa yn ystod yr her," meddai Daniel.
"Bob wythnos ni'n gwella ar ein hamser hefyd er mwyn gwthio'n hunain ychydig."
Gyda help gyrrwr, byddan nhw'n dechrau'r her ar waelod mynydd Ben Nevis yn yr Alban yn gynnar yn y bore, yna yn symud ymlaen i Scafell Pike yn Cumbria ac maen nhw'n disgwyl gorffen yn Eryri yn oriau mân y diwrnod canlynol.
Dywedodd Albie-Junior y byddai'n "eithaf rhyfeddol" i fod y person ieuengaf â choes artiffisial i gwblhau'r her ac ychwanegodd ei fod yn falch ohono'i hun am roi cynnig ar yr her.
Ychwanegodd fod ei ymdrechion wedi ysbrydoli rhai o'i ffrindiau.
"Mae gen i ddau ffrind sydd wir eisiau mynd i fyny'r Wyddfa.
"Aeth un ohonyn nhw i fyny pan oedd o tua chwech oed ac roedden nhw'n falch iawn ohonyn nhw eu hunain, ac roedden nhw'n holi, 'sut oedd o wedi gwneud e pan oedd o'n bedair oed?'"

Dywed Albie-Junior bod ei goes artiffisial yn teimlo fel 'troed arferol'
Dywedodd Daniel fod cytuno i Albie-Junior gael y lawdriniaeth pan oedd yn blentyn ifanc wedi bod yn "benderfyniad enfawr" ond nad yw cael coes artiffisial erioed wedi ei ddal yn ôl.
Ychwanegodd ei fod wedi dysgu sut i gerdded gyda'i goes artiffisial ac felly mae hi wastad wedi teimlo'n "naturiol".
"Alla i ddim cofio llawer amdano, a dweud y gwir," meddai Albie. "Roedd e jest yn teimlo fel troed normal."
Fodd bynnag, gall y rhannau serth wrth gerdded i lawr y mynyddoedd achosi ychydig o boen iddo oherwydd y croen sensitif lle mae'r goes artiffisial yn cysylltu gyda'i gorff a'r pwysau ar ei ben-glin.
Mae hynny'n golygu y bydd Albie-Junior yn cael profion rhwng pob rhan o'r her ac y bydd angen seibiant arno rhwng pob mynydd.

Albie gyda'i dad Daniel, ei fam Rachel, ei chwaer Sienna a'i frawd newydd, Roman-Lee
Yn ogystal â cherdded mae Albie-Junior hefyd newydd ddechrau ymgymryd ag athletau ac mae ganddo uchelgais hirdymor i gystadlu yn y gemau Paralympaidd.
Yn y cyfamser, mae Daniel yn gobeithio mynd â brawd bach newydd Albie, Roman-Lee, i ben Yr Wyddfa cyn gynted â phosib.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.