Achub dau oedd yn trio hedfan drôn dros dân gwyllt yn Eryri

MynyddFfynhonnell y llun, Tîm Achub a Chwilio De Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwasanaethau brys wedi bod yn ceisio delio gyda nifer o danau gwyllt ar draws gogledd Cymru dros y dyddiau diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae gwirfoddolwyr timau achub yn annog pobl i gadw ffwrdd o danau gwyllt, ar ôl i ddau - oedd yn trio ffilmio gyda drôn - gael eu hachub.

Dywedodd Tîm Achub a Chwilio De Eryri fod y ddau wedi anwybyddu ffyrdd oedd ar gau a chyngor yr heddlu cyn mynd yn sownd, gan arwain at orfod eu hachub ar "wariant cyhoeddus sylweddol".

Yn ôl y tîm achub bu "cynnydd" yn y nifer o bobl oedd wedi ceisio ymweld â'r ardal, gan gynnwys achosion o wersylla gwyllt, er gwaethaf gofyn drosodd a throsodd i bobl gadw i ffwrdd.

Mae gwasanaethau brys wedi bod yn ceisio delio gyda nifer o danau gwyllt ar draws gogledd Cymru dros y dyddiau diwethaf, gan gynnwys ar fynyddoedd y Rhinogydd - lle'r oedd y mwg i'w weld o'r gofod.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu'r Gogledd wedi gofyn i'r cyhoedd gadw draw oddi wrth yr ardaloedd sy'n cael eu heffeithio.

'Costau cyhoeddus sylweddol'

Ddydd Sadwrn, dywedodd Tîm Achub a Chwilio De Eryri fod dau berson wedi "mynd i ardal waharddedig (restricted) i gael deunydd drôn o'r tanau gwyllt", gan ychwanegu bod y sefyllfa'n "siomedig iawn" ac y byddai hi wedi bod yn bosib osgoi gorfod eu hachub.

"Bydd yr achubiaeth yma yn achosi costau cyhoeddus sylweddol oherwydd y defnydd o adnoddau arbenigol ar gyfer argyfyngau, gan gynnwys hofrennydd chwilio ac achub," ychwanegodd y tîm.

"Mae wedi rhoi pwysau ar offer ac adnoddau ein tîm hefyd, sydd i gyd yn cael eu hariannu trwy godi arian elusennol a chefnogaeth y cyhoedd."

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod yn ymwybodol o ddigwyddiadau tebyg, "lle mae pobl wedi teithio i leoliadau tanau gwyllt ac angen cymorth brys yn dilyn hynny".

"Y ffordd orau gall y cyhoedd gefnogi ymatebwyr brys ydy trwy gadw i ffwrdd o'r ardaloedd sy'n cael eu heffeithio, dilyn diweddariadau swyddogol a pharchu'r holl ffyrdd sydd wedi cau a mesurau diogelwch sydd mewn grym," ychwanegodd y gwasanaeth.

Ddydd Sul, dywedodd y gwasanaeth fod y tân gwyllt ar fynyddoedd y Rhinogydd bellach yn cael ei fonitro yn dilyn glaw dros nos, heb unrhyw "arwyddion gweladwy" o'r tân yn cryfhau.

Ychwanegon nhw fod timau wedi gadael ardaloedd eraill oedd yn cael eu heffeithio, gan gynnwys Mynydd Conwy, Mynydd Bangor, coedwig Bronaber a Chwm Nantcol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.