'O'r diwedd mae ymchwil i effaith ergydion i'r pen ar ferched'

Mae bod yn rhan o astudiaeth Prifysgol Caerdydd i astudiaethau pen ymhlith menywod wedi bod yn agoriad llygad i Ffion Jones
- Cyhoeddwyd
Mae chwaraewr rygbi o Rydaman yn dweud bod cymryd rhan mewn ymchwil newydd i anafiadau'r pen ymysg menywod wedi newid y ffordd y mae hi'n meddwl am ei hiechyd a'i dyfodol yn y gamp.
Mae Ffion Jones yn un o 30 o chwaraewyr rygbi benywaidd sy'n cymryd rhan mewn astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd sy'n edrych ar effaith ergydion ailadroddus i'r pen.
Dywedodd Ffion fod diffyg ymchwil ar athletwyr benywaidd yn golygu bod y prosiect yn "gam pwysig iawn".
Mae disgyblion ym Mlwyddyn 8 Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf hefyd wedi croesawu'r gwaith, gan ddweud "bod merched yn aml yn cael llai o sylw na bechgyn mewn chwaraeon".
'Doedd e ddim yn rhywbeth o'n i'n meddwl amdano'
Dechreuodd Ffion chwarae rygbi pan oedd hi'n wyth oed yn Rhydaman gyda'i chwaer Celyn.
"Roedd Dad yn hyfforddwr so 'nath e rhoi fi a chwaer fi mewn i'r tîm yn syth," meddai. "O'n i'n chwarae gyda'r bechgyn i ddechre' ac wedyn symud 'mlaen i chwarae gyda'r merched."
Dywedodd nad oedd anafiadau i'r pen yn destun pryder iddi pan oedd yn iau.
"Doedd anafiadau i'r pen erioed wedi bod yn rhywbeth oedd yn poeni fi. Pan o'n i'n camu ar y cae, ffocws fi oedd chwarae'r gêm a gwneud fy ngorau dros y tîm.
"Yn onest, os o'n i'n cael ergyd i'r pen, o'n i jyst yn codi a chario 'mlaen. Dw i wedi cael ambell i gnoc i'r pen dros y blynyddoedd, ond dim byd mawr. O'n i wastad yn meddwl bydd popeth yn iawn."

Dechreuodd Ffion (dde) chwarae rygbi ochr yn ochr â'i chwaer Celyn pan oedd hi'n wyth oed
Ond mae cymryd rhan yn yr astudiaeth wedi newid ei hagwedd.
"Mae'r ymchwil yma wedi gwneud i fi feddwl llawer mwy am fy iechyd. Nawr os dw i'n cael ergyd i'r pen, dw i'n stopio ac yn meddwl a ddyle fi gymryd cam yn ôl am funud."
Fel myfyriwr, dywedodd ei bod yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd iechyd yr ymennydd.
"Dw i'n fyfyrwraig ac mae angen i fi astudio, cofio gwybodaeth a defnyddio fy ymennydd bob dydd. Mae'r ymchwil yma wedi gwneud i fi sylweddoli pa mor bwysig yw hynny."
'Diffyg tystiolaeth am fenywod'
Dywedodd Ffion fod diffyg ymchwil ar athletwyr benywaidd wedi bod yn broblem ers blynyddoedd.
"Yn hanesyddol, dim ond tua chwech y cant o ymchwil gwyddor chwaraeon sydd wedi canolbwyntio'n llwyr ar athletwyr benywaidd."
Yn ei barn hi, mae angen i fenywod gael yr un lefel o ymchwil â dynion er mwyn deall y risgiau'n iawn.
"Dydy hi ddim yn dderbyniol bod protocolau fel asesiadau anafiadau i'r pen mewn rygbi yn cael eu seilio ar ddata dynion ac wedyn eu haddasu ychydig ar gyfer menywod felly ma' mor braf gweld bod nhw o'r diwedd yn ymchwilio i effaith ergydion i'r pen ar ferched."

Mae Ffion yn un o 30 o chwaraewyr sy'n cymryd rhan yn yr ymchwil gan Brifysgol Caerdydd
Er ei bod yn cyfaddef bod yr ymchwil wedi gwneud iddi boeni mwy am effeithiau hirdymor cnociau i'r pen, dywedodd na fyddai hynny'n ei hatal rhag chwarae.
"Y gwir yw nad oes cymaint o ymchwil wedi cael ei wneud ar ferched ag sydd wedi cael ei wneud ar ddynion.
"Dydyn ni ddim yn gwybod yn iawn beth yw effaith cael knock i'r pen dro ar ôl tro."
Dywedodd hefyd ei bod wedi gweld effaith cyfergyd ar rai o'i chyd-chwaraewyr.
"Mae nifer o'r merched wedi cael cyfergyd ac mae hynny wedi effeithio ar eu bywydau pob dydd ac ar eu hastudiaethau.
"Mae un o ffrindiau fi heb allu dychwelyd i chwarae rygbi ers tua chwe mis oherwydd bod symptomau'r cyfergyd yn parhau."
'Mae bechgyn yn cael mwy o sylw'
Ymhlith y rhai sy'n croesawu'r ymchwil mae disgyblion Blwyddyn 8 Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.
Dywedodd Myfi sy'n chwarae i Glwb Rygbi Cymry Caerdydd (CRCC) ei bod yn bwysig gweld mwy o ymchwil yn canolbwyntio ar ferched.
"Mae'n dda cael ymchwil ar ferched achos yn aml mae bechgyn yn cael mwy o sylw o fewn chwaraeon."

