Kemi Badenoch yn 'bryderus iawn' am alwadau am fwy o bwerau i Gymru

- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch, wedi dweud y byddai'n "bryderus iawn" pe bai Llywodraeth Cymru dan arweiniad Plaid Cymru yn cael rhagor o bwerau yng Nghymru.
Dywedodd nad yw galwadau'r prif weinidog, Rhun ap Iorwerth, am ddatganoli meysydd fel plismona a chyfiawnder, seilwaith rheilffyrdd ac Ystad y Goron yn "gredadwy".
Gwnaeth Kemi Badenoch y sylwadau wrth ymweld â gwaith galfaneiddio yn Llan-wern ger Casnewydd ddydd Gwener.
Yn gynharach, dywedodd y prif weinidog fod angen yr "offer" ar Lywodraeth Cymru i gyflawni'r gwaith.
Ysgrifennydd Cymru heb ei 'argyhoeddi'n llwyr' am fwy o ddatganoli
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Rhy gynnar i wybod am fwriad Burnham am ddatganoli - ap Iorwerth
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Rhun ap Iorwerth yn annog Burnham i 'weithredu' ar fwy o ddatganoli
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Dywedodd Kemi Badenoch fod galw am fwy o bwerau ar ôl deufis yn y swydd yn "fethiant llwyr".
Ychwanegodd: "Gadewch i ni weld beth mae Plaid Cymru yn ei wneud mewn gwirionedd.
"Y peth cyntaf maen nhw wedi'i wneud ers dod i rym yw gofyn am fwy o bwerau.
"Beth sy'n bod ar y pwerau sydd ganddyn nhw'n barod? Dydy hynny ddim yn gredadwy."
Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth gyfarfod â phrif weinidog newydd y DU, Andy Burnham, yn Glasgow ddydd Iau, a dywedodd ei bod hi'n "rhy gynnar" i wybod a fyddai'n cefnogi galwadau Llywodraeth Cymru am ragor o bwerau.
Ar ôl y cyfarfod, dywedodd fod Andy Burnham wedi mynd ati i drafod y mater mewn ffordd "ddifrifol gydag ysbryd agored".
Amddiffynnodd Kemi Badenoch hefyd record y Ceidwadwyr yng Nghymru, er gwaethaf canlyniad gwaethaf y blaid erioed yn etholiad y Senedd ym mis Mai.
Dywedodd mai rôl ei phlaid yn yr wrthblaid oedd dwyn y llywodraeth i gyfrif "drwy dynnu sylw at yr hyn maen nhw'n ei wneud yn anghywir a chynnig dewis arall".
Ychwanegodd mai'r Ceidwadwyr oedd "yr unig blaid" oedd yn dangos lle'r oedd Plaid Cymru yn mynd o'i le.
Nid oes gan Blaid Cymru fwyafrif yn y Senedd ac mae angen cefnogaeth pleidiau eraill i basio'u cyllideb a deddfwriaeth arall.
Er i Kemi Badenoch ddiystyru'r syniad o gytundeb ffurfiol gyda phleidiau eraill, dywedodd y byddai'r Ceidwadwyr yn cefnogi cynigion gan bleidiau eraill pe baent yn cytuno â nhw ac os oeddent yn cyd-fynd â pholisïau'r blaid.