Dyn 48 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau feic modur

A4069Ffynhonnell y llun, Google
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 48 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur ar ffordd yr A4069 rhwng Brynaman a'r Mynydd Du.

Digwyddodd y gwrthdrawiad, oedd yn cynnwys beic modur Triumph arian a beic modur Honda coch, tua 13:10 ddydd Sul.

Bu farw gyrrwr y Triumph yn y fan a'r lle, ac mae ei deulu wedi cael gwybod gyda swyddogion arbenigol yn eu cefnogi.

Cafodd gyrrwr yr Honda, menyw 42 oed, anafiadau difrifol ac mae'n parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Cafodd yr A4069 ei chau tra oedd ymchwiliadau i'r gwrthdrawiad yn cael eu cynnal cyn ailagor tua 20:00 nos Sul.

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un oedd yn teithio ar hyd yr A4069 adeg y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.

Mae swyddogion yn arbennig o awyddus i glywed gan yrwyr oedd yn yr ardal ar y pryd ac sydd â lluniau dashcam.

Pynciau cysylltiedig