Cwblhau 100 marathon ultra mewn 100 diwrnod yn 'hollol boncyrs'

David JacksonFfynhonnell y llun, Katie Radley/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd cyfanswm milltiroedd David erbyn diwedd yr her bron iawn yr un fath â'r pellter rhwng Llundain ac Efrog Newydd

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-chwaraewr rygbi proffesiynol yn gobeithio cwblhau her gorfforol "anhygoel" yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn - ei 100fed marathon ultra mewn 100 niwrnod.

Fe ddechreuodd her David Jackson, 44, sy'n dod o ardal Nottingham ond sydd bellach yn byw yng ngogledd Cymru, yng Nghastell Caernarfon ym mis Mai.

Y nod yw codi arian ar gyfer elusennau sy'n cefnogi pobl sydd wedi dioddef anafiadau i'r pen - a hynny wedi iddo orfod ymddeol o rygbi ar ôl cael anaf ei hun.

Wedi wythnosau o redeg mewn lleoliadau ar hyd Yr Alban, Lloegr a Chymru fe ddaw'r cyfan i ben yn yr un man a ddechreuodd y cyfan brynhawn Sadwrn.

Mae David eisoes wedi gosod record byd yn ystod yr her, am redeg marathon ultra ar y nifer fwyaf o ddyddiau yn olynol (81, ar 17 Awst), ac mae'n parhau i ymestyn y record honno yn ddyddiol.

Yn hytrach na rhedeg cyrsiau hir ar hyd a lled Prydain, mae David wedi bod yn rhedeg pellter marathon ultra (50km, neu thua 30milltir) ar gyrsiau pump a 10 cilomedr.

Y rheswm am hynny oedd sicrhau bod cyfle i bobl yn y 25 lleoliad i gwblhau rhywfaint o'r her gydag ef.

Mae dros 800 o bobl wedi ymuno - yr ieuangaf yn wyth, a'r hynaf yn ei 80au.

David a CatherineFfynhonnell y llun, Katie Radley/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwraig David, Catherine wedi bod yn ei gefnogi ar bob cymal o her - sy'n cael ei alw'n Mission IN-possible

Un o'r rhai sydd wedi ymuno â David yn ystod y daith yw Steve Magee, 61 o Gaernarfon.

Mae'n un o sylfaenwyr grŵp 'Rhedeg Gyda'n Gilydd' yn y dref, ac fe aeth o a sawl aelod arall o'r clwb i gefnogi ar ddiwrnod cynta'r her 'nôl ym mis Mai.

"Gweld fideo ar social media nes i o'r boi 'ma yn rhedeg drwy Gaernarfon - heibio'r castell, draw at Morrisons, fel 'dan ni'n 'neud yn aml - a meddwl fyswn i'n holi os oedd rhywun yn gwybod pwy oedd o," meddai Steve.

"Dyna sut ddes i glywed am yr her, ac ar ôl dod i wybod mwy amdano fo 'nath criw ohono' ni benderfynu mynd lawr i redeg efo fo.

"'Oedden ni'n bwriadu rhedeg 10k, tra bod o'n rhedeg 80... Gan bo' fi'n mwynhau nes i ail 10k efo fo, a thrydydd a pedwerydd.

"Ond dwi'n cofio codi'r diwrnod wedyn a meddwl 'waw meddylia gorfod gwneud hynny eto heddiw', ond mi oedd o'n rhedeg mwy na dwbl hynny bob dydd... mae o'n hollol boncyrs!"

Grwp Rhedeg Gyda'n Gilydd gyda David JacksonFfynhonnell y llun, Facebook/Rhedeg Gyda'n Gilydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl aelod o Rhedeg Gyda'n Gilydd yn gobeithio mynd draw i redeg gyda David unwaith eto ddydd Sadwrn

Roedd Steve yn gweld hi'n anodd disgrifio pa mor anodd yw'r her y mae David wedi'i osod iddo'i hun.

"Dwi'n trio cadw'n ffit - dwi'n mynd i'r gym, dwi'n 'neud ambell i ras weithia - ond y mwyaf dwi wedi'i redeg mewn wythnos ydi 50-60k, o'dd o'n 'neud 80k bob dydd.

"Mae o wir yn anhygoel a dydi pobl ddim yn gallu coelio sut ma'n neud o.

"Ma'r entourage pan ma' pobl yn 'neud petha' fel hyn fel arfer yn massive -physios, nutritionists a ballu - ond i fo a Catherine allu 'neud hyn ben ei hunain mwy neu lai, mae o'n anhygoel.

"Ma'n hawdd anghofio bod o wedi 'neud yr holl redeg 'ma yn ystod yr haf poethaf ar gofnod hefyd!"

Esboniodd Steve ei fod wedi gobeithio rhedeg y cymal olaf gyda David ddydd Sadwrn, ond oherwydd anaf mae o wedi gorfod tynnu 'nôl.

David Jackson yn chwarae i Nottingham mewn gem gyfeillgar yn erbyn London Irish ar 16 Awst, 2013Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

David Jackson yn chwarae i Nottingham mewn gêm gyfeillgar yn erbyn London Irish yn 2013

Daeth gyrfa rygbi David i ben yn sydyn yn 2013 wedi iddo ddioddef anaf i'r ymennydd yn ystod sesiwn ymarfer.

Am fisoedd wedi hynny bu'n profi symptomau fel blinder, sensitifrwydd i olau a phroblemau gwybyddol - ond mae'n dweud ei fod yn ddiolchgar iawn ei fod wedi gallu gwella ar ôl derbyn cefnogaeth dros y blynyddoedd.

"Dydi Mission IN-possible ddim wedi bod yn hawdd, ac mae wedi gadael ei oel ar fy nghorff - ond dydi hyn ddim byd i'w gymharu â'r anaf ges i yn 2013," meddai.

"Dydi o chwaith ddim byd i'w gymharu â sefyllfa rhywun fydd, o bosib, byth yn adfer yn llawn o'u hanaf.

"Mae'r elusennau hyn [Headway UK a Head for Change] yn cefnogi unigolion a'u teuluoedd ac yn gweithio'n galed i wella safon byw ar ôl anaf."

Ychwanegodd mai'r peth y mae fwyaf balch ohono yw'r ffaith bod cymaint wedi dod i'w gefnogi ar hyd y ffordd.

"Mae gweld dros 800 o bobl yn ymuno â ni wedi gwneud y profiad yn arbennig iawn, ac mae hynny wedi cadw ni fynd bob dydd.

"Y gôl yn y pendraw yw newid bywydau, helpu'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan anafiadau i'r pen, a gwella prosesau adfer yn y dyfodol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig