Y Peth gan Llew - stori fuddugol Radio Cymru

llewFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Llew

  • Cyhoeddwyd

Llew o Ysgol Gynradd Gymraeg Aberystwyth yw un o enillwyr Cystadleuaeth Sgwennu Stori Aled Hughes ar BBC Radio Cymru eleni.

Daeth Llew yn fuddugol yn y gystadleuaeth i flynyddoedd pump a chwech.

Dywedodd beirniad y gystadleuaeth sef Bardd Plant Cymru, Siôn Tomos Owen:

"Wnaeth stori Llew dicio bob un o fy mocsys i; yn stori Llew mae yna antur, mae'n greadigol, mae disgrifiadau dychrynllyd ac ychydig o hiwmor. Mae gan y stori bopeth mewn 500 gair. Mae'n wych o stori."

Fel gwobr, fe luniodd yr artist Sian Gwenllian lun clawr i stori Llew.

Mwynhewch stori Llew, Y Peth.

Y Peth gan Llew

Clawr Y PethFfynhonnell y llun, Sian Angharad

Beth yn y byd oedd Y Peth? A phwy yn union oedd wedi ei weld? Dim ond fideos o'r Peth yn torri trwy'r ddaear fel twrch daear oedd yn bodoli.

Wel, dim ond fideos ro'n i wedi gweld tan y diwrnod pan welais i'r Peth, a'r holl bethau roedd e'n gwneud, gyda fy llygaid fy hun.

Dydd Sadwrn am 12:36 o'r gloch, dyna pryd y gwelais i'r Peth.

BYRSTIODD trwy'r ddaear a thorri'r ffenest yn deilchion.

Rhedodd pawb i gyfeiriadau gwahanol, a fi oedd yr unig un ar ôl yn y gegin. Ro'n i'n hollol gegrwth. Do'n i ddim yn gwybod beth i'w wneud.

Gwaeddais mewn ofn.

Roedd y sŵn oedd yn dod o'r Peth yn afiach – fel babi'n sgrechian crio am ei fwyd, neu fel noson stormus o fellt a tharannau, neu fel rhywbeth yn tagu ac yn stryffaglu am ei wynt. Beth allai fod?

Clywais sŵn arall hefyd, un gwahanol iawn! Sŵn gwichian drws y cwpwrdd dan staer.

Trois i weld fy mrawd bach yn pipian drwy gil y drws.

"Dere 'ma," sibrydodd Twm.

"Iawn, dw i'n dod," atebais yn nerfus a gadael y gegin yn ofalus .

"Beth yn y byd..." gofynnodd Twm mewn sioc, "sy wedi digwydd?"

"Dw i ddim yn siŵr, ond dyw e ddim yn beth da."

Yn sydyn, o gornel fy llygad, gwelais bedair coes flewog yn glanio'n y gegin.

Corff eithaf crwn oedd gan Y Peth, a phen eithaf bach. Llygaid coch, coch fel tân yn llosgi, a thrwyn hyll iawn hefyd.

O dan ei drwyn gwelais res o ysgithrau mawr a phigog, fel cerrig beddi mewn hen fynwent. Dwy glust corrach oedd ganddo.

Roedd gymaint o bryderon yn llenwi fy mhen.

A FYDDAI PAWB YN SAFF ?

AI DYMA'R DIWEDD?

Rhuthrodd Y Peth hyll tuag ataf i a Twm. Do'n i ddim yn gwybod beth i'w wneud, ac roedd cymaint o ofn arnon ni'n dau, do'n ni ddim yn gallu anadlu. Ro'n ni'n dau wedi rhewi yn yr unfan fel delwau mewn hen amgueddfa dywyll.

"Be wnawn 'ni?" sibrydodd Twm yn ofnus.

"Sai'n gw'bod!" atebais mewn cryndod.

"Dilyn f- …AAAA!"

Yn sydyn, cwympais i a Twm drwy'r wal. Beth yn y byd oedd yn digwydd?

Roedd y ddau ohonon ni wedi cwympo trwy ddrws cudd! Ro'n ni wedi glanio mewn lle tamp ac oer.

O'n ni mewn ogof? Wrth ddeffro o'r gwymp, clywais leisiau'n dod o gefn yr ogof, lleisiau oedd yn swnio'n eithaf pwysig! Yn simsan braidd, dilynas i'r sŵn… a gwelais ddynion mewn clogynnau aur a phorffor, trowsusau brenhinol a choronau aur hyfryd yn siarad wrth fwrdd crwn eithaf mawr.

"Helô… ym… pwy ydych chi?" holais yn ansicr.

"O! Helô," meddai'r dyn yn eithaf hapus. "Arthur ydw i, a dyma Cai, un o fy marchogion."

"Helô!" dywedodd Cai mewn llais cyfoethog.

Cofiais fod gan Arthur a Cai lawer o farchogion eraill hefyd, gormod i fi sôn amdanyn nhw fan hyn!

"Dw i ddim eisiau bod yn anghwrtais," mentrais, "ond pam ydych chi yma? O ble daethoch chi?

"Dywedodd Miss Huws wrthon ni yn ein gwers hanes eich bod chi wedi marw ers cannoedd o flynyddoedd!"

"Wel," atebodd Arthur, "mae'n stori hir…"

Yn sydyn, clywon ni sŵn byddarol yn dod o ochr arall yr ogof! Roedd popeth yn dirgrynnu, ac allan o'r tywyllwch, yn llawn gwenwyn ac arswyd, gwelais… Y TWRCH TRWYTH!

Gwrandewch ar Llew yn sgwrsio gyda Aled Hughes

BBC Radio Cymru

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: