'Apocalyptaidd' a 'brawychus' - Cymry'n wynebu tanau gwyllt yn Ffrainc

- Cyhoeddwyd
Mae Cymry sy'n byw yn ne-orllewin Ffrainc yn dweud eu bod yn poeni am y tanau gwyllt sydd wedi lledaenu yn yr ardal, wrth i ragolygon tywydd poeth rybuddio y gallai'r sefyllfa waethygu.
Mae Mererid George, sy'n wreiddiol o Aberystwyth ac wedi byw yn Bordeaux ers 16 o flynyddoedd, yn ystyried gadael y ddinas gyda'i phlant wrth i'r tân yn Gironde nesáu.
Mae'r artist Dewi Tudur, sy'n byw yn ardal Charente, ychydig oriau o Bordeaux, wedi disgrifio ei brofiad o deithio ger y tanau fel un "apocalyptaidd" a "brawychus dros ben".
Mae mwy na 200,000 o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi yn ardal Gironde, gyda'r tân bellach tua naw milltir (15km) o dde Bordeaux.

Mae Mererid George yn byw yn Bordeaux gyda'i theulu
Dywedodd Mererid wrth Newyddion S4C fod y sefyllfa wedi gwaethygu bob dydd dros yr wythnos ddiwethaf.
"Bob bore ni'n dihuno ac yn gobeithio cael newyddion da ond mae 'di bod yn newyddion drwg bob bore," meddai.
"Felly dwi lot yn fwy pryderus na'r blynyddoedd diwetha' - dwi'n poeni go iawn.
"Heddiw yw'r diwrnod cyntaf i fi ddechrau pryderu yn wirioneddol."
Mae Mererid yn gweithio gartref ac yn dweud ei bod wedi ceisio bod yn "bositif a phragmatig" am y sefyllfa, gan ymddiried yn y gwasanaethau brys i reoli'r tanau.
Ond mae'n "meddwl mynd â 'mhlant i mas o Bordeaux 'fory," meddai.
Mae'r lluniau a'r fideos o'r tanau wedi ei dychryn yn ogystal â sylwadau diffoddwyr tân eu hunain eu bod yn cael trafferth rheoli'r fflamau.
Mae'r tanau yn Gironde wedi llosgi mwy na 42,000 hectar o dir ac wedi dinistrio tua 240 o gartrefi, yn ôl ffigurau diweddaraf.
Mae disgwyl i'r tymheredd gyrraedd 39C yn ne-orllewin Ffrainc yr wythnos hon, heb law yn y rhagolygon tan ddydd Gwener.
'Apocalyptaidd'
Roedd yr artist Dewi Tudur sy'n byw yn Ffrainc wedi gorfod teithio'n agos at y tanau er mwyn mynd â'i ferch i'r maes awyr.
"Dwi ddim yn mynd i betruso am ddefnyddio'r gair 'apocalyptaidd' oherwydd dyna oedd hi," meddai wrth siarad ar Dros Frecwast.
Dywedodd iddo weld nifer fawr o gerbydau brys ar y ffordd, gan gynnwys tua 70 i 80 o ambiwlansys a 50 o ddiffoddwyr tân.
Wrth iddo nesáu at Merignac, dywedodd fod y sefyllfa wedi gwaethygu, gyda'r awyr yn troi'n felyn a choch oherwydd y tân.
"Roedd hi'n anhygoel o brofiad i fod yn onest, brawychus dros ben," meddai.
Dywedodd Dewi fod yr ardal o amgylch Gironde yn llawn coed pinwydd, sydd yn hawdd eu cynnau, a bod y tanau wedi lledaenu'n gyflym o ganlyniad.
Mae'r ardal hefyd yn cynnwys gwinllannoedd enwog, a dywedodd Dewi ei bod yn "beth erchyll" gweld rhai ohonynt yn cael eu difrodi gan y fflamau.
"Mae cynnal gwinllan yn waith mor galed, i weld rhain yn diflannu o flaen ein llygaid ni, mae'n beth erchyll," meddai.

Mae Dewi Tudur yn dweud bod arogl chwerw wedi bod yn yr awyr yn sgil y tanau gwyllt
Dywedodd fod y sefyllfa o amgylch ei gartref ei hun wedi tawelu rhywfaint, ond ei bod yn parhau'n ansicr.
"Dwi'n eistedd yma rŵan tu allan i'n cartref ni mewn pentref bach a 'da ni mewn lle ffodus ofnadwy," meddai.
Dywedodd fod yr awyr yn glir yn ei bentref fore Mawrth, ond bod arogl chwerw yn yr awyr ychydig ddyddiau ynghynt.
"Mae'r newyddion 'ma yn dod o un ochr i'r llall," meddai.
Mae'r tanau gwyllt yn Ffrainc a Sbaen yn digwydd yn ystod haf o dywydd poeth iawn ar draws Ewrop, gyda'r amodau poeth a sych yn caniatáu i danau i ledaenu'n gyflymach ac i losgi'n fwy ffyrnig.
Mae'r cyngor teithio swyddogol gan lywodraeth y DU yn dweud bod tanau'n effeithio ar rannau o Gironde a Landes yn ne-orllewin Ffrainc, gyda rhai meysydd gwersylla, llety i dwristiaid ac ardaloedd preswyl wedi cael eu gwagio.
Maen nhw'n cynghori pobl sydd yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt, neu sy'n bwriadu teithio yno, i ddilyn cyfarwyddiadau'r awdurdodau lleol a'r gwasanaethau brys, ac i wirio gyda'u llety neu ddarparwr teithio cyn teithio.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
