Medal arian i Ela Letton-Jones yng Ngemau'r Gymanwlad

Mae Ela Letton-Jones yn astudio troseddeg ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion ochr yn ochr â'i hyfforddiant nofio
- Cyhoeddwyd
Mae'r nofwraig baranofo o'r Felinheli, Ela Letton-Jones, wedi ennill medal gyntaf Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad Glasgow ar ôl gorffen yn ail yn y 100m dull rhydd S13.
Daeth y nofwraig 19 oed yn ail i Jenna Jones o Awstralia yn y ras, gydag Ela Letton-Jones yn cwblhau'r ras mewn amser o un funud a 4.30 eiliad.
Daeth ei llwyddiant ar ôl iddi orffen yn ail yn y rownd ragbrofol yn gynharach yn y dydd.
Dywedodd Ela Letton-Jones, sydd â chyflwr albinism sy'n effeithio ar ei golwg, ei bod yn falch o allu perfformio dan bwysau ar ôl cael ei hystyried yn un o brif obeithion Cymru am fedal.

Enillodd y nofwraig o'r Felinheli fedal gyntaf Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad eleni
Dywedodd Letton-Jones: "Ro'n i'n gwybod bod hynny'n dod gyda'r pwysau, felly dwi'n falch fy mod i wedi gallu cyflawni hynny a gobeithio rhoi momentwm i Dîm Cymru ennill mwy o fedalau."
Ychwanegodd: "Fe wnes i fwynhau, ac rwy'n falch fy mod i wedi achos mae'n profi fy mod i'n nofio llawer gwell pan dwi'n hapus."
Dywedodd fod yr awyrgylch yn y pwll wedi bod yn brofiad arbennig, gyda'r dorf yn ei helpu i wthio ymlaen.
Ychwanegodd fod cefnogaeth ei theulu wedi bod yn bwysig iawn yn ei llwyddiant.
"Roedd Mam, Dad a Nain yma ac rwy'n ddiolchgar am eu cefnogaeth nhw achos allwn i ddim fod wedi ennill medal arian hebddyn nhw," meddai.
Mae Ela Letton-Jones, sydd o'r Felinheli, yn cystadlu mewn categorïau paranofio oherwydd bod ganddi albinism, cyflwr cynhenid sy'n effeithio ar ei golwg.
Mae'r cyflwr yn golygu ei bod yn gorfod cyfri ei strôcs wrth nofio er mwyn gwybod pryd mae hi'n agosáu at wal y pwll.
Er hynny, mae hi wedi parhau i anelu at gyrraedd y Gemau Paralympaidd yn Los Angeles yn 2028, ar ôl iddi fethu â chyrraedd Gemau Paris yn 2024 o drwch blewyn.
Fe wnaeth Ela Letton-Jones ennill medal arian ym Mhencampwriaethau Paranofio y Byd yn 2025 yn ei hymddangosiad cyntaf yn y gystadleuaeth, gan ennill y ras 100m nofio cefn S12.
Mae ei llwyddiant yn Glasgow wedi dod ar ddiwrnod cyntaf llawn y gystadleuaeth i Dîm Cymru, gyda 113 o athletwyr yn cynrychioli'r wlad mewn 10 camp.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd19 Mehefin

- Cyhoeddwyd22 Medi 2025