Mae Myfi ac Elin yn chwarae i Glwb Rygbi Cymry Caerdydd
Dywedodd Elin fod gwahaniaethau corfforol rhwng dynion a menywod yn gwneud yr ymchwil yn arbennig o bwysig.
"Mae cyrff bechgyn a merched yn wahanol iawn ac mae'n bwysig bod ymchwil yn edrych yn benodol ar effaith hyn ar ferched."

Mae Amelia ac Esyllt yn credu bod angen mwy o addysg am effeithiau anafiadau i'r pen
Dywedodd Amelia, sy'n chwarae i glwb rygbi Cwins Caerdydd ei bod yn ymwybodol o'r risgiau.
"Sai'n siŵr sawl ergyd fi wedi cael i'r pen ond rhan fwyaf o'r amser os mae'n ddifrifol nai fynd oddi ar y cae neu os fi'n teimlo'n iawn nai gadw arno ar y cae a dyfalbarhau."
Ychwanegodd: "Fi'n meddwl dylai fe fod yn hafal faint o ymchwil sydd rhwng merched a bechgyn."
Dywedodd Esyllt fod chwaraewyr weithiau'n teimlo pwysau i aros ar y cae.
"Fi wedi cael ergyd i'r pen cwpl o weithiau a fi'n credu weithiau chi jyst mo'yn aros ar y cae a parhau i chwarae, dim ots os ma'n brifo achos chi ddim mo'yn gadael tîm chi lawr."
Yn ei barn hi, mae angen mwy o addysg am effeithiau anafiadau i'r pen.
"Fi'n credu dylen ni gael ein haddysgu mwy be' yw'r effeithiau achos os 'dych chi ddim yn mynd ar ôl brifo mae'r effeithiau yn gallu bod wedyn, dim yn syth."
'Ddim eisiau aros ugain mlynedd'
Mae'r astudiaeth yn dilyn 30 o chwaraewyr rygbi benywaidd dros dymor cyfan, gan ddefnyddio gwarchodwyr ceg arbennig i fesur nifer a chryfder yr ergydion i'r pen maen nhw'n eu profi yn ystod gemau.
Mae rhai o'r chwaraewyr hefyd yn cael sganiau MRI manwl i fonitro unrhyw newidiadau yn eu hymennydd dros amser.

Mae'r gwarchodwr ceg yn mesur nifer a chryfder yr ergydion i'r pen yn ystod gemau
Yn ôl arweinydd y prosiect, Dr Peter Theobald, dyma'r tro cyntaf i ymchwil o'r fath gael ei gynnal ar fenywod.
"Er bod ymchwil ar gyrff athletwyr gwrywaidd wedi dangos cysylltiad rhwng chwaraeon cyswllt a chlefydau'r ymennydd, dydy astudiaeth debyg erioed wedi cael ei chynnal ar fenywod."
Ychwanegodd fod tystiolaeth yn awgrymu y gallai ymennydd menywod fod yn fwy agored i anaf.
"Gyda mwy a mwy o fenywod yn cymryd rhan mewn chwaraeon ledled y DU, mae angen brys am ymchwil sy'n canolbwyntio'n benodol ar fenywod er mwyn llywio polisïau, canllawiau diogelwch a phrotocolau chwaraeon yn y dyfodol."
Dywedodd mai'r bwriad yw rhoi gwybodaeth gliriach i chwaraewyr am y risgiau sy'n gysylltiedig â chwaraeon cyswllt.
"Ein nod yw deall effaith ergydion ailadroddus i'r pen yn llawer cynt nag oedd yn bosib yn y gorffennol.
"Dydyn ni ddim eisiau i chwaraewyr benywaidd heddiw orfod aros ugain mlynedd i wybod a ydyn nhw mewn mwy o berygl na dynion neu beidio."
'Rhoi hyder i'r genhedlaeth nesaf'
Dywedodd Ffion ei bod yn gobeithio y bydd canlyniadau'r ymchwil yn helpu mwy o ferched a menywod i gymryd rhan yn y gamp.
"Mae'r ymchwil yma'n bwysig iawn. Gobeithio y bydd yn annog mwy o ferched a menywod i gymryd rhan mewn rygbi.
"Os bydd gen i blant yn y dyfodol, hoffwn i wybod bod ymchwil fel hyn wedi cael ei wneud fel bod rhieni'n gallu teimlo'n fwy hyderus am eu merched yn chwarae'r gêm."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.