Opera newydd gan Gruff Rhys am Hedd Wyn yn 'ddigwyddiad pwysig'

Gruff Rhys
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gruff Rhys wedi bod yn ffigwr amlwg yn y byd creadigol yng Nghymru ers canol yr 1980au

  • Cyhoeddwyd

Mae opera newydd gan Gruff Rhys am Hedd Wyn, sydd wedi ei lleoli yn Nhrawsfynydd wedi damwain niwclear ddychmygol, yn "ddigwyddiad pwysig" a "hanesyddol".

Yn ôl Iwan Teifion Davies, fydd yn arwain Opera Genedlaethol Cymru yn y cynhyrchiad yng Nghanolfan y Mileniwm flwyddyn nesaf: "Os dw i wedi deall yn iawn, hon yw'r opera Gymraeg gyntaf i'r cwmni opera berfformio ar y prif lwyfan erioed yn ei hanes felly mae'n dipyn o beth.

"Mae'n hanesyddol mewn ffordd."

Iwan Teifior Davies a Beti George
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Iwan Teifion Davies yn siarad mewn cyfweliad gyda Beti George

Mae'r libreto - y stori a'r geiriau - wedi ei ysgrifennu gan y cerddor Gruff Rhys, sydd ar daith gyda'i grŵp Super Furry Animals ar hyn o bryd.

Ar ei dudalennau cyfryngau cymdeithasol fe wnaeth o ddiolch i'r cwmni opera am wneud "dewisiadau dewr" gyda'r opera.

Meddai: "Wedi bod yn cydweithio am ddegawd ar hwn... Ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi helpu i'w wireddu a'i wella. Mi fydd o'n boncars."

Mae'r opera Hedd Wyn: Eisteddfod Atomig wedi ei lleoli yn Nhrawsfynydd yn y flwyddyn 2117 pan mae'n ardal waharddedig yn dilyn damwain mewn gorsaf niwclear gyfagos.

Mae grŵp yn mynd ar bererindod i gartref Bardd y Gadair Ddu, 200 mlynedd wedi iddo gael ei ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae'n gynhyrchiad newydd gan Opera Cenedlaethol Cymru a Theatr Cymru ac wedi ei gyfarwyddo gan Steffan Donnelly.

Ymateb siomedig

Dywedodd Iwan Teifion Davies bod yr ymateb i'r newyddion am y cynhyrchiad, fydd yn digwydd fis Mai 2027, wedi bod yn siomedig.

"Mae'n rhaid i mi ddweud, o'n i 'di synnu o weld rhai o'r ymateb yn y wasg sy'n trafod opera lle o'n nhw bron fel fasen nhw wedi anwybyddu bod e'n mynd i ddigwydd o gwbl," meddai ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru.

"Roedd rhai o'r cynyrchiadau eraill yn y tymor yn cael sylw bod nhw'n mynd i neud hwn a hwn - ac wedyn oedd dim sôn am yr opera newydd 'ma.

"A pan rydych chi'n gwneud rhywbeth am y tro cyntaf, mae'n ddigwyddiad o bwys.

"Mae Stephen McNeff yn gyfansoddwr o bwys mawr ac wrth gwrs mae Gruff Rhys ynghlwm wrtho fe hefyd - mae'n ddigwyddiad pwysig. Mae Rebecca Evans, Paul Ceri Jones, Steffan Lloyd Owen, rhai o'n prif gantorion ni, yn mynd i fod ynddo fe.

"Felly bydde fe wedi bod yn neis falle bod e 'di cael bach mwy o sylw, ond gobeithio gaiff e fwy o sylw pan fydd ar y llwyfan blwyddyn nesa."

Yn wreiddiol o Landudoch, ger Aberteifi, mae Iwan Teifion Davies yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Prifysgol Aberystwyth ers 2021, ac yn arwain cerddorfa Philomusica yn y dref.

Fo hefyd yw Cyfarwyddwr Artistig Musicfest Aberystwyth ac mae'n Bennaeth Cerdd ar Ŵyl Ryngwladol Buxton.

Cyn hynny bu'n gweithio fel arweinydd a phianydd yn y byd opera yn Salzburg, Awstria.

Gallwch wrando ar y cyfweliad llawn ar Beti a'i Phobol ar Radio Cymru am 18:00 ar 17 Mai ac ar BBC Sounds.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.