Gyrrwr beic trydan yn pledio'n euog ar ôl taro dyn arall yn anymwybodol

Cafodd Sam Bevan ei adael â chyfergyd difrifol a thoriadau i'w wyneb yn dilyn y gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wnaeth daro cerddwr yn anymwybodol gyda'i feic trydan yng Nghasnewydd, cyn gyrru i ffwrdd, wedi pledio'n euog i gyhuddiad o yrru'n beryglus.
Fe ddywedodd y dioddefwr, Sam Bevan wrth BBC Cymru ar y pryd nad oedd ganddo unrhyw gof o'r digwyddiad ym mis Tachwedd 2025, nes i'w gymydog ddangos lluniau CCTV iddo o'r gwrthdrawiad.
Fe wnaeth Jordan Willetts, 32, hefyd gyfaddef gyrru heb drwydded, a pheidio ag aros ar safle'r gwrthdrawiad.
Roedd Willetts wedi bod yn gyrru i'r cyfeiriad anghywir i lawr stryd unffordd ar y pryd, ac fe aeth at yr heddlu o'i wirfodd ddeuddydd wedi'r digwyddiad.
Cafodd deunydd CCTV ei ganfod o Sam Bevan [dillad gwyn] yn cael ei daro gan y beic trydan
Roedd Mr Bevan wedi ei adael â chyfergyd difrifol a thoriadau i'w wyneb wedi'r gwrthdrawiad ar Rodfa Fairoak ar 11 Tachwedd 2025.
Cafodd Willetts ei wahardd rhag gyrru, gyda'i wrandawiad dedfrydu i gael ei gynnal ar ddyddiad arall.
Dywedodd y barnwr rhanbarthol yn Llys Ynadon Casnewydd, Sophie Toms, y byddai hi'n gwneud cais am ddatganiad personol gan y dioddefwr, gan ychwanegu bod pob opsiwn yn bosib o ran dedfrydu.
Pan ofynnwyd i Willetts am y gwrthdrawiad wrth iddo adael y llys fore Iau, dywedodd wrth y BBC: "Wrth gwrs mae'n ddrwg gen i, pam fyswn i wedi ildio fy hun os nad o'n i'n teimlo'n ddrwg?"
Dywedodd ei dad wrth y BBC fod ei fab wedi gwneud "camgymeriad".
Dywedodd yr heddlu fod y beic wedi cael ei addasu i fod yn feic modur trydan.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.