Dim Rodon yng ngharfan Cymru ac Ashford yn cael ei ddewis am y tro cyntaf

Joe Rodon a Cian AshfordFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Joe Rodon (chwith) ei anafu yn nhrydedd gêm Leeds o'r tymor, tra bod Cian Ashford wedi chwarae ym mhob un o gemau Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae Craig Bellamy wedi dewis Cian Ashford yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf ar gyfer gemau Cynghrair y Cenhedloedd 2026-28.

Bydd Cymru yn cystadlu yng Ngrŵp D, ond mi fydd yn rhaid gwneud hynny heb y cefnwr Joe Rodon, sydd ddim ar gael yn dilyn anaf i'w goes.

Dyma'r garfan gyntaf i Bellamy ei dewis ers iddo gael ei gysylltu â swydd fel rheolwr Burnley yn ystod yr haf.

Bydd Cymru'n teithio i Bortiwgal (24 Medi) a Denmarc (27 Medi), cyn croesawu Norwy (1 Hydref) a Denmarc (4 Hydref) i Gaerdydd.

Craig BellamyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma fydd y tro cyntaf i Craig Bellamy arwain Cymru ers iddo gael ei gysylltu â swydd fel rheolwr Burnley dros yr haf

Mae'r amddiffynnwr Dylan Lawlor hefyd ar goll o'r garfan o 28. Dyw Lawlor ddim wedi gwneud ymddangosiad y tymor yma oherwydd problem gyda'i ben-glin.

Dydy Ronan Kpakio ddim ar y rhestr chwaith, amddiffynnwr arall o Gaerdydd.

Ond, mae Wes Burns wedi cael ei gynnwys unwaith eto ac fe allai ymddangos yn y crys coch am y tro cyntaf ers 2024.

Mae Harry Wilson, Ben Cabango a Jordan James yn ôl hefyd ar ôl colli gemau cyfeillgar Mehefin gydag anafiadau.

Cian AshfordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cian Ashford eisoes wedi cynrychioli Cymru mewn gwahanol garfanau ieuenctid

Carfan Cymru

Gôl-geidwaid: Karl Darlow (Manchester United), Danny Ward (Wrecsam), Tom King (Everton).

Amddiffynwyr: Jay DaSilva (Coventry City), Jayden Lienou (Leeds United), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Rhys Norrington-Davies (Sheffield United), Chris Mepham (West Bromwich Albion), Ben Cabango (Abertawe), Neco Williams (Nottingham Forest), Connor Roberts (Burnley).

Canol cae: Ethan Ampadu (Leeds United), Josh Sheehan (Bolton Wanderers), Jordan James (Wolverhampton Wanderers – ar fenthyg gan Stade Rennais), Liam Cullen (Leicester City), Joel Colwill (Caerdydd), Harry Wilson (Leeds United), Sorba Thomas (Hull City), David Brooks (Bournemouth), Cameron Congreve (KVC Westerlo), Wes Burns (Leicester City).

Ymosodwyr: Nathan Broadhead (Wrecsam), Brennan Johnson (Everton), Kieffer Moore (Wrecsam), Lewis Koumas (Lerpwl), Mark Harris (Oxford United), Dan James (Leeds United), Cian Ashford (Caerdydd).

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.