Arweinydd Reform UK yn gwadu bod problem gwirio ymgeiswyr gan ei blaid

Dywedodd Nigel Farage nad oes "croeso" i unrhyw un sydd yn defnyddio iaith fel yr hyn sydd wedi'i datgelu gan y rhaglen
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Reform UK, Nigel Farage, wedi gwadu bod problem gwirio ymgeiswyr gan ei blaid.
Daw ei sylwadau wedi i ITV ryddhau talpau o ymchwiliad camera cudd Undercover: A Year in Reform sydd yn dangos cefnogwyr ac ymgeiswyr yn gwneud sylwadau hiliol a rhai sydd yn gwahaniaethu ar sail rhyw.
Ymhlith yr ymgeiswyr sydd wedi eu cynnwys yn y rhaglen mae Martin Roberts, fu'n ymgeisydd ar ran y blaid yn etholiad y Senedd yn gynharach eleni.
Mae Reform UK yn dweud bod pawb sydd wedi eu cyhuddo o wneud sylwadau anaddas yn y rhaglen dan ymchwiliad. Mae rhai wedi ymddiswyddo ac eraill wedi'u gwahardd tra bod yr ymchwiliad hwnnw'n mynd rhagddo.

Mae talp o'r rhaglen yn cynnwys sylwadau gan Martin Roberts oedd yn bedwerydd ar restr Reform UK yn etholaeth Pontypridd Cynon Merthyr
Mae talp o'r rhaglen sydd wedi ei ryddhau gan ITV yn cynnwys sylwadau gan Martin Roberts, oedd yn bedwerydd ar restr Reform UK yn etholaeth Pontypridd Cynon Merthyr ar gyfer etholiadau mis Mai.
Tra'n teithio mewn car gyda newyddiadurwr sydd yn ffilmio'n gudd ym mis Hydref y llynedd, mae Mr Roberts yn gwneud sylwadau hiliol.
Mae Newyddion S4C wedi ceisio cysylltu â Mr Roberts ddydd Iau, ond heb dderbyn ymateb.
Yn ôl ITV, dywedodd ef wrthyn nhw ei fod yn "ceisio bod yn ddoniol neu yn anffurfiol" ond ei fod yn "difaru defnyddio iaith anaddas".
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Reform UK nad yw Martin Roberts yn gweithio i unrhyw un o Aelodau Senedd y blaid.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Look East y BBC,ddydd Iau, dywedodd Nigel Farage nad oes "croeso" i unrhyw un sydd yn defnyddio iaith fel yr hyn sydd wedi'i datgelu gan y rhaglen.
Dywedodd arweinydd Reform UK, serch hynny, y byddai ymchwiliad tebyg i bleidiau eraill hefyd yn datgelu pethau "annymunol" ond bod y "sefydliad yn gwneud pethau yn wahanol" gyda Reform UK.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.