Gyrrwr beic trydan yn osgoi carchar ar ôl taro dyn arall yn anymwybodol

Cafodd Sam Bevan ei adael â chyfergyd difrifol a thoriadau i'w wyneb yn dilyn y gwrthdrawiad - doedd ganddo ddim cof o'r digwyddiad nes gweld lluniau CCTV cymydog
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a blediodd yn euog i yrru'n beryglus ar ôl taro cerddwr gyda beic trydan yng Nghasnewydd wedi cael dedfryd o 12 mis o garchar wedi ei ohirio.
Roedd Jordan Willetts, 35, wedi cyfaddef gyrru'n beryglus, gyrru heb drwydded a pheidio ag aros yn dilyn y gwrthdrawiad fis Tachwedd y llynedd.
Fe darodd Sam Bevan, oedd yn croesi Rhodfa Fairoak, yn anymwybodol ar y stryd a gadael y safle.
Mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Mercher, cafodd Willetts hefyd ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd a hanner a bydd yn rhaid iddo dalu £1,000 mewn iawndal.
Fe gafodd ei honiad ei fod yn meddwl bod rhywun yn ceisio dwyn ei feic ei wrthod gan y Barnwr Rhanbarth Sophie Toms, a ddywedodd bod y diffynnydd wedi gadael y dioddefwr "fel petai'n farw".
Cafodd deunydd CCTV ei ganfod o Sam Bevan [dillad gwyn] yn cael ei daro gan y beic trydan
Roedd Mr Bevan wedi bod wrth gist ei gar, oedd wedi parcio ar Rodfa Fairoak, cyn edrych i'r cyfeiriad cywir am draffig posib cyn croesi'r stryd unffordd ar 11 Tachwedd 2025.
Ei atgof nesaf oedd cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor ar ôl i'r gwrthdrawiad ei adael â chyfergyd difrifol a thoriadau i'w wyneb.
Cafodd wybod na fyddai'n gallu gyrru am chwe mis, ac roedd yn absennol o'i waith am wythnosau.
Daeth i'r amlwg bod rhywun wedi ei daro a ffoi wrth yrru i'r cyfeiriad anghywir wedi i gymdogion ddangos lluniau CCTV iddo.
Aeth Willetts at yr heddlu o'i wirfodd ddeuddydd ar ôl y digwyddiad.
Datgelodd ymchwiliad yr heddlu fod y beic wedi ei addasu'n anghyfreithlon, gan ei newid o feic arferol i feic drydan.
'Symudiad hynod beryglus'
Ar ran Willetts, dywedodd ei gyfreithiwr ei fod heb droseddu cyn noson y gwrthdrawiad ac y byddai colli ei drwydded yrru'n effeithio ar ei waith gyda busnes cludiant ei deulu.
Ychwanegodd bod y gwrthdrawiad wedi rhoi "sioc" iddo, a'i fod yn credu bod "rhywun yn ceisio ei daro oddi ar ei feic a'i ddwyn".
Dywedodd y Barnwr ar ei draws: "Dydw i ddim yn derbyn hynny - edrychodd arno, a'i adael fel petai'n farw."
Wrth ddedfrydu Willetts, dywedodd ei fod "wedi penderfynu, yn fwriadol, i anwybyddu rheolau'r ffordd" a chyflawni "symudiad hynod beryglus" trwy yrru'r ffordd anghywir o amgylch cylchdro.
Roedd gadael Mr Bevan wedi ei anafu ar y ffordd, "o bosib, gydag anaf angheuol i'r pen" yn "ffactor gwaethygol".
Yn ogystal â'r ddedfryd carchar wedi ei ohirio, bydd yn rhaid i Willetts wneud 150 o oriau o waith di-dâl, gwisgo tag electroneg a glynu at gyrffyw rhwng 20:00 y nos a 05:00 y bore.
Fe fydd yn rhaid iddo hefyd dalu £272 mewn costau ar ben yr iawndal, a sefyll prawf estynedig i geisio cael ei drwydded yrru yn ôl.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin
