Y cyflwynydd John Hardy i adael y BBC

John Hardy
  • Cyhoeddwyd

Mae'r darlledwr John Hardy wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y BBC wedi 48 o flynyddoedd.

Mewn neges ar dudalen Facebook Radio Cymru fore Mercher, dywedodd, "Tydi amser yn hedfan.

"Ar y 5ed o Dachwedd 1979 'nes i gerdded yn betrusgar fewn i'r BBC, 48 o flynyddoedd yn ddiweddarach mi fyddai'n ymadael ronyn yn ddoethach ac yn ddiolchgar am y profiad."

Mae John Hardy yn lais cyfarwydd i wrandawyr sy'n codi'n gynnar ar Radio Cymru ac mae wedi bod yn cyflwyno'r rhaglen rhwng 05:30 - 07:00 yn ystod yr wythnos ers 2013.

Roedd hefyd yn cyflwyno'r rhaglen archif, Cofio, a ddaeth i ben yn 2025, am 19 mlynedd.

Ychwanegodd: "Prin fod neb wedi cael cystal cyfleon ym myd radio a theledu fel ymchwilydd, cynhyrchydd, gohebydd, sylwebydd a chyflwynydd.

"Dwi 'di blasu nhw gyd a theithio'r byd yn grwn. Ond er bod ymhell o gartref [rwy'] wedi morio yn agosatrwydd gwrandawyr Radio Cymru."

Fe gyhoeddodd John mai ym mis Mawrth y bydd yn gadael a dywed ei fod yn hynod ddiolchgar i'r gynulleidfa sydd wedi bod yn "gefn ac yn gymorth" iddo.

"Hebddo chi fyswn ni ddim wedi para pum munud, heb sôn am bron i bum degawd," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: